Tuesday, September 20, 2011

O dan ail Bont Hafren, Dydd Sul, 18 Medi 2011



Cwrddais â Wayne, Debbie a Ralph o Glwb Canwio Gogledd Avon am 08.00 ger Traeth Hafren. Roedd i fod yn benllanw ger Aust am 11.14. (Roedd rhwng Neaps a Spring a gwahaniaeth o tua 11m rhwng penllanw a'r distyll).


Anelom am y buoys oedd yn marcio'r "Shoots" i'r gorllewin ond yn fuan fe ysgubodd y llanw ni o dan y bont. Croeson ni'r afon a mynd i fyny Afon Gwy. Glaniom yng Nghasgwent er mwyn ymestyn ein coesau. Roedd yn rhaid i ni symud ein cychod o'r ffordd ar y gangway gan fod parti angladd o Asiaid ar fin mynd â llwch i'w wasgaru yn Afon Hafren. Aethom ymlaen wedyn, heibio i gastell Casgwent i'r gogledd nes i'r llanw droi. Aethom i lawr wedyn a glanio ar Graig y Capel a chael cinio, cyn mynd yn ôl.

Es i a Wayne am beint wedyn, yn y King's Arms mewn pentref cyfagos, er nad oes gen i syniad ble.

Friday, September 2, 2011

Yn y gorllewin, 30 Awst - 1 Medi


30 Awst, es ar fy mhen fy hun i Ynys Býr: Ychydig iawn o wynt ges i a'r môr yn llonydd dros ben ar y ffordd allan ac es heibio i'r Woolhouse Rocks lle roedd nifer o forloi. Es glocwedd o gwmpas Ynys Bŷr (y tro cyntaf i mi fynd y cyfeiriad hwnnw) a gweld llawer o forloi.

Gwersyllais yn Hendre Eynon ger Tý Ddewi y noson honno, a phadlo gyda Col a Sue E, a Nick K. o Boppit (Aberteifi i Barrog) ar Dydd Mercher 31 Awst. Gwelom ugeiniau o forloi. Llwyddom hefyd ddod o hyd i "Bwll y Wrach", sef yr enw ar gylch lle roedd to hen ogof wedi disgyn.

Y noson honno gwersyllais yn Poppit. Roedd y machlud yn rhyfeddol gan fod ffenestri llawer o dai ochr Gwbert yr aber yn adlewyrchu'r haul gymaint fel yr edrychent fel goleuadau coch llachar. Cerddodd (fi, C a S) i westy'r Webley gerllaw gan ddisgwyl bwyta yno (gan fod arwyddion y tu allan yn hysbysebu bod bwyd ar gael) ond pan gyrhaeddom cawsom wybod nad oedd bwyd ar gael yno y noson honno. Da i ddim. Es i nôl y car ac ymlaen â ni at yr White Hart Inn. Roedd yn 20.55 ond mynnon nhw ei bod yn 21.00 ac nad oedd bwyd ar gael gan ei bod yn 21.00. Da i ddim. Yn y diwedd cawsom sglodion o Landudoch (Bowens). Cymry yno, a bwyd da. Lwcus nad oedd hwyrach na 21.30 neu fe fyddem wedi bod allan o lwc eto.

Padlom o Aberporth i Boppit y diwrnod wedyn. Amneidiodd ddyn ar gwch atom ar y dechrau i ni fynd ato ac fe ofynnodd i ni beidio fynd ymlaen gan y byddem yn saethu taflegyrn am 14.00. Gan ei fod o gwmpas 12.30 dywedom y byddem yn mynd ymlaen gan y byddem o'r ffordd erbyn 14.00. Gwelom ddolffin ger Aberporth a ger y Mwnt. Er ein bod wedi sefyll am 14.00 i weld lansiad y taflegryn, welon ni ddim ond clywed ffrwydrad a sŵn y taflegryn (fel awyren) wedyn. A gwelom fabi morlo mawr mewn ogof ger Gwbert.

Ynys Echni, Dydd Gwener 19 Awst


Tro Euros oedd cael benthyg cwch Rob oedd hi ac aethom i Ynys Echni, gan fynd gyda'r trai o Benarth. Roedd y môr yn eithaf llonydd y ddwy ffordd. Agordd Matt dafarn y Gull a Leek inni gael peint o Gwrw Haf Tomos Watkin yr un. Treuliom gwpl o oriau ar yr ynys ac felly doedd effaith y cwrw ddim yn andwyol i'n medrau padlo ar y ffordd yn ôl.

Cofnod Twitter a llun Euros

Roedd y llanw'n isel a datgelwyd lloriau'r bylchau ger y lanfa. Dyma lun yr un allanol a chledrau a darnau haearn eraill i'w gweld.

Y Mwmbwls, Dydd Sul 14 Awst

Gan fy mod wedi cael benthyg cwch Rob tra ei fod ar ei wyliau, cafodd Iestyn gyfle ddod gyda fi ac aethom o'r Mwmbwls i Caswell ac yn ôl. Doedd e erioed wedi bod mewn cwch môr o'r blaen a ddim wedi ceufadio o gwbl ers fod ar Afon Tryweryn 4 blynedd ynghynt ac fe ymgyfarwyddodd yn dda. Daeth mâs o'i gwch yn yr ychydig o syrff pan laniom yn Caswell ond roedd fel hen law ar y ffordd yn ôl, gan syrffio'r ymchwydd oedd gyda ni(a'r gwynt ar ein cefnau).

Tryweryn, Dydd Sul 7 Awst

Es lan ar nos Sadwrn a gwersylla ar safle Tyn-y-gornel fel arfer. Ceufadais â Colin a Sue E a'u ffrind Cedric a'i ferch Emily, gan fynd o'r top i'r gwaelod gyda Col a Sue a cheufadio'r top gyda'r ddau arall wedyn. Ces beth cyffro wrth orfod cwrso padl Emily ar ôl i'w rol fethu yn y Fynwent.

Tua Phenarth, Dydd Sul 24 Gorffennaf

Wedi bwriadu mynd i Ynys Echni gyda Paul C.J., Paul arall ac aelod arall o Wyebother ond rhoddodd yr olaf y gorau cyn inni gyrraedd Ynys Sili (hen nam ar ei gefn) ac wedyn barnodd y ddau arall ei fod yn rhy arw iddynt - roedd yn ymylu ar F4 weithiau. (Cyn i hynny ddigwydd es i mewn llinyn pysgota ac aeth ei fachyn yn sownd yn y plastig ger cefn y cwch). Aethom am dro tua Phenarth yn lle.