Tuesday, May 3, 2005

Porthcawl eto ac Ynys Môn

Rwyf yn araf yn cofnodi pethau eto. Ar Ddydd Sul 25 Ebrill es i Borthcawl i syrffio gyda John C. a chael hwyl eto: y tonnau yn eitha bach ond o leiaf yn llunaidd.

Ar Ddydd Sadwrn 1 Mai a Dydd Sul 2 Mai bues yn symposium ceufadio y môr blynyddol ASSC, Porthdafarch ger Caergybi. Roedd ychydig dros 150 o bol yno. Ar y Dydd Sadwrn ymunais ar daith "Crash and Smash" i drwyn Rhoscolyn er mwyn dysgu sut i drwsio cwch oedd wedi ei ddifrodi. Tim a Barry oedd yr hyfforddwyr oedd yn ein harwain. Ceisiodd Barry falu ei gwch - y Romany cyntaf a adeiladwyd - ar greigiau ond yn y diwedd roedd rhaid ymosod arno gyda morthwyl i'w dyllio. Roedd rhai o'r ymgeisiau i'w atgyweirio yn weddol llwythiannus - Flash tape ddim yn ddrwg ond epoxy dwy ran oedd orau.

Ar Ddydd Sul, a'r gwynt F3-5 yn chwythu o'r de dewisais fynd ar daith o Gemlyn i Borth Llechog - pellter o 10k. Dim ond 2 awr gymrodd ac fe gymrodd y teithio yno ac yn ôl yr un mor hir. Tipyn o wastraff o amser. Phil a Harry arweiniodd. Bydd Phil, Harry a Barry yn ceisio ceufadio o gwmpas Prydain, yn dechrau heddiw neu yfory. Y cam cyntaf fydd taith 45 milltir i Ynys Manaw. Deallaf fod Nick o Surflines Llanberis yn ymuno â nhw am y cam cyntaf hwnnw.