Sunday, December 19, 2004

Rest Bay, Portcawl, Dydd Sul 19 Rhagfyr

Er i mi ffonio llwyth o bobl, methais â dod o hyd i neb i fynd am daith ar Afon Tarell, fel y dymunwn. Felly, ar ôl syllu ar luniau web cam o Borthcawl trwy'r bore, es i Rest Bay ar fy mhen fy hun. Roedd y llanw ar ei uchaf am 12.10 ond camais i'r dwr 2 awr wedyn, ac aros arno am awr. Er bod degau o syrffwyr, fi oedd yr unig ceufadiwr. Roedd yr amgylchiadau yn arbennig o dda: gwynt o'r lan yn codi y tonnau yn uchel ond y rheiny'n llunaidd reolaidd. Roedd yn rhaid i mi rolio unwaith ac am y tro cyntaf pan oedd rhaid defnyddiais i rôl sgriw o'r cefn. Yn ôl y bwoi agosaf oddi ar Sir Benfro, tua 11 gradd oedd tymheredd y dwr a doedd hi ddim yn teimlo'n oer iawn chwaith.

Sunday, December 12, 2004

2 daith: Afon Gwy 28 Tach. a'r môr 11 Rhagfyr

Bythefnos yn ôl, bues ar Afon Gwy, islaw Llangurig a gorffen yn Rhaeadr Gwy, pan oedd lefel y dwr yn isel iawn, affitio trwy ddwr gwyn y "Blwch Llythyron" oedd y brif broblem. John C., Rob a Tim oedd gyda fi pryd hynny. Ddoe, am y tro cyntaf am flynyddoedd, es ar y môr. Gan bod pwysedd uchel ers dros wythnos roedd y dwr yn hollol lonydd ac roedd fel mynd am dro yn y parc. Cwrddais â Rob G. a John N. yn Cosmeston a gyrru ymlaen i Syli. Padlon wedyn i'r dwyrain i Drwyn Larnog ac yn ôl i ochr orllewinol Ynys Syli. Dechreuon ni ryw 2 awr cyn llawn isel - tua deg - a chan hynny doedd y trai ddim yn gryf iawn wrth Drwyn Larnog er bod llif pendant o hyd. Cyrhaeddon yn ôl wrth yr ynys cyn i'r llanw droi o hyd am ganol dydd. Newid braf ac yn codi'r hen ysfa ynof i badlo draw i Ynys Echni ryw ddydd.

Sunday, November 21, 2004

Afon Grwyne Fawr, Tach. 21.

Ar ôl diflastod peidio padlo y penwythnos cynt, roedd hi'n braf mynd ar afon newydd i mi. Dim ond un arall oedd gyda fi, sef John C., fy nghydymaith ffyddlon. Parcion ni wrth neuadd pentref Glangrwyne cyn cychwyn am Bont Cym Fach. Oedion ni wrth gored (erchyll o berygl mewn dwr mawr) Llandenny (beth yw'r sillafiad cywir yn Gymraeg tybed?). Roedd y mesur lefel dwr yno yn dangos 3, sy, meddai'r arweinlyfr awdurdod, braidd yn isel. Oedd, mi roedd tipyn o grafu ar y ffordd i lawr ond cawsom fwynhad mawr. Digon i'n diddori. Byddai modfedd neu ddwy yn rhagor o ddwr yn hwyluso pethau (ac yn osgoi taro'r gwaelod ar ffordd i lawr un rhaeadr - Penydaren os cofiaf yn iawn) ond roedd yn braf iawn fel yr oedd. Gobeithio y daw cyfle arall yn mynd eto cyn bo hir. O, a chan bod traddodiad yn codi yn y cofnodion hyn fy mod yn cofnodi manylion cael peint - roedd tafarn ("Blue Bell") yn gyfleus iawn yng Nglangrwyne. Taith rhyw ddwy awr oedd hi  - o 11 tan 1 - felly roeddem yn y dafarn erbyn 2!

Afonydd Senni ac Wysg, 7 Tach.

Es gyda John C., Tim, ac am y tro cyntaf Clare. Ymunon ni â rhai o hen ddwylo Clwb Canwi Caerdydd (a chychwyn cyn taith gweddill Clwb Caerdydd). Lansion ar Afon Senni. Roedd lefel y dwr yn eitha isel. Dim oed dau ddigwyddiad gwerth eu cofio oedd.

Y cyntaf oedd Tim yn dringo allan o'i gwch ar ymyl y rhaeadr cyntaf gan ei fod wedi mynd yn rhy agos at y lan. Daliodd mewn cangen a thynnu ei hun allan gan adael i'w gwch a'i badl fynd dros y rhaeadr hebddo.

Yr ail oedd i mi fynd dros y 3ydd rhaeadr ar y chwith eithaf. Ran amlaf, mae hynna'n gweithio yn iawn ond y tro hwn doedd dim llawer o ddwr. O ganlyniad, stopiodd fy nghwch yn stond am eiliad ar y rhimyn cyn cwympo yn fertigol drosodd. Trawodd y gwaelod a throi drosodd. Rholiais i lan gan deimlo yn dwp a derbyn, yn raslon gobeithio, gwatwar pawb oedd o gwmpas.

Peint yn nhafarn Tai'r Bull ar y ffordd adre. Mae ar agor tan 3.30 ar Ddydd Sul nawr. Gwerth cofio.

Thursday, November 4, 2004

Afon Wysg, Tal-y-bont i Langynidr, Hydref 31

Roeddwn wedi bwriadu gwneud taith Afon Teifi ar Ddydd Sadwrn ond roedd fy nghefn yn brifo o hyd ar ôl i mi nofio yn Afon Ogwen ac roeddwn yn methu â wynebu taith hir yn y car. Ond pan glywais gan Andy R. ei fod wedi sortio'r trefniadau mynediad ar gyfer Afon Wysg penderfynais ar nos Sadwrn fod fy nghefn yn ddigon da. Ychydig o alwadau ffôn wedyn, ac roedd John C., Rob G. a Tim i gyd wedi eu recriwtio. Does fawr i'w adrodd am y daith ei hun. Roedd lefel y dwr yn eitha uchel fel had oedd rhyw lawer o gerrig yn achosi problemau. Nofiodd Tim tua'r diwedd a chawsom beint wedyn yn y Star yn Nhal-y-bont. Er cwrdd yn Nhal-y-bont tua 10.20 a gorffen tua 3 roedd tua 5 o'r gloch cyn i ni gyrraedd nôl yng Nghaerdydd. Diwrnod hir, ond boddhaol iawn, fel arfer.

Monday, October 25, 2004

Penwythnos yn y gogledd

Es i'r gogledd y penwythnos diwethaf (23-24 Hydref), gan adael Caerdydd am 6.00 fore Dydd Sadwrn. Er gwaethaf tywydd gwael iawn yn y gogledd y diwrnod cynt, doedd lefel dwr Afon Mawddawch ger y Ganllwyd ddim yn uchel iawn ac fe benderfynom ar daith ar Afon Eden - o Bont-y grible - ac Afon Mawddach hyd at westy Tyn-y-groes. Daeth ffermwr atom a'n rhybuddio nad oeddem i fynd ar Afon Eden, ond gan nad oes hawl gan ganwyr i fynd ond ar lond dwrn o afonydd, dydy hynny ddim yn newydd. Roeddem yn lwcus - roedd e'n gwrtais ac yn gyfeillgar a dweud y gwir. Ac fe'n rhybuddiodd fod ffens ar draws yr afon. Beth bynnag, roedd y daith yn hwyl, er, yn y dyfodol, fyddwn ni ddim yn trafferthu mynd mor uchel â Phont-y-grible. Well o lawer rhoi i mewn ger canolfan Coed-y-brenin.

Dydd Sul ar Afon Ogwen. Lefel y dwr yn uwch na'r tro cyntaf i mi fynd ar yr afon cwpl o flynyddoedd yn ôl. Gradd 4 go iawn. Ar ôl gweld Alan S. yn troi drosodd ac yn nofio i lawr y "gun-barrel", penderfynais i a Colin E. beidio â rhoi cynnig ar y darn hwnnw, er i Haydn lwyddo. Nofiais i ymhellach ymlaen a chael fy nhynnu i'r lan gan Duncan E. Ac wedyn gorfod rholio ddwywaith ymhellach ymlaen! Taith wych, er fy mod wedi fy nghleisio yn weddol helaeth ac yn teimlo y diwrnod wedyn braidd fel petawn wedi bod mewn ffeit .

Monday, October 11, 2004

Afon Clywedog, Dydd Sul, 11 Hydref

Diwrnod bendigedig ddoe ar Afon Clywedog. Cefais lifft gyda Rob G. a chwrdd â John C. yn Llanidloes. Roedd yr argae yn gollwng ar raddfa o 510 megalitre y dydd, tipyn yn uwch na'r 400 megalitre a oedd pan ymwelais i ddiwethaf y llynedd. Wrth adael y car ar lan yr afon siaradom â cheufadwyr eraill, o ganolbarth Lloegr oedd newydd wneud y daith, a chlywsom fod clwb o Coventry ar eu ffordd i lawr yr afon. Gwelsom ddau o Henffordd ar y diwedd a gweld pedwar arall yn gorffen hefyd felly yn amlwg roedd yr afon yn brysur.

F'argraff i oeddd ei bod fymryn yn haws gyda 500 Ml na 400. Rhedais raeadr Bryn Tail yn llwyddiannus, heb daro fy mhenelin fel y llynedd, ac roedd yr ail raeadr yn ddibroblem, tra y llynedd roedd bron â chael fy mhinio. Hefyd, roedd tôn ffantasdig tua hanner ffordd- yr orau o bosibl i mi ei phrofi, o ran hwysustra i fynd arni, rhwyddineb ymsefydlogi arni a maint cymedrol.

Diwrnod llawn - gadael gartref am 9 a chyrraedd yn ôl tua 5.15. Gwych.

Thursday, October 7, 2004

Coredau Treforys, Hydref 3

Daeth y glaw yn rhy hwyr y penwythnos diwethaf i mi drefnu taith ar afon. Y cyfan allwn ei wneud oedd mynd ar sgowt. Fe es yr holl ffordd i Dreforys i weld sut beth yw'r coredau. Rhy bell am ddim llawer oedd fy nyfarniad, ond werth eu cadw mewn cof. Ceir disgrifiad ohonynt ar y ddolen ganlynol.

http://playak.com/article.php?sid=448

Newydd sylweddoli na wnes i ddim cofnodi i mi fynd ar Afon Taf - o Fynwent y Crynwyr i Drefforest - yr wythnos diwethaf. Cychwynnais yng nghwmni Clwb Canwio Caerdydd ond roedd nifer o ddechreuwyr gyda nhw a'r datith yn araf iawn o'r herwydd. Gadawais i a Rob G. a mynd ar ein pennau ein hunain ar ôl cored Abercynon. Roedd llawer o grëyr a glas-y-dorlan i'w gweld - fel arfer rhaid dweud.

Saturday, September 25, 2004

Moel Siabod

Roedd yr afonydd yn llifo y penwythnos diwethaf ond , unwaith eto, roeddwn yn y gogledd heb yr un canwydd yn gwmni i mi. Gollwng fy mab hynaf i ddechrau ei yrfa myfyriol ym Mangor oedd yr achos i mi fod yn y gogledd. Ta beth, ar ôl dyheu cael mynd ar Afon Ogwen, a syllu'n syfrdan ar ryferthwy Afon Lligwy wrth Bont Gyfyng, mynd i fyny Moel Siabod oedd fy ffawd yng nghwmni fy ail fab. Aethom i fyny'r crib yn y de-orllewin ac wedyn o'r copa mynd ar hyd y crib arall i'r gogledd-ddwyrain (gobeithio bod y cyfeiriadau gen i yn gywir). Gwych - dim cystal â cheufadio, ond gwych yr un fath.

Yn ystod yr wythnos wedyn, cefais fynediad i safle'r clwb rwyf yn ysgrifennydd iddo, sef Padlwyr y Ddraig.http://www. dragonpaddlers.org.uk. Gyda lwc, byddaf yn cael ei adnewyddu a chan nad yw hynny wedi digwydd ers tro, efallai y daw aelodau newydd yn ei sgîl.

Newydd geisio edrych ar maes-e: http://www. maes-e.com a gweld bod trychineb wedi taro. Mae wedi cau oherwydd rhyw fân gecru Gymreig. Gobeithio y gwelwn ei ail-agor yn fuan.

Darllenais heno hefyd am gynllun i sefydlu canolfan dwr gwyn yng Nghaerdydd. http://www.welsh-canoeing.org.uk/Mae gen i amheuon oherwydd aflendid  dwr ond ni leisiaf fy marn ar hyn o bryd beth bynnag. Mae'n gynllun cyffrous. A daw rhywbeth ohono sy'n beth arall.

Ac heno, cofrestrais yng Nghanolfan Ddringo Rhyngwladol Cymru, Taf Bargod. http://www.caerphilly.gov.uk/visiting/activities/welshinternationalclimbingcentre.htmTrwy ffawd daliais yn dynn yn y rhaff drwy'r nos a chafodd fy mab ddim anaf. (Uniaith Saesneg oedd y ffurflen gofrestru ac roedd y ferch wrth y dderbynfa yn meddwl fy mod yn cellweiro wrth ofyn oedd ganddynt un Gymraeg. Pam?)

Sunday, September 5, 2004

Penwythnos Tryweryn, 4-5 Medi

Newydd ddod nôl. Penwythnos yng nghwmni John C., Matt, Andy a Luke Peate a Grant. Digon o ymarfer achub pobl o'r afon: dau ar Ddydd Sadwrn - merch a John ar y fynwent, ac Andy a Luke (dwywaith), Andy ar y fynwent, Luke o dan bont Fedw'r Gog ac ar raeadr y Capel. Andy wedi cael anaf: cleisio ei ysgwydd/braich a dolur agored i'w glun, ond wedi byw i adrodd y hanes.

Gwersi i'w dysgu: ei fod yn well tra yn arwain pobl dros raeadr y felin i'w cael i lawr rhibedi rhes: y cyntaf i'r merddwr ddylai fod y cyntaf mas, fel bo'r ail yn gweld cwrs y cyntaf.

Sunday, August 29, 2004

Afon Taf, 26 Awst

Taith gyda'r nos o Lan-y-bad i Fferm y Fforest yng nghwmni John C., John N+2 ffrind - Peter a John arall, Grant, Andy P. ac Euros. Gadael Fferm y Fforest am 6 a chyrraedd yno tua 20.45 pan oedd bron yn dywyll. Arnofio i lawr yr afon a dweud y gwir, ond pleiniais ar waelod y gored. Aeth yn dipyn o smonach ar y gored a dweud y gwir. Gan fy mod yn brysur yn cael Euros o'r afon doedd neb yn arwain ac fe aeth pobl dros y gored mewn mannau annoeth a dweud y lleiaf. Yn ffodus, roedd lefel y dwr yn isel ac nid oedd neb damaid gwaeth.

Wednesday, August 11, 2004

Traeth Lligwy-Dulas, Sadwrn 7 Awst

Roeddwn yn teimlo ei fod yn amser hir ers i mi fod ar y dwr ac yn sylweddoli nawr ei fod dros fis. Beth bynnag, bues ar y môr Dydd Sadwrn diwethaf. Dim byd mawr, ar hyd lan y môr o draeth Lligwy i Ddulas ym Môn, yng nghwmni fy mab ieuengaf, a'm gwraig a'r ail fab yn cerdded ar hyd y lan. Uchafbwynt y daith oedd gweld morlo yn edrych arnom.

Rhan o'r rheswm nad wyf wedi bod yn ceufadio yw fy mod wedi bod yn seiclo: o Gaerdydd i Sir Fôn. Gwych. Yr ail dro i mi wneud y daith. Llwyddasom gael un lle gwely a brecwast Cymraeg, yn Byrdir, Dyffryn Ardudwy, lle ceid golygfa fendigedig dros y môr i Ynys Enlli.

www.byrdir.co.uk

Saturday, July 10, 2004

Rest Bay, Porthcawl, 4 Gorffennaf

Prynhawn yn syrffio gyda Matt, John M. a Grant. Y dwr yn dwym a, dysgais wedyn, llawer o slefrod môr, er na welais i mohonynt. (Gwelwyd heulforgi ger Porthcawl yn ystod yr wythnos hefyd yn ôl y sôn).

Tuesday, June 29, 2004

Tryweryn, 26 Mehefin

Ymweliad arall â'r hen le, y tro hwn yng nghwmni Matt, ei ymweliad cyntaf. Aethom i fyny ar nos Wener, cael ein plagio gan y chwiws, a gwneud dwy daith ar y safle uchaf ar y Sadwrn, yn y glaw yn bennaf. 10 cumec, dim llawer o badlwyr, braf iawn.

Monday, June 21, 2004

Symonds Yat

Taith i Symonds Yat gydag Euros ddoe, tipyn yn wahanol i Slofenia, ond braf iawn er hynny. Roedd yn ddiwrnod braf a heulog erbyn inni gyrraedd.Ychydig o ddwr oedd yno, a llai byth o ddwr gwyn, ond gwnaeth Euros yn dda. Fel arfer, mwynhaodd nofio yn y dwr cymaint â'r padlo mae'n debyg. Gadewais iddo wneud hynny ar ôl inni gyrraedd y gwaelod y tro cyntaf.

Roeddwn wedi trefnu cwrdd â Matt yno ac fe ddaeth â' deulu. Aeth ei wraig a'i chwaer ar ydwr mewn ceufadau er y bu'n rhaid i mi frolio fy nghymhwysterau hyfforddi er mwyn i'w chwaer gael llogi cwch.

Gorffennwyd gyda pheint a sgwrs gyda Matt a'i deulu. Dymunol iawn.

Tuesday, June 8, 2004

Taith i Slofenia

Dyma restr o'r afonydd y bues arnynt yr wythnos diwethaf:

Dydd Sul 30 Mai: cwrs slalom Eiskanal, Augsburg, Yr Almaen. Cwrs byr ond dwr mawr, Gradd 4. 4 rhediad, wedi rolio ar 3!

Dydd Llun 31 Mai: Afon Salza, Steyr, Awstria, o Wildalpen i Eizhalden, 16km, Gradd 3. Mae llun o'r don wrth y maes gwersylla i'w gael ar y ddolen ganlynol:

http://www.kajak.at/index.0.php?chapter=./Fluesse/showindex.php?bilder=1&menu=flussinfo&texl=Die&texr=Flussdatenbank

Dydd Mawrth 1 Mehefin: Afon Soca, Slofenia, o Trenta i  Bovec (yn cynnwys y 3edd ceunant), 5km Gradd 2-4. Afon Koritnica, o flwch Predil (ar ôl y geunant) i Bovec, 6km, Gradd 3.

Dydd Mercher 2 Mehefin: Afon Soca, Zaga i Trnovo, 7km, Gradd 3-4 ac wedyn Trnovo i Kobarid, 4km, Gradd 4+

Dydd Iau 3 Mehefin: Afon Gail, Awstria, o Obertillach i Birnbaum/Nosta, 28km!, Gradd 3-4

Dydd Gwener 4 Mehefin: Afon Inn, Awstria, Pfuns trwy Tosens i Prutz, 13 km, Gradd 2-4.

Ceir disgrifiadau o rai o'r rhain yn Almaeneg ar y ddolen ganlynol:

http://www.kajaktour.de/fluesse.htm

 

Thursday, May 20, 2004

Tryweryn yn yr haul

Teithiais i Dryweryn ar Ddydd Sadwrn 14 a gwersylla yno. Tywydd godidog - awyr las a dwr gwyn. Gwych. Roedd 9 cumec yn cael ei ollwng. Gwnes dwy daith ar ran uchaf yr afon ( doedd y gwaelod ddim ar agor). Doedd y Donner kebab yn nhref wyllt y Bala ar nos Sadwrn ddim cystal.

Wednesday, May 12, 2004

Morfablog

Edrychais ar maes-e.com ddoe a sylwi rhywsut fod Morfablog wedi dod ar draws y blog yma. Enwogrwydd! Os bydd rhywun arall yn darllen hyn o lith, pam na wnei di adael neges i mi wybod? Byddai'n sbardun i mi ddal ati yn sicr.

Diolch am y sylw Forfablog.

http://www.morfablog.com

Taith gyda Phadlwyr y Ddraig ar Afon Gwy

Ar Ddydd Sul, 9 Mai, bues yn cynorthwyo Andy R. yn arwain y clwb ar daith o'r Clas-ar-wy i'r Gelli Gandryll. Roedd 11 ohonom i gyd, ac i dri o blant ac un llanc dyma'r tro cyntaf iddynt fod ar afon. Doeddwn i ddim wedi gwneud y darn hwn o'r afon er Mai 2001! - ac roeddwn wedi anghofio pa mor hir y mae - canlyniad teithio gyda dechreuwyr ar ddarn o ddwr gwastad nad yw prin yn symud mewn rhai mannau. Wedi gadael Caerdydd am 9.00, roedd hi'n 6pm arnom yn cyrraedd yn ôl, er, a bod yn deg, roedd hynny'n cynnwys amser am beint ar y diwedd yn y Clas. Uchafbwynt y daith i'r plant oedd y nofio (fel arfer, well ganddynt hynny na cheufadio) - i lawr heibio i'r gored doredig tua'r diwedd - gan gynnwys dal y rhaff achub a daflwyd atynt. Digon difyr i gyd, a'r tywydd yn braf a'r dwr yn ddigon uchel fel nad oedd bron dim crafu ar hyd y gwaelod.

Monday, April 19, 2004

Ymweliadau ag Afon Tryweryn

Ymwelais â Thryweryn ddwywaith dros wyliau'r Pasg, ar Ddydd Sadwrn 10 Ebrill ac eto ar 17 Ebrill. Roedd yn gymharol dawel ar y 10fed ond des ar draws nifer yn troi drosodd ac yn dod o'u cychod. Fel arall y bu ar 17 Ebrill. Roedd yr afon i lawr i'r Bala ar agor ar gyfer teithiau a dyna pam ymwelais. Gwaetha'r modd, doedd trefniadau ar gyfer y wennol ddim yr un fath ag arfer: dim ond y padlwyr oedd yn cael lifft yn ôl, dim eu cychod. Dim iws i mi gan fy mod yno ar fy mhen fy hun. Roedd hi'n brysur yno ar yr 17eg ond ychydig a welais yn mynd i drafferthion. Bu'n rhaid i mi rolio yng nghanol "y fynwent" ond gwnes yn llwyddiannus yn ffodus a des o'na yn ddianaf felly. 

Sunday, March 28, 2004

Ymweliad Padlwyr y Ddraig â Llyn Cosmeston

Digwyddiad llwyddiannus, gyda 3 o'r aelodau yn cael eu profi am 2il seren ac yn llwyddo. Hwn oedd y tro cyntaf i nifer fod allan o'r pwll a phrofi padlo ar ddwr agored.

Sunday, March 14, 2004

Afon Ewenni

Taith ddifyr heddiw, y tro cyntaf i mi fynd ar Afon Ewenni. Ar ôl eira ganol nos Iau a glaw Dydd Sadwrn a bore Dydd Sul, roedd jyst digon o ddwr i'n galluogi fynd ar afon fechan fel hon. Dim ond dau ohonom aeth, fi a John N., ar ôl cinio. Gyrru i lawr yn gyntaf i Aber Ogwr a pharcio yn y maes parcio ger y castell. Sylwi bod arwydd yno yn rhybuddio y gallai'r lle gael ei foddi gan lawn uchel ond penderfynu nad oedd perygl o un digon mawr heddiw. Yn ôl wedyn i Ben-coed i roi i mewn. Taith o 12km, yn ôl llyfr Sladden. Cychwynnon ni tua 1.25pm a chyrraedd pen ein taith tua 3.15. Cyflymach o lawer nag oeddem wedi disgwyl. Daethom ar draws dwy gored, y ddwy yn eitha caeedig a'r ail â thipyn o dynfa yn ôl, ond dim problem. Heblaw am hynny, roedd yn dwr yn nes at Radd 1 yr holl ffordd na Gradd 2, er, gan ei bod yn droellog a changhennau coed a drysni dros yr afon mewn nifer o lefydd, byddai eisiau rhywfaint o sgiliau ar ganwydd i deithio ar ei hyd. Dim yn addas i'r dechreuwr pur felly. Gorffenom ni y daith â'r heulwen yn disgleirio, er bod y gwynt yn dal yn eitha cryf (Ffors 6 ar y môr, betia i), ac yn hollol sych. Peint yn y dafarn lan y lôn wedyn (Y pelican yn y rhywbeth) a thipyn o sgwrs cyn troi at adre.

Thursday, March 11, 2004

Porthcawl - Rest Bay

Rwy braidd yn hwyr yn cofnodi'r ymweliad ond Dydd Sul diwethaf (?7 Mawrth), es i syrffio ym Mhorthcawl, gyda John C., y tro cyntaf ers y digwyddiad pan alwodd John am y gwasanaethau argyfwng ar ôl iddo fy ngweld yn cael f'ysgubo gan y rip i'r creigiau. Er i mi ddod o 'na yn ddi-anaf, roeddwn yn falch ei fod wedi galw am gymorth. 'Ta beth, roedd yr ymweliad Dydd Sul diwethaf yn ddigon pleserus. Doedd y syrff ddim yn fawr iawn ac roeddwn i'n eitha nerfus am y rhan fwyaf o amser, yn dyfalu a fyddai fy rôl yn llwyddo pe bawn i'n troi drosodd. Ymarferais ar y diwedd gyda rhyw hanner dwsin o roliau, a gorffen â'm hyder wedi adfer ychydig.

Nos Fawrth, bu cyfarfod Pwyllgor Padlwyr y Ddraig eitha cynhyrchiol, ychydig o deithiau wedi'u cytuno a nifer wedi ymgymryd i ysgrifennu rhyw fath o asesiad risg am rai o'r safleodd byddwn yn eu defnyddio amlaf.

Sunday, February 29, 2004

Afonydd Nedd Fechan a Llia

Dim canwio heddiw gan fod yr afonydd yn sych. Cymerais y cyfle i sgowtio ychydig pan es am dro i Fan Llia a Fan Dringarth. Cefais gip ar Afon Nedd Fechan ym Mhontneddfechan a chan fod y dwr mor isel gallwn weld pa mor bell mae'r afon wedi torri i mewn i'r glogwyn ar ddechrau'r ceunant uwchben y pentref.

Dechreuodd y llwybr tuag at Fan Llia wrth faes parcio bach wrth ochr y ffordd - Bryn Llia yn ôl y map. Mae'r llun yn dangos y rhyd ar y dechrau dros Afon Llia. Yn union islaw hon, yn ôl Llyfr Chris Sladden, y mae'r lle i roi i mewn ar Afon Llia.

Friday, February 20, 2004

Dart Loop

Nodyn i gofnodi y daith drefnais ar gyfer Padlwyr y Ddraig ddydd Sadwrn diwethaf. Aeth chwech ohonom - Rob Green yn y car gyda fi, Andy Peate a'i fab Luke, Matthew a Andy Rees. Roedd lefel y dwr yn isel.