Tuesday, May 26, 2009

Martin's Haven - trwyn St Ann, Dydd Sul, 24 Mai

I lawr i Sir Benfro eto a gwersylla yn fferm West Hook, Martin's Haven nos Sadwrn. Ar y dŵr tua 09.00, rhyw ddwy awr a hanner ar ôl penllanw Aberdaugleddau, wrth i'r llif droi i'r de trwy Swnd Jac. Y tro hwn yng nghwmni Colin a Sue, Nick King, Steve A a Richard Porthsele. Y bwriad oedd mynd i Dale ond roedd y tywydd mor braf fel fy mod i, Steve a Richard wedi penderfynu troi yn ôl pan oeddem ger y "blockhouse" heibio o drwyn St Ann a gadael i'r tri arall fynd yn eu blaen hebddom. Aethom i dde Skomer a thwry y Swnd bach - hynny o gwmpas 14.30, adeg dŵr slac. Digon o balod i'w gweld a rhyw bedwar morlo.

Afon Taf, Dydd Sul 17 Mai


Taith a drefnwyd yn y bore gan ei bod wedi bod yn bwrw glaw. Er mai 7 cumec oedd y llif nos Wener (pan aeth Euros gyda Phil, Chris â'i fab i chwarae ar gored Abercynon, a'r mesurydd, yn ôl Euros yn dangos 1), roedd hi'n rhedeg ar 17 cumec fore Dydd Sul a'r safle gwe o lefelau afon yn dweud ei bod wedi cyrraedd lefel gymedrig y gaeaf. Aethom ar y dŵr tua 14.15 os cofiaf yn iawn, a gorffen tua 17.00. Pan ffoniodd Phil am lif y dwr pryd hynny, 30 cumec gafodd e - sy, yn ôl fy narlleniad i o'r siart yn cyfateb i lefel ymhell dros gymedr y gaeaf.

Fi, Euros, Phil a  Mark wnaeth y daith. 

Llanilltud i Aberogwr, Dydd Sul 10 Mai

Taith yng nghwmni Colin a Sue E. ac Emlyn, gyda'r trai o Lamilltud, glanio ar graig Tusker a gorffen yn Aberogwr. Diwrnod braf a bron dim awel, hynny ag oedd ar ein cefnau. Dim cyffro ag eithrio dod nôl i'r cychod ar graig Tusker ar ôl ymweld eto â'r adfeilion o'r llong a gweld fod cwch Col yn y dŵr a f'un hanner i mewn: y llanw wedi troi! Ymarfer fy rôl eto ar y ffordd i mewn (ar ôl un llwyddiannus iawn ger Traeth Mawr Tŷ Ddewi) a gweld fy mod wedi ei golli eto. Daro!

Monday, May 4, 2009

Dydd Sadwrn 2 Mai: Sir Benfro

I lawr i Sir Benfro eto, y tro yma'n gadael Caerdydd tua 09.15 i gyrraedd Parrog, Trefdraeth mewn pryd i fod ar y dŵr am 13.00 - a llwyddo lansio am 13.05 yn y diwedd. Go dda. Yng nghwmni Eurion, Adrian a Steve A. y tro hwn, aethom i draeth Poppit, Aberteifi. Cymerodd tua 4 awr (19k yn ôl y llyfr). Er i ni gychwyn yn hamddenol yn ymchwilio i bron pob ogof ar ôl tua awr fe gododd y gwynt fymryn (er gan ei fod ar ein cefnau, anodd dweud i ba gryfder, yn ymylu ar F4 efallai) ac aeth y môr yn fwy garw. Dechreuodd Steve i fynd yn fwy uniongyrchol at drwyn Cemaes a finnau'n ei ddilyn ac Adrian yn cadw lan hefyd. Fe adawyd Eurion ar ôl braidd, gan ei fod yn tynnu lluniau ac erbyn iddo ddal lan gyda ni roeddem wedi mynd heibio i "Grochan y Gwrachod" (fy nghyfieithiad o'r Saesneg) yr oedd e wedi bod yn chwlio amdano. Bydd yn rhaid i ni wneud y daith eto i ddod o hyd iddi. Gorfennwyd y daith gyda fi ag Eurion yn syrffio ar donnau -oedd weithiau'n eitha mawr, digon mawr i ysgubo'r botel ddiod a'r tudalen lamineiddedig oedd gen i ar y dec i ffwrdd yn anffodus.Trwy'r borth