Thursday, May 30, 2013

Ynys Echni, Dydd Sadwrn, 6 Hydref 2012

Cwrddais â Rob yn Swanbridge a gweld bod 4 ceufadiwr arall yno'n barod ar fin cychwyn: Jim, Stuart, Chris K.  a Steve (wn i ddim pa gyfenw). Ysgrifennodd Stuart adroddiad ar ei flog: http://seakayaking-stuart.blogspot.co.uk/2012/10/summers-arrives-at-flat-holm.html a rhoi llun ar wefan UK Rivers Guide http://www.ukriversguidebook.co.uk/forum/viewtopic.php?f=4&t=95256#p659911

Stangbwll - Angle, Dydd Sadwrn, 8 Medi 2012

Es gyda Rob. Doedd y tywydd ddim cystal  â'r addewid a gwisgais fy hen gag drwy'r daith. Dechreuodd Rob yn frwd yn archwilio bron pob ogof. Stopiom ger Llam yr Heliwr i gael tamaid a phan ddychwelom i'r môr roedd dipyn yn fwy garw a sylweddolodd Rob mor bell oedd y daith o'n blaen.