Sunday, June 28, 2009

Abergwaun i Abercastell, Dydd Sul 28 Mehefin

Efallai dyma'r cyflymaf i mi erioed cofnodi taith. Gyda'r nos yr un diwrnod. Es gyda Colin a Sue E. Cychwyn o harbwr Abergwaun isaf am 13.00 (er cwrdd am 10.30 dyna'r amser gymrodd i ni trefnu'r wennol, sef mynd ta'm car i'w adael yn Abercastell) . Un ystyriaeth anarferol i'r daith oedd sicrhau ein bod yn osgoi'r fferis - yn enwedig yr un cyflym. mae'n ddigon hawdd, o safle gwe Stena, gwled pryd maen nhw'n gadael ond rhaid gofyn yn y swyddfa am syniad am bryd maen nhw'n cyrraedd. Mae amseriad llif y llanw'n eitha cymhleth hefyd. Mae eisiau gadael awr ar ol pend llanw Aberdaugleddau, sy'n golygu, mwy neu lai, gadael ar benllanw lleol er mwyn cael y gwrthlif i'r gorllewin at Ben Caer. Ond ling-di-long yw hi wedyn gan nad ydych eisiau mynd o gwmpas Pen Caer tan 4 awr ar ôl penllanw Aberddaugleddau oherwydd dim ond pryd hynny y mae'r prif lif yn troi i'r gorllewin. Ta beth, fe lwyddon ni gadw at yr amserau hynny gyda'r canlyniad ei fod bron yn hollol lonydd o gwmpas Pen Caer. Ychydig o wynt deimlon ni tan fynd o gwmpas Pen Caer ond wedyn roedd y gwynt o'r dwyrain/de yn ein wynebau neu'n dod o'r chwith yn aml. Un rhuthr mawr ar draws y bae i Abercastell wedyn, a chyrraedd yno o gwmpas 17.00 - yn y glaw! (ond roedd hi wedi bod yn braf am hanner cyntaf y daith, tan mynd heibio i Ben Caer).

Monday, June 22, 2009

Llangennydd i Bort Einon, Dydd Sul 21 Mehefin

6 ohonom wnaeth y daith hon. Gyda fi roedd Andrew B, Colin a Sue E., Adrian a Jim. Cwrddom ym Mhort Einon am 10.30 a daeth Jim â'i dreilar i ni gyd fynd i Langennydd. Roeddem ar y dŵr am 13.00, awr ar ôl y distyll. Gwelom forloi ger ochr ogleddol Pen y Pyrod. Roedd y tywydd yn sych, er yn gymylog, a dim llawer o wynt, F3 efallai, o'r gorllewin. Roedd tonnau sylweddol wrth i ni fyn do gwmpas Pen y Peryd, yn dwyn Ynys Lawd i gof a dweud y gwir. Byddai'n ddiddorol gweld pa mor fawr fydden nhw, pe bai'r gwynt yn erbyn y llanw a llanw mwy (rhwng springs a neaps oedd ar y diwrnod). Beth bynnag, rownd â ni'n ddi-anaf, glanio ar y traeth cyntaf am ginio cyn parhau a chyrraedd Port Einion am 17.00. Ymarfer rolio, a llwyddo - 3 gwaith!

Friday, June 19, 2009

Ynys Echni eto! 31 Mai 2009


Taith wych arall. Dim ond dau ohonom y tro hwn, fi ag Emlyn. Heblaw am hynny, roedd yn ddigon tebyg i'r datith ddiwethaf: gadael Swanbridge ryw awr cyn penllanw a dod yn ôl ar ôl treulio ryw awr i gyd ar yr ynys. Doedd e ddim yn llanw mor fawr y tro hwn a olygai na chawsom gymaint o gymorth ganddo ar y ffordd yno, na chael ein hysgubo yn ôl mor gyflym chwaith. Canlyniad y gwahaniaethau hynny oedd ei fod wedi bod yn agos braidd i ni gyrraedd mewn pryd, a fi'n gweiddio f'anogaeth i Emlyn, ac ar y ffordd yn ôl, pasion ni yn agos at foi'r Wolves. Pan adawom yr ynys, ryw awr ar ôl penllanw os cofiaf yn iawn, roedd hi'n o arw i ni wrth i ni fynd gyda'r cloc o gwmpas yr ynys gyda thipyn o glapotis o'r lan. Hwyl fawr!
Postiaf ychydig o luniau ar flog Padlwyr y Ddraig hefyd ond dyma rai dynnodd Emlyn.