Monday, July 27, 2009

25-26 Gorffennaf

Cofnod moel o ddwy daith, un ar y môr a'r llall ar afon Gwy.

Ar y Dydd Sadwrn padlais am y tro cyntaf yng nghwmni Simon C. Roeddwn wedi gobeithio y byddwn yn mynd i Ynys Echni ond pan gyrhaeaddon Swanbridge barnais y gallai'r amgylchiadau fod braidd yn ormod i Simon felly lan i Benarth a nôl a ni. Cawsom ddiod yn y Captain' Wife ac arhosiais i yno ar fy mhen fy hun i gael tamaid o fwyd - blas, rhaid dweud.

Ar y Dydd Sul, padlais am y tro cyntaf eto yng nghwmni ddau arall: Meic a John T. Taith o bont Kearne i lawr i Symond's Yat. Dewisodd Meic beidio rhoi cynnig ar y dŵr gwyllt ar y diwedd ond rhedodd John e ddwywaith, gan nofio'r tro olaf yn anffodus, ond dywedodd ei fod wedi mwynhau er hynny. Diod wedyn a nôl a ni, ac er bod rhagolygon y tywydd wedi bod yn wael, osgoion ni y gwaethaf, gan ddioddef gwpl o gawodydd yn unig. Y peth gwaethaf am y daith oedd fy mod yn f'inazone - sy'n rhy fach i'm hen goesau erbyn hyn a dweud y gwir.

Dwy daith ddymunol iawn.

Sunday, July 5, 2009

Ynys Môn, 3-4 Gorffennaf.

Gan fod cyfle wedi codi i mi fynd i Ynys Môn, bachais yn y cyfle i wneud ychydig o badlo.

Nos Wener es i lawr i Draeth Bychan tua 18.00 ac es lan, o gwmpas Ynys Moelfre i gyfeiriad Traeth Lligwy. Ar y ffordd, i'r gorllewin o Ynys Moelfre, es heibio i gwch deifwyr oedd yn gweithio gyda thîm a winch ar ben clogwyn yn archwilio llongddrylliad. Yn dod yn ôl roedd hi'n F4 i'm gwyneb ac yn waith caled i fynd heibio i dŷ'r bad achub. Noson braf ond gwisgais fy nghag trwchus ac oherwydd y gwynt doeddwn i ddim yn or-boeth. Tair rôl llwyddiannus - un llaw chwith - yn ymarfer ar y diwedd yn coroni'r cyfan.

Dydd Sadwrn es i Bont-rhydybont, awr ar ôl penllanw Lerpwl, i gael dechrau'r llif i lawr tuag at Gymyran. Cymrodd hynna tua thrichwarter awr ac wedyn anelais am Borthwen, Rhoscolyn. Roeddwn i'n ei weld yn eitha garw, yn enwedig pan sylwais ar y syrff yn mynd i mewn i Silver Bay (Traeth Llydan yn ôl yr OS, ond gan fod Traeth Llydan arall i'r de-ddwyrain o Rosneigr fyddai defnyddio'r enw yn y cyd-destun hwn ddim o gymorth na fyddai?). Glaniais yn y Borthwen a siarad a cheufadiwr arall oedd â dau arall - ei blant rwy'n tybio - ar fin cychwyn. Rhybuddiais i nhw ei fod braidd yn arw. Pan gychwynnais yn ôl, ar ôl eistedd yn bwyta fy nghinio tra oedd hi'n tresio bwrw, gwelais fod y môr wedi tawelu tipyn, a nhwythau, tebyg, yn meddwl 'mond yn hynod o ofnus. Es yn ôl at Cymyran, a sefyll ar un o'r creigiau tra oeddwn yn disgwyl i'r llanw droi, a gwylio pioden y môr yn rhubyddio ei chywion fy mod o gwmpas, gwrando ar ehedydd a chylfinir, a sylwi ar ruo swnllyd y rasio'n dod o gyfeiriad Aberffraw. Sylwais wedyn fod y tonnau ar Draeth Crigyll yn edrych yn dda (ddim yn fawr iawn - ond yn dderbyniol iawn i geufad y môr) ac es i syrffio am ychydig. Cychynnias yn ôl i Bont-rhyd-y-bonttau thri-chwarter awr ar ôl i'r llanw ddechrau troi (yn ôl y llyfr) ond ychydig o gymorth ges i, Weithiau, fe ddaliodd i fyny â fi, ond ran amlaf, padlo mewn dŵr bas iawn oeddwn i. Rhoddais y gorau i ddefnyddio fy mhadl Werner a bachais yn y rhai plastig rhad y byddaf yn eu cario fel rhai sbâr. Cymrodd ddwy awr a gwaith caled i mi gyrraedd yn ôl, ond o leiaf roedd y tywydd wedi brafio. Fel arfer, cyfrifiais y diwrnod fel un llwyddiannus eto.