Monday, June 24, 2013

Fferi Burton i Hwlffordd, Dydd Sadwrn, 22 Mehefin 2013

Roedd pedwar ohonom, fi, John N., Grant ac Emlyn wedi mynd i aros dros y penwythnos yn fflat John yn yr Hafan Gul. Wedi gwylio'r Llewod yn curo Awstrali yn nhafarn y Castell yn y bore, gyda gwynt F6 a chwaon F7 o'r de orllewin wedi eu rhagweld doedd dim dewis yn Sir Benfro mewn gwirionedd ond taith ar afon Cleddau.

Cychwynom o Fferi Burton (ger Tafarn y Jolly Sailor), tua 16.20, rhy hwyr mewn gwirionedd, llai na thair awr cyn penllanw (roedd y distyll am 13.00). (Tri diwrnod cyn Springs 7.4m). Cawsom y gwynt ar ein cefnau am ran helaeth o'r daith ond gwyrodd y gwynt i'r gorllewin ac roedd yn ein hwynebau wrth i ni fynd heibio i Hook. Cyrhaeddom Hwlffordd a phenllanw newydd fod ac roedd modd i ni badlo i lanio ar wair ar ochr dde'r afon. Ystadegau'r daith: 11.5 milltir y tir, 2 awr 54 munud. Cyflymder cymedrig: 3.97 milltir yr awr, cyflymder uchaf 7.46  milltir yr awr.

Map Google o'r daith

Cawsom bryd da yn y Jolly Sailor pan gyrhaeddom yn ôl yn Fferi Burton i godi'r car oedd wedi ei adael yno.

Tuesday, June 18, 2013

Porth Dafarch - Rhoscolyn ac yn ôl, Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2013

Tywydd gwych: haul a gwynt ysgafn o'r gogledd. Teithiais gyda'r llanw a'r gwynt ar fy nghefn i Borthwen, Rhoscolyn, heibio i Ynysoedd Gwylanod, ac ar ôl ciniawa ym Mhorthwen teithiais yn ôl gan gadw'n nes at lan y môr i ymweld â'r Bwa Gwyn a'r Bwa Du yn benodol.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004deb51910994677df1&msa=0
12.3 milltir (y tir), Cymerodd 3 awr 47 munud.

Gwyliau yn yr Alban, Dydd Llun 20 Mai - Dydd Mawrth 28 Mai 2013

Dydd Llun
Roedd y tywydd wedi bod yn braf ers Dydd Sadwrn ac er nad y rhagolygon yn arbennig penderfynais y byddwn yn cychwyn ar Ddydd Llun. Gadael Caerdydd tua 09.45, cyrraedd Skye tua 22.00. Codi pabell yng ngwersyll Ashaig: http://www.ashaig-campsite-skye.co.uk/index.shtml
Loch Lomond

Loch Lomond

Loch Lomond


Dydd Mawrth
Gan fod y rhagolygon yn dweud y byddai'r gwynt yn codi wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen roeddwn yn awyddus ceufadio yn syth. Dewisais geufadio o Elgol i Ynys Soay.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004dddafb5278a8c9768&msa=0

Fy nghwch ar Ynys Soay (o flaen yr hen ysgoldŷ)
Sgowtais o gwmpas Heasta gyda'r nos, gan ystyried lle awn i geufadio ar Ddydd Mercher.
Heasta

Dydd Mercher.
Roedd yn braf ond yn rhy wyntog i geufadio felly gyrrais o gwmpas Trotternish.
Storr, Trotternish

Castell Duntulm
Es i noson werin yn Neuadd Pentref Breacais gyda'r nos. Roedd hen bâr o Indiaid Cree yn perfformio, y teulu Cheechoo. Dyma fideo ohonynt mewn digwyddiad arall: http://www.youtube.com/watch?v=x-d5zlRwXgs Roedd y ffidlwr Ronan Martin yn berfformiwr arall oedd yno. 
Ronan Martin

Dydd Iau
Cefais ail noson wyntog yn y babell nos Fercher, pan gododd i Force 7 efallai. Penderfynais fod rhaid i mi chwilio am rywle arall i aros. Roeddwn wedi gobeithio gyrru i Applecross ond roedd wedi bwrw eira ac yn niwl yn y bore. Penderfynais fynd i sgowtio Plockton a Loch Carron. Ar ôl gyrru o gwmpas Skye weddill y dydd dychwelais gyda'r nos i aros mewn bync-hws yno: http://www.plockton.com/accommodation/bunkhouses/station_bunkhouse.shtml
Plockton

Dydd Gwener
Dihuno yn y bore a gweld ei fod yn ddiwrnod bendigedig. Padlais o gei Plocktoon i'r gorllewin, gan weld dau ddwfrgi. Dim ond rhyw 6 milltir o daith ond un arbennig o braf: https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004dddb266f0b00d74b2&msa=0








 Cyrhaeddais Sabhal Mor Ostaig tua 16.00.







Dydd Sadwrn
Ymunais â'r daith oedd yn mynd o Tarscabhaig o gwmpas Trwyn Sleat yn ôl i'r coleg. Roedd y gwynt yn codi wrth i'r daith fynd yn ei blaen ac roedd yn eithaf garw wrth inni fynd heibio i'r Trwyn.

Dydd Sul
Dewisiais i beidio ag ymuno ar daith: roedd un i Loch Nevis a'r llall i Ynys Soay. Mynychais sesiynau sgiliau yn lle.
Camas Darach, i'r dwyrain o'r trwyn


Dydd Llun
Ymunais â'r daith a oedd yn mynd o'r coleg i Kyleakin, taith o 19 milltir.

Ar Eilean Sionnach ger Ornsay

Ar Eilean Sionnach ger Ornsay
Dydd Mawrth
Gadewais tua 9 y bore a chyrraedd adre tua 24.00.



Ynys Echni, Dydd Mercher, 1 Mai 2013

Gwelais fod y tywydd yn gwella yn ystod yr wythnos a chymerais ddiwrnod o'r gwaith am daith i Ynys Echni. Roedd Colin yn rhydd i ddod ac felly ces gwmni. Roedd y gwylanod wedi bod yn dodwy ond dim wedi deor ac felly cawsom gerdded dros yr ynys mewn llonyddwch cymharol.
Ynys Rhonech

Colin E.

Afon Tywi, Dydd Sadwrn, 6 Ebrill

Taith ar y môr ac Afon Tywi oedd hon: o Lansteffan i Gaerfyrddin ac yn ôl, gyda Chris a'r Eades. Cychwynnom o'r clwb hwylio ychydig i fyny'r afon o Lansteffan: Clwb Cychod Tywi. Roedd Sue wedi cysylltu â nhw i sicrhau ein bod yn cael lansio yno. Cafodd Colin a fi baned a chawl ganddynt am ddim ganddynt ar ddiwedd y dydd hefyd. Diolch.


Colin ar lan Afon Tywi yng Nghaerfyrddin

Llanilltud Fawr - Aberogwr, Dydd Sadwrn, 16 Chwefror 2013

Trefnais y daith hon gyda Rob, Emlyn, Paul, Chris, a Jim. Y cynllun oedd: penllanw tua 10.15. Cwrdd yn Aberogwr tua 10.30, bod ar y dŵr yn Llanilltud tua 11.45 a chyrraedd Aberogwr tua 14.30. Roeddem lawer yn hwyrach na hynny. Yn gyntaf, pan oeddem bron yn barod i gychwyn sylweddodd Rob nad oedd spraydec ganddo. Aeth i dŷ Chris i nôl un. Wedyn, meddylion y byddai'n syniad mynd i graig Tusker ond roeddem yn rhy gynnar. Oedon ni'n hir ym mae Dwnrafn felly'n syrffio ar donnau bach (roedd yn ddiwrnod braf er braidd yn wyntog pan oeddem yn newid ar y dechrau yn Aberogwr).

Taith braf.

Ynys Echni, Dydd Sul, 6 Ionawr

Roeddwn wedi bwriadu mynd i'r ynys ar fy mhen fy hun ond pan gyrhaeddais Swanbridge cwrddais â Jim a dau arall, Kevin a John Cooke. Ar y ffordd yn ôl fe drodd John drosodd a bu'n rhaid i mi ei achub.

Afon Wysg, Dydd Gwener, 4 Ionawr

Es gyda John C. o Dal-y-bont i Langynidr.

Monday, June 10, 2013

Afon Ogwr, Dydd Mercher 2 Ionawr 2013

Taith gyntaf y flwyddyn. Es gyda Nige a oedd yn arwain, gan roi i mewn yn is i lawr yr afon - ym Mrynmenyn os cofiaf yn iawn - gan orffen ger y ganolfan hamdden yng nghanol y dref.  Roedd lefel y dŵr yn ganolig a chafwyd amser digon dymunol (a'r afon ddim yn drawiadol o drewllyd).

Ynys Echni, Dydd Sul 18 Tachwedd

Roedd y rhagolygon yn dda. Methais â threfnu cwmni felly es ar fy mhen fy hun. Pan gyrhaeddais Swanbridge roedd 3 char arall oedd yn amlwg yn geir ceufadwyr yno'n barod (am 08.20). Roedd i fod yn benllanw am 09.49 ac fe adewais am 08.55. Pan gyrhaeddais y traeth ces fy synnu i weld nad oedd traeth o gwbl - roedd yn llanw mawr (11.4m). Roeddwn wedi sylwi ei fod yn spring ond heb sylwi ar ei faint. Cwrddais â thri o'r wardeniaid gwirfoddol ar yr ynys: - merch o Gumbria a bechgyn o Gernyw a Reading - oedd newydd fod yn cyfrif adar. Es draw at y goleudŷ a gweld pedwar ceufadiwr yn dod o Ynys Rhonech. Cerddais yn ôl at fy nghwch a sylweddoli taw Eurion, Stuart, Taran a Jules oedd y pedwar.

Tynnais gwpl o luniau a phostio un ar Twitter: http://t.co/2yEuvFnD ond mae rhai Stuart, Taran a Jules lawer yn well! http://seakayaking-stuart.blogspot.co.uk/2012/11/beyond-holms.html
http://www.seakayaking-adventures.com/2012/11/breaking-dawn.html
http://welshrandomadventures.blogspot.co.uk/2012/11/voyage-of-dawn-treaders.html

Afon Ysgir, Dydd Sul, 11 Tachwedd

DIm ond John C. a Gareth y tro hwn, a llai o ddŵr na'r wythnos gynt, ac roeddem yn crafu ein ffordd i lawr.

Pont Senni - Aberbrân, Dydd Sul 21 Hydref

Es gyda Rob, John C. a Gareth. Doedd dim llawer o ddŵr - dyna pam na wnaethom Afon Senni - ond doeddem ni ddim yn crafu i lawr chwaith. Roedd yn ddiwrnod braf, di-wynt, o hydref .