Monday, October 25, 2004

Penwythnos yn y gogledd

Es i'r gogledd y penwythnos diwethaf (23-24 Hydref), gan adael Caerdydd am 6.00 fore Dydd Sadwrn. Er gwaethaf tywydd gwael iawn yn y gogledd y diwrnod cynt, doedd lefel dwr Afon Mawddawch ger y Ganllwyd ddim yn uchel iawn ac fe benderfynom ar daith ar Afon Eden - o Bont-y grible - ac Afon Mawddach hyd at westy Tyn-y-groes. Daeth ffermwr atom a'n rhybuddio nad oeddem i fynd ar Afon Eden, ond gan nad oes hawl gan ganwyr i fynd ond ar lond dwrn o afonydd, dydy hynny ddim yn newydd. Roeddem yn lwcus - roedd e'n gwrtais ac yn gyfeillgar a dweud y gwir. Ac fe'n rhybuddiodd fod ffens ar draws yr afon. Beth bynnag, roedd y daith yn hwyl, er, yn y dyfodol, fyddwn ni ddim yn trafferthu mynd mor uchel â Phont-y-grible. Well o lawer rhoi i mewn ger canolfan Coed-y-brenin.

Dydd Sul ar Afon Ogwen. Lefel y dwr yn uwch na'r tro cyntaf i mi fynd ar yr afon cwpl o flynyddoedd yn ôl. Gradd 4 go iawn. Ar ôl gweld Alan S. yn troi drosodd ac yn nofio i lawr y "gun-barrel", penderfynais i a Colin E. beidio â rhoi cynnig ar y darn hwnnw, er i Haydn lwyddo. Nofiais i ymhellach ymlaen a chael fy nhynnu i'r lan gan Duncan E. Ac wedyn gorfod rholio ddwywaith ymhellach ymlaen! Taith wych, er fy mod wedi fy nghleisio yn weddol helaeth ac yn teimlo y diwrnod wedyn braidd fel petawn wedi bod mewn ffeit .

Monday, October 11, 2004

Afon Clywedog, Dydd Sul, 11 Hydref

Diwrnod bendigedig ddoe ar Afon Clywedog. Cefais lifft gyda Rob G. a chwrdd â John C. yn Llanidloes. Roedd yr argae yn gollwng ar raddfa o 510 megalitre y dydd, tipyn yn uwch na'r 400 megalitre a oedd pan ymwelais i ddiwethaf y llynedd. Wrth adael y car ar lan yr afon siaradom â cheufadwyr eraill, o ganolbarth Lloegr oedd newydd wneud y daith, a chlywsom fod clwb o Coventry ar eu ffordd i lawr yr afon. Gwelsom ddau o Henffordd ar y diwedd a gweld pedwar arall yn gorffen hefyd felly yn amlwg roedd yr afon yn brysur.

F'argraff i oeddd ei bod fymryn yn haws gyda 500 Ml na 400. Rhedais raeadr Bryn Tail yn llwyddiannus, heb daro fy mhenelin fel y llynedd, ac roedd yr ail raeadr yn ddibroblem, tra y llynedd roedd bron â chael fy mhinio. Hefyd, roedd tôn ffantasdig tua hanner ffordd- yr orau o bosibl i mi ei phrofi, o ran hwysustra i fynd arni, rhwyddineb ymsefydlogi arni a maint cymedrol.

Diwrnod llawn - gadael gartref am 9 a chyrraedd yn ôl tua 5.15. Gwych.

Thursday, October 7, 2004

Coredau Treforys, Hydref 3

Daeth y glaw yn rhy hwyr y penwythnos diwethaf i mi drefnu taith ar afon. Y cyfan allwn ei wneud oedd mynd ar sgowt. Fe es yr holl ffordd i Dreforys i weld sut beth yw'r coredau. Rhy bell am ddim llawer oedd fy nyfarniad, ond werth eu cadw mewn cof. Ceir disgrifiad ohonynt ar y ddolen ganlynol.

http://playak.com/article.php?sid=448

Newydd sylweddoli na wnes i ddim cofnodi i mi fynd ar Afon Taf - o Fynwent y Crynwyr i Drefforest - yr wythnos diwethaf. Cychwynnais yng nghwmni Clwb Canwio Caerdydd ond roedd nifer o ddechreuwyr gyda nhw a'r datith yn araf iawn o'r herwydd. Gadawais i a Rob G. a mynd ar ein pennau ein hunain ar ôl cored Abercynon. Roedd llawer o grëyr a glas-y-dorlan i'w gweld - fel arfer rhaid dweud.