Saturday, March 29, 2008

Lligwy, Tryweryn, Afan, Wysg a Rest Bay

Dydw i ddim wedi bo dyn cofnodi teithiau'n gydwybodol eto. Gan weithio'n ôl:

Dydd Llun 24 Mawrth: es gydag Euros ar Afon Lligwy, o dan Bont Gyfyng i lawr tan ar ôl rapid y Goedwig. Roedd y dwr yn weddol isel, a'r rapid olaf yna llawer yn haws nag oeddwn i'n ei gofio - neu ei fod yn fwy anodd o lawer pan fo lefel y dwr yn uwch. Cwta awr gymrodd y daith.

Dydd Sul 23 Mawrth: es gyda Mei ac Euros i Dryweryn. Dyma'r tro cyntaf i'r ddau ohonynt fod ar yr afon. Roeddent yn gollwng 10cumec. Cawsom un daith lwyddiannus i lawr at heibio i bont yr NRA - neb yn gorfod rolio er iddynt ddod yn agos at wneud wrth bont Mrs Davies. Ar yr ail daith i lawr, ceisiom ni fentro ychydig yn fwy. Methais i dorri allan ar ben y tro uchwben y Fynwent ond cywirais fy hun a mynd yr holl ffordd i alwr. Yn anffodus, methodd Mei a nofiodd, gan dderbyn sawl drawiad ar ei goesau. Rhoddodd y gorau a rhedodd gyda ei raff taflu i amddiffyn fi ac Euros hyd at y diwedd.

Dydd Sadwrn 15 Mawrth: es gyda Mei, Euros, Matt a Phil D ar Afon Afan. Gwaetha'r modd, roedd lefel y dwr gryn dipyn yn is na'r tro o'r blaen ac fe garfon ein ffordd i lawr braidd. Nofiodd Euros unwaith ar y darn rhwng y ddwy bibell.

Dydd Sadwrn 8 Mawrth (os cofiaf yn iawn): es gyda Mei, Euros, John C a John O'C ar Afon Wysg, o Dal-y-bont i Grughywel. Roedd y dwr yn eithaf uchel. Nofiodd John O'C ar raeadr y Felin (oedd yn ei ganw agored chwaraeus newydd), a bu bron iddo wneud ond ei fod wedi llwyddo dringo i'r lan wrth Spuller's Folly.

Ac yn yr wythnosau cyn hynny, gwnaethom un daith arall ar Afon Wysg, o Dal-y-bont i Langynidr (gyda John C a Rob rwy'n credu) a chwpl o ymweliadau â Rest Bay: un ar y Dydd ASadwrn pan oedd Cymru'n chwarae (yr Eidal?) yn y prynhawn. Paul Mac oedd wedi gwahodd aelodau'r Clwb i gwrdd yno tua 10.30, pan oedd y llanw newydd droi ar drai. Twp: yn lle cael tonnau gweddol, cawsom nhw'n mwynd yn wannach ac yn wannach. Yr wythnos gynt, pan es gyda Mei, Euros a John yn unig, cawson rai gwell o lawer.