Sunday, November 21, 2004

Afon Grwyne Fawr, Tach. 21.

Ar ôl diflastod peidio padlo y penwythnos cynt, roedd hi'n braf mynd ar afon newydd i mi. Dim ond un arall oedd gyda fi, sef John C., fy nghydymaith ffyddlon. Parcion ni wrth neuadd pentref Glangrwyne cyn cychwyn am Bont Cym Fach. Oedion ni wrth gored (erchyll o berygl mewn dwr mawr) Llandenny (beth yw'r sillafiad cywir yn Gymraeg tybed?). Roedd y mesur lefel dwr yno yn dangos 3, sy, meddai'r arweinlyfr awdurdod, braidd yn isel. Oedd, mi roedd tipyn o grafu ar y ffordd i lawr ond cawsom fwynhad mawr. Digon i'n diddori. Byddai modfedd neu ddwy yn rhagor o ddwr yn hwyluso pethau (ac yn osgoi taro'r gwaelod ar ffordd i lawr un rhaeadr - Penydaren os cofiaf yn iawn) ond roedd yn braf iawn fel yr oedd. Gobeithio y daw cyfle arall yn mynd eto cyn bo hir. O, a chan bod traddodiad yn codi yn y cofnodion hyn fy mod yn cofnodi manylion cael peint - roedd tafarn ("Blue Bell") yn gyfleus iawn yng Nglangrwyne. Taith rhyw ddwy awr oedd hi  - o 11 tan 1 - felly roeddem yn y dafarn erbyn 2!

Afonydd Senni ac Wysg, 7 Tach.

Es gyda John C., Tim, ac am y tro cyntaf Clare. Ymunon ni â rhai o hen ddwylo Clwb Canwi Caerdydd (a chychwyn cyn taith gweddill Clwb Caerdydd). Lansion ar Afon Senni. Roedd lefel y dwr yn eitha isel. Dim oed dau ddigwyddiad gwerth eu cofio oedd.

Y cyntaf oedd Tim yn dringo allan o'i gwch ar ymyl y rhaeadr cyntaf gan ei fod wedi mynd yn rhy agos at y lan. Daliodd mewn cangen a thynnu ei hun allan gan adael i'w gwch a'i badl fynd dros y rhaeadr hebddo.

Yr ail oedd i mi fynd dros y 3ydd rhaeadr ar y chwith eithaf. Ran amlaf, mae hynna'n gweithio yn iawn ond y tro hwn doedd dim llawer o ddwr. O ganlyniad, stopiodd fy nghwch yn stond am eiliad ar y rhimyn cyn cwympo yn fertigol drosodd. Trawodd y gwaelod a throi drosodd. Rholiais i lan gan deimlo yn dwp a derbyn, yn raslon gobeithio, gwatwar pawb oedd o gwmpas.

Peint yn nhafarn Tai'r Bull ar y ffordd adre. Mae ar agor tan 3.30 ar Ddydd Sul nawr. Gwerth cofio.

Thursday, November 4, 2004

Afon Wysg, Tal-y-bont i Langynidr, Hydref 31

Roeddwn wedi bwriadu gwneud taith Afon Teifi ar Ddydd Sadwrn ond roedd fy nghefn yn brifo o hyd ar ôl i mi nofio yn Afon Ogwen ac roeddwn yn methu â wynebu taith hir yn y car. Ond pan glywais gan Andy R. ei fod wedi sortio'r trefniadau mynediad ar gyfer Afon Wysg penderfynais ar nos Sadwrn fod fy nghefn yn ddigon da. Ychydig o alwadau ffôn wedyn, ac roedd John C., Rob G. a Tim i gyd wedi eu recriwtio. Does fawr i'w adrodd am y daith ei hun. Roedd lefel y dwr yn eitha uchel fel had oedd rhyw lawer o gerrig yn achosi problemau. Nofiodd Tim tua'r diwedd a chawsom beint wedyn yn y Star yn Nhal-y-bont. Er cwrdd yn Nhal-y-bont tua 10.20 a gorffen tua 3 roedd tua 5 o'r gloch cyn i ni gyrraedd nôl yng Nghaerdydd. Diwrnod hir, ond boddhaol iawn, fel arfer.