Sunday, April 16, 2006

Ynys Dewi, Dydd Sadwrn, 15 Ebrill

Taith wych o gwmpas Ynys Dewi yng nghwmni Colin a Sue E., Jeff L. a Steve W. Gadawon Draeth Mawr ryw chwarter awr ar ôl distyll. Gwahanodd y grwp ar ddamwain yn ddau bron yn syth trwy gamddealltwriaeth. Aeth Jeff a fi tuag at graig Wahan a dal y llig yn syth lawr i ben gogleddol Ynys Dewi tra aeth y lleill yn is i lawr a gweithio i lan ar hyd yr arfordir. Treuliom dros ddwy awr yn mynd i lawr yr ochr orllewinol, yn mynd i mewn i ogofeydd a thrwy gilfannau yn y creigiau. Gwelom sawl twll chwythu, ac aethom i mewn i weld yr "ystafell werdd": ogof lle mae gwawl werdd hyfryd. Roedd morloi yn gwmni i ni am yr awr olaf, yn nofio ac yn llamu o'n cwmpas. Ym mhen gwaelod yr ynys roedd y llif yn ein erbyn wrth i ni fynd trwy Dwll y Dillyn. Yn fuan wedyn, gwelom draeth yn llawn o forloi - tua 50 byddwn yn tybio - a nfion rhyw hanner dwsin atom. Cododd un ohonynt ei law a'i roi ar gefn cwch Colin, ac roedd fel petaent yn ein hela ni o'na! Roedd y Bitches newydd ddechrau llifo pan aethom drwodd, ar ôl i mi geisio, a methu, mynd ar y don rhyw ddwyawith. Byddai wedi tyfu yn eitha mawr, gan ei fod yn llanw Spring, 6.7m. Doedd dim cythrwfl yn y dwr yn rhoi arwydd o graig Horse ac fe saethom gyda'r llif (yn mynd 9.7 milltir yr awr ar un adeg yn ôl GPS). Cyrraeddom yn ôl tua 7.30, bron 4 awr ar ôl cychwyn.

Thursday, April 13, 2006

Dydd Iau, 13 Ebrill.

Nos Fercher clywais eitem ar y newyddion bod merch wedi ei chludo i'r ysbyty ar ôl damwain ar Afon Gwy ger y Clas-ar-wy. Postais neges ar fforwm http://www.ukriversguidebook.co.uk/forum/viewtopic.php?t=13776. Y bore yma, dyma fi'n cael galwadau ffôn gan ITV a'r BBC yn gofyn i mi wneud cyfweliad amdani, gan fod y ferch 9 oed wedi marw. Gwnes gyfweliad â'r BBC a ddangoswyd ar newyddion S4C. Wyddwn i ddim o fanylion y ddamwain wrth gwrs. Fy namcaniaeth bersonol yw bod canw y teulu o 3 wedi troi drosodd, bod y 3 wedi eu gwahanu yn y dwr a bod y ferch wedi ei hysgubo i ynys neu frwyn a'i bod wedi ei dal yno am dipyn ac erbyn i'w thad/achubwyr ei chyrraedd ei bod wedi oerio.

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4900000/newsid_4906900/4906934.stm

Bae Caerdydd, Dydd Sul 9 Ebrill

Diwrnod ar y Bae yng Nghaerdydd, mewn sesiwn ar sut i hyfforddi ceufadio môr. Cawsom bob math o dywydd, gan gynnwys heulwen a chesair. Daeth y cesair yn y prynhawn pan oeddem yng nghanol y Bae. Amser cinio fe lanion ni a mynd am baned yn Coffee Heaven neu rywle felly. Tynnon ni lygaid pawb gan ein bod yn eistedd wrth y byrddau y tu allan yn ein dillad ceufadio. Ar y diwedd, rolias i ddwywaith er mwyn ymarfer. Dylwn i fod wedi gwybod yn well. Mae ansawdd dwr y Bae yn warthus. Dydd Mawrth es i'n sâl gyda phoenau yn y bol barodd am dridiau. Boed yn rhybudd i chi i gyd.