Sunday, November 18, 2012

Taith i'r Alban, 21-26 Mai, 2011

Aeth Andrew B. (Cadeirydd Glam Boaters), Rob G. a fi lan i'r Alban, gan obeithio cael wythnos o geufadio. Roedd Sue a Colin E. wedi bwriadu dod hefyd ond gan fod rhagolygon y tywydd mor wael erbyn Dydd Sadwrn 21 Mai penderfynon nhw beidio ac i fynd â'u campervan i Dorset yn lle. Anodd eu beio. Gwaetha'r modd, doedd y Andrew, Rob a fi ddim mor gall ac yn benderfynol o fynd. Ein bwriad gwreiddiol oedd torri'r daith i fyny'n ddwy a gwersylla, efallai yn Glen Coe. Erbyn i ni gyrraedd Loch Lomond, roeddem am newid y cynllyn gan ei bod yn tresio bwrw. Yn ffodus, wedi cysylltu â Glenuig Inn, lle roeddem wedi trefnu o nos Sul tan nos Fercher yn eu bync-hws, cawsom addewid o ystafell i aros y noson honno ac felly gyrrom ymlaen. Wedi gadael Caerdydd tua 09.30 cyrhaeddom Glenuig tua 20.00.

Y bore wedyn roedd yn wyntog, F5-6, ond penderfynom geisio rhoi ein trwynau ar y dŵr o draeth Glenuig a mynd i'r gorllewin i ben y loch pe bai modd. Aethom a glanio ar ynys a thywod o gregyn ond yn fuan penderfynom nad oeddem yn gallu mynd yn bell. Troeom yn ôl a gweld dwfrgi. Roeddem wedi meddwl mynd lan y loch i'r dwyrain. Roeddwn ar y blaen pan glywais weiddi a gweld bod Andy mâs o'i gwch. Padlais yn ôl yn gyflym. Roedd Rob yn ei ddal ond yn rhy ansefydlog i'w achub. Rhoddom Andy yn ôl yn ei gwch ond gan ein mynd braidd yn agos at y creigiau ger y lan chafodd e ddim llawer o amser i wagio ei gwch. Gan ei fod yn oer, penderfynom anelu at draeth, glaniom a cherddais y filltir yn ôl i Gleann Uige i nôl y car. Erbyn i ni gyrraedd yn ôl, penderfynom roi tro arall arni a gyrrom ymlaen i Loch Moidart. Gadawom o'r lan ogleddol, croesi mewn dŵr rhy fas (gan i ni beidio â sylweddoli ei fod yn sychu mor gyflym pan aeth y llanw ar drai) a phenderfynu troi'n ôl eto yn fuan ar ôl i ni gyrraedd y lan ddeuol, gan fod y gwynt yn F6 i'n wynebau.

Dydd Llun aethom i gerdded gan ei fod yn rhy wyntog o hyd. Tro "isel" Albanaidd. Roedd yn isel - uchder Mynydd Caerffili - ond yn wlyb iawn iawn. Aeth y dŵr drwy fy nhrowsus dŵrglos a'm cot dŵrglos newydd.

Cerdded eto byth y diwrnod wedyn: ar hyd lan ogledd Loch Morar i Tarbet, Loch Nevis ac yn ôl. Gwlyb iawn am ran o'r daith ac yn wyntog (wrth gwrs). Yr uchafbwynt oedd cwrdd â Frank, gofalwr 87 oed y tŷ bync yn Tarbet. Ei gyswllt â'r byd oedd radio VHF a'r cwch fyddai'n galw ddwywaith yr wythnos yn y gaeaf. Cawson hanes ei fywyd a straeon digrif a gweld y tŷ bync, a chlywed y carw ar y wal yn canu Rawhide. Gwych iawn.

Dydd Mercher fe lwyddom fynd ar y dŵr o'r diwedd gan nad oedd y rhagolygon llawn cynddrwg ag o'r blaen. Dim ond F4-6 oedd o'n blaen i fod. Aethom o gwmpas Eilean Shona gwrth-glocwedd (pan nad oedd yn bell cyn pen llanw os cofiaf yn iawn. I mi i'r gwynt oeddem ni'n mynd am lawer o'r ffordd er roedd i fod yn dod o'r de-de-ddwyrain. Yn bendant roedd i'n wynebau pan droiom o'r môr i mewn i'r aber eto, ac yn chwythu F5 cryf pryd hynny fel nad oeddem prin yn symud. Er hynny, wedi cael rhai chwaon cryf tra ar y tu allan i'r ynys teimlai fel ein bod wedi cyrraedd diogelwch.

Dyma sut y cofnodais y dyddiau ar Twitter:
Dydd Sul
Map y daith o Glenuig
Map taith Loch Moidart
Dydd Llun
Tro cerdded Dydd Llun
Map tro cerdded ger Loch Moidart
Tro cerdded Dydd Mawrth
Map tro Loch Morar i Tarbet
Map ceufadio Eilean Shona
Map taith Eilean Shona

Lluniau o'r daith

Fideo Frank yn y byncws yn Tarbet, a'r carw'n canu "Rolin, rolin, roli, rawheid!":

Afon Dart, Dydd Sadwrn 12 Tachwedd 2011

Monday, October 15, 2012

Ynys Echni, Dydd Sul 26 Awst

I Ynys Echni o Swanbridge eto, y tro hwn yng nghwmni Rob, John N. a Paul C.J. Y gwynt yn F4 i ddechrau ond wedi gostegu erbyn i ni ddychwelyd diolch byth. Heblaw fod yn rhaid i mi weiddi ar y ddau olaf ar y ffordd adre gan nad oeddynt yn edrych i weld lle roedd Rob, roedd yn ymweliad gwych eto â'r ynys - oedd bron yn ddi-wylan erbyn hyn.

Afon Wysg, Dydd Sadwrn 18 Awst 2012

Gyda'r Eades, o Dal-y-bont i Grughywel, eto - a lefel y dŵr yn uwch nag oedd ar y daith ddiwedd ac efallai'n uwch nag oedd drwy'r gaeaf pan oeddwn i ar yr afon. Roedd y dŵr ger Spuller's Folly yn gyfareddol. Roedd y dŵr mor uchel nad oedd prin cwymp yn mynd i lawr ochr chwith yr afon, a'r dŵr yn byrlymu - bron fel pe tai'n bwrw eira - ac yn ddisglair yn yr heulwen braf. Roedd yn debyg i geufadio yn yr Alpau eto. Arbennig.

Llanilltud Fawr, Dydd Gwener 10 Awst 2012

Ar fy mhen fy hun eto, a diwrnod braf eto. Es o Fae Dwnrafen i Lanilltud Fawr ac yn ôl. Roeddwn i wedi ei gadael braidd yn hwyr cyn gadael ac roedd y llanw'n dechrau troi wrth i mi fynd heibio i drwyn Nash. Cadwais i mewn yn agos at y clogwyni a doedd y dŵr ddim yn arw ond ddim yn llonydd chwaith - fydd hi byth bron yn llonydd yno. Tynnais gwpl o luniau ar y ffordd yn ôl. Mwynheais y daith heddiw'n well na'r daith y diwrnod cynt hyd yn oed.
Sain Dunwyd

Goleudŷ Nash

Ynys Bŷr, Dydd Iau, 9 Awst 2012

Wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol oedd hon. Es i'r maes y diwrnod cynt ond roedd y tywydd yn rhy braf i fynd i grwydro'r Maes eto. I lawr i Amroth â fi felly a phadlo (gwrth-clocwedd) o gwmpas Ynys Bŷr. Welais i ddim llawer o fôrloi ar yr ynys ond es yn ôl heibio i'r creigiau (sy'n diflannu adeg amser llawn - dydw i ddim eu henw) ac roedd llawer yno. Ymarferais rolio ar y diwedd yn Amroth, er mwyn oeri cymaint â dim.

Craig Tusker, Dydd Sul 5 Awst 2012

Es ar fy mhen fy hun o Fae Dwnrafn i Graig Tusker ac yn ôl. Doedd y tywydd ddim yn wych ond doedd y môr ddim yn arw chwaith, er bod ychydig o donnau wrth i mi fynd o gwmpas yr ynys. Glaw ar y ffordd yn ôl ond yn braf eto erbyn fy mod yn y maes parcio.

Sunday, October 14, 2012

Ynys Echni, Dydd Sadwrn 21 Gorff. 2012

Yr hen gronfa ddŵr ar Ynys Echni
Es ar fy mhen fy hun y tro hwn, gan adael o Benarth gyda'r llanw ar drai. Taith wych (dyna fy marn am bron pob taith ar y môr). Does dim dadl nad oedd y tywydd yn wych.

Rhosneigr, Dydd Sadwrn 14 Gorff. 2012

Fel y'i cofnodais ar Twitter: 'Cylchdaith fer geufadio môr heno, o Draeth Llydan Rhosneigr heibio i Ynys Meibion at Garreg-y-trai ger Aberffraw. Da fod nôl ym Môn.'

Afon Wysg, Dydd Sadwrn 7 Gorffennaf 2012

Es gyda'r Eades ar Afon Wysg, o Dal-y-bont i Grughywel. Mae mynd ar afonydd yn yr haf yn annaturiol i mi: does dim digon o ddŵr i fod yn ynddynt yn yr haf ond mae hen ddigon eleni!

Afon Irfon, 9 Mehefin

Es am daith gyda Phadlwyr y Ddraig. Ysgrifennais gofnod ar eu blog: http://dragon-paddlers.blogspot.co.uk/2012/06/afon-irfon-saturday-9-june-2012.html

Tuesday, August 28, 2012

Gwyliau yn yr Alban: 18-29 Mai 2012



Gyrrais lan prynhawn Dydd Gwener a chysgu yn y car ger Loch Lomond y noson honno a chyrraedd Glenuig ar Dydd Sadwrn 19 Mai.
Loch Lomond - eira ar gopa'r mynydd draw

Gan ei bod yn braf pan gyrhaeddais es yn syth mâs am dro ar y môr gan fynd o Glenuig a throi i'r de i gyfeiriad Eilean Shona. Tro tua 2 awr a hanner.
Allan o Glenuig - Eigg yn y pellter
Dydd Sul 20 Mai: es gyda Colin a Sue i badlo o Kilchoan ar benrhyn Ardnamurachan i Portuairk (tro 9 'Y Llyfr' sef 'Scottish Sea Kayaking'). Roedd y môr yn eitha llonydd ond roedd ychydig o glaptotis er hynny o hyd.


  Traeth cyn cyrraedd goleudŷ Ardnamurchan
Dydd Llun 21 Mai: roedd y tywydd yn gwella ac fe es gyda Colin a Sue o Glenuig i Ceann Tra ac yn ôl

Dydd Mawrth 22 Mai: es gyda C a S i Arisaig a phadlo o'r maes gwersyll o gwmpas ynysoedd Arisaig yn y prynhawn/hwyr

Machlud, o'r traeth nesaf at y maes gwersylla
Dydd Mercher 23: Roedd y tywydd yn wych erbyn hyn. Es gyda C a S o'r maes gwersylla yn Arisaig i Ynys Eigg a gwersylla yno y noson honno. Cymerodd y croesiad ei hun rhyw 2 awr 45 munud.
Ces beint gyda'r nos yn y caffi ger y cei. Roedd Donna'r pibydd yno i roi adloniant ond doedd neb arall yn y bar!
Map: rhan o'r ffordd i Eigg
Glanio ar Eigg

Yn Arisaig

Golwg ar ein gwersyll ar draws y bae ar Eigg

Ar lan y môr ger ein gwersyll ar Eigg

Eigg

Dydd Iau 24: dychwelyd o Ynys Eigg i Arisaig.


Fi yng nghanol ynysoedd Arisaig

Dydd Gwener 25: es ar fy mhen fy hun o Mallaig, padlo lan Loch Nevis i Inverie ac yna yn ôl i aber y loch i wersylla'n wyllt yno. Gallwn weld i ben Loch Nevis i'r dywrain a draw at yr Ynysoedd Bychain i'r gorllewin.

Tafarn mwyaf anghysbell prif dir Prydain, Loch Nevis

Ger y dafarn

Golwg i fyny Loch Nevis

Golwg i fyny Loch Nevis

Cerflun y Forwyn Fair, Aber Loch Nevis

Sbwriel y traeth lle gwersyllais

Map: O Mallaig i Loch Nevis
Dydd Sadwrn 26: padlais i Eilean Chuilinn yn Loch Hourn (gan basio teulu o ddwfrgwn yn chware ar lannau Knoydart) ac wedyn yn ôl i wersylla'n wyllt y noson honno yn Knoydart ychydig i'r de o Inverguseran. Roedd yn safle gwych, er braidd yn ddigysgod a'r haul yn danbaid hyd at ddeg o'r gloch y nos. Roedd cân y gog i'w chlywed ymhob cyfeiriad a gwelais ddwy yn cael eu cwrso gan aderyn bach. Yn y bore, gwelais ddau ddwfrgi yn nofio heibio. Map: O Loch Nevis i Loch Hourn ac yn ôl i Inverguseran

Dyfrgwn ger Knoydart

Dyfrgwn ger Knoydart

Dyfrgwn ger Knoydart

Loch Hourn

Dydd Sul 27: padlais yn ôl i Mallaig (gan oedi ychydig i wylio llamhidydd ger aber Loch Nevis) a dal y fferi am 14.40 i Ynys Skye a gwersylla'r noson honno mewn gwersyll ar lan ddeheuol Dún Bheagán.
Map, o Knoydart yn ôl i Mallaig
Dydd Llun 28: roedd C a S am badlo o Stein in Dún Bheagán ond roedd y gwynt o'r gogledd-ddwyrain yn F4-5 yn rhy gryf iddynt ac ar ôl gyrru i Stein fe ddychwelom i Loch Dún Bheagán a gwneud tro bach o'r lle roeddem wedi bwriadu gorffen lan y loch ac wedyn yn ôl i'r maes gwersylla (ar ôl stopio i gael hufen iâ yng ngardd y castell).
Castell Dún Bheagán

Dydd Mawrth 29: padlais gyda C a S o Harlosh o gwmpas Wiay (tro 14 'Y Llyfr'), a chychwyn gyrru adre wedyn am 16.15, gan gyrraedd gartref tua 09.30.
Ar lan y môr yn Harlosh
Map: taith o gwmpas Ynys Wiay

Ynys Echni, Dydd Sul 13 Mai 2012

Es ar fy mhen fy hun. Siaradais â hwyliwr o glwb hwylio y Sili oedd ar ei ffordd i'r ynys a chael sgwrs gydag e pan oedd wedi glanio ar draeth y dwyrain. Sefais i ddim yn hir ar yr ynys gan fod y gwynt yn codi: F4 ar y ffordd adre.

Harbwr Poole, Dydd Sadwrn 24 Mawrth

Ein cychod ar Ynys Brownsea
Gan fod Chris am brynu cwch gan ddyn yn Bournemouth, es i gydag e am dro o gwmpas Ynys Brownsea ym harbwr Poole. Tywydd braf.

Ynys Echni, Dydd Sul 1 Ebrill 2012


Aeth nifer dda ohonom i'r ynys: fi, Rob, Colin a Sue, Dr Mike, Eurion a Jim.

Canolfan Ddŵr Gwyn, nos Fercher 28 Mawrth

Cefais gwmni Rhys a'i fab. Roedd 6 cumec yn cael ei ollwng. Cefais i hi'n straen!

Porthgain - Traeth Mawr, Dydd Sul 6 Mai

Taith gyntaf eleni yn Sir Benfro. Gyrrais i lawr yn y bore i gwrdd â'r Eades yn y gwersyll ger Traeth Mawr. Padlon ni gyda rhywun arall o Glwb Caerdydd, Dave os ydw i'n cofio'n iawn o Borthgain. Doedd dim llawer o wynt ond roedd yn gymylog nes ein bod bron â chyrraedd y trwyn heibio i Garn Llidi. Mentrais rôl pan gyraeddom y traeth. Cawsom cappucino wrth gasglu'r ceir o Borthgain ar y diwedd.

Y Mwmbwls, Dydd Sadwrn 7 Ebrill 2012

Es ar fy mhen fy hun o'r Mwmbwls i draeth Pwll Du ac yn ôl.

Porth Einon i'r Mwmbwls, Dydd Llun 19 Mawrth

Porth Einon ar ddiwedd y dydd
Diwrnod o'r gwaith a'r tywydd yn braf. Padlais gyda Colin a Sue E, a Dr Mike.

Sunday, June 3, 2012

Craig Tusker, Dydd Sul 26 Chwefror 2012

Es gyda Chris ac Eurion. Syrffio da ar y diwedd ym mae Dwnrafen.

Syli - Y Barri, Dydd Sul 19 Chwefror 2012

Es gyda John N, Grant a Chris.

Afon Wysg, Dydd Sul, 22 Ionawr 2012

Es gyda Colin a Sue o Dal-y-bont i Grughywel.

Afon Senni/Wysg, Dydd Sul 8 Ionawr 2012





Es i, Rob a Jon Tagg ar y daith hon, y tro cyntaf i mi badlo gyda Jon a'r tro cyntaf iddo badlo afonydd hyn. Dechreuon ni ar Afon Senni ac roedd y rhaeadr cyntaf yn dipyn o gyffro i Jon, oedd bron wedi gwrthod ei geisio. Roedd gwên fawr ar ei wyneb ar ôl iddo lwyddo ac roedd yn bleser cael ei gwmni.Roedd lefel y dŵr ar Afon Wysg yn weddol fel y gwelir o'r siart a'r llun o Rob yn mynd dros y drydedd rhaeadr.

Sunday, January 1, 2012