Saturday, February 18, 2006

Afon Taf, Dydd Sadwrn 18 Chwefror

Aeth 5 ohonom, fi, Matt, Phil D., Paul Mc, Dave C, ar yr afon o Fynwent y Crynwyr i Drefforest. Hwn oedd y tro cyntaf i bawb ond Matt a fi wneud yn darn yma. Llwyddodd Phil wneud ei rol cyntaf mewn dwr gwyn, a dyna uchafnwynt y daith mae'n debyg. Lefel y dwr: 5 (isel) ar y mesurydd uwchben cored Abercynon.

Sunday, February 12, 2006

Syli a Southerndown, 11 a 12 Chwefror

Penwythnos prysur. Ar ôl sesiwn yn y pwll fore Dydd Sadwrn es ar fy mhen fy hun i Syli am dro ar y môr: ychydig heibio i Drwyn Larnog ac yn ôl. Pan gyrhaedddais yn ôl tua 4.30 roedd rhyw tri chwarter awr o hyd tan ben llanw, a'r llanw yn dal i lifo, gan achosi ras bach rhwng y tir mawr a'r ynys o hyd. Roedd y tywydd yn oer ond yn braf, a'r môr yn llonydd iawn.

Ddydd Sul, roedd y tywydd wedi newid. Roeddwn wedi trefnu cwrdd â Dave C. , ac fe gyrhaeddodd rhyw 25 munud yn hwyr am 10.25. Roedd tipyn o wynt - o gwmpas ffors 3 i gyfeiriad y lan, ond dim llawer o donnau, ond roedd yr ychydig o donnau oedd yna yn ddigon i mi, a finnau heb arfer â'm cwch newydd eto. Cychwynnon tua'r dwyrain, yn erbyn y llanw (oedd ar drai, pehn y trai i fod am 12.15) a mynd heibio i Drwyn y Witch. Roeddwn am droi yn ôl gan fy mod braidd yn nerfus, ac fe droion ni i'r cyfeiriad arall felly gan fynd ychydig heibio i Southerndown. Roedd y gwynt ar ein cefnau fymryn nawr, a'r tonnau hefyd. Roeddwn i'n falch cyrraedd y traeth heb broblem. Chwaraeom ni yn y tonnau am ychydig wedyn cyn mynd i'r lan tua12.30, wedi cael tua awr a hanner ar y dwr. Cawl a pheint yn y dafarn cyn mynd adre i wylio gêm Cymru a'r Alban wedyn.

Tuesday, February 7, 2006

Y Barri, Dydd Sul 5 Chwefror

Fy nhaith gyntaf yn fy ngheufad newydd yn y De. Cwrddais â Grant uwchben Bae Jackson yn y Barri. Roeddem ar y dwr tua 10.45 ac fe aethom ar hyd yr arfordir i'r gorllewin, mor bell â Ffont-y-gari, cyn troi yn ôl tua 11.30, 10 munud cyn pen llanw. Roedd y llanw yn amlwg yn llifo yn ein herbyn pan gyrhaeddom y pentir olaf wrth Fae Jackson. Gorffennodd y daith â fi yn rasio yn erbyn cwch rhwyfo o'r clwb hwylio gyda phedwar rhwyfwr oedd allan yn ymarfer, a roliais (yn llwyddiannus yn ffodus) i oeri ar y diwedd. Taith o gwmpas 10 milltir yn ôl fy nghyfrif i, y'n gloygu mae'n rhaid ein bod wedi cael cryn gymorth gan y llif ar y rhan gyntaf. Diwrnod braf. Roedd y dwr yn llonydd, a'r tywydd ychydig yn gymylog ar y dechrau ond yn heulog erbyn y diwedd. Tynnais y lluniau ar y diwedd oll, tua 1.15pm.