Thursday, December 30, 2010

Afon Taf, Dydd Iau 30 Rhagfyr

Roeddwn yn falch o gael cwmni John C fel y gallwn fynd ar afon heddiw a dewisom Afon Taf gan fod y ddau ohonom yn ddiegni. Roedd lefel y dŵr yn rhesymol - ychydig yn uwch na chymedr y gaeaf, 5 isaf ar fesurydd cored Abercynon. Wedi gweld glas y dorlan a chrehyrod di-ri.

Sunday, December 12, 2010

Swanbridge-Penarth, Dydd Sul 12 Rhagfyr 2010



Yng nghwmni Rob y tro hwn. Ein bwriad oedd mynd i Ynys Echni ond pan gyrhaeddom Swanbridge roedd yr ynys newydd ddiflannu o'r golwg yn y niwl. Gan fy mod yn cofio fod swyddfa'r tywydd wedi rhybuddio y gallai niwl bara drwy'r dydd penderfynom beidio â mentro. Aethom i Benarth: 1 awr 15 munud yno, 30 munud yn ôl. (Roedd y gwynt yn ysgafn F2 ar ein cefnau ar y ffordd yn ôl ond mae'n debyg mai'r llanw oedd y prf ddylanwad).

Afon Wysg, Dydd Sul 20 Tachwedd

O Dal-y-bont ar Wysg i Grughywel y tro hwn yng nghwmni John C, Gareth, Emlyn, Colin a Sue, Alan Brown a Jeff Lister. Lefel y dŵr yn dda, tipyn yn uwch na chymedr y gaeaf on ddim mor uchel fel bod nodweddion goraur afon wedi golchi allan. Peint dymunol yn nhafarn y Bridge wedyn.

Afon Senni/Wysg, Dydd Sadwrn 13 Tachwedd

Rhoddais yr hanes ar flog Padlwyr y Ddraig:

Afon Afan, Dydd Sul 7 Tachwedd 2010

Ces gwmni John C, Emlyn a Gareth. Diwrnod braf, lefel y dŵr yn weddol isel - byddai wedi bod modd i ochr dde'r afon ger y bibell i'w chroesi.

Taith Afon Teifi, Dydd Sadwrn 30 Hydref 2010

Ysgrifennais yr hanes ar flog Padlwyr y Ddraig:

Monday, October 25, 2010

Y Mwmbwls, Dydd Sul 24 Hydref 2010

Taith yng nghwmni Rob a Colin y tro hwn. Gadawom ryw hanner awr cyn y distyll (oedd o gwmpas 13.30) a mynd i Bwll Du i gael cinio. Cyffro ar ddiwedd y daith wrth i mi glywed cwch y Bealge'n galw Gwylwyr y Glannau i ddweud eu bod wedi gweld dau o bobl ar ynys y Mwmbwls a'r llanw wedi dod i mewn fel na fyddent yn gallu mynd o'na. Galwais i nhw ar y VHF a chytuno gyda nhw a'r Gwylwyr yr awn i mewn yn nes i'w rhybuddio. Ar ôl gweiddio a chwifio fy mhadl arnynt fe godon nhw o'u eistedd (ger hen safle'r magnel) a cherddod yn ôl at ble croeson nhw. Roedd dau geufadiwr arall ger y Beagle, un ag VHF, ac roedd yr un heb y VHF wedi eu cyrraedd ychydig o'm blaen. Bachgen a merch o Galicia oedd yno a, na, doedden nhw ddim wedi bwriadu aros 12 awr. Galwais Wylwyr y Glannau i adrodd yr hanes ac fe drefnon nhw i RIB y RNLI fynd i'w nôl. Wow, cyffrous! Cofnod RNLI y Mwbwls: https://www.google.com/calendar/event?eid=NTBodXBtcTl1a2NwaDZzbXJha2NpN3ZpZHMgb2JvODNoaGtlMG5hbjN0MjgyNHZpbjc5cGNAZw&ctz=Europe/London

Sunday, October 24, 2010

Ynys Echni, Dydd Sul 17 Hydref

Roedd e wedi bod yn ddiwrnod braf y diwrnod cynt ac fe barhaodd y tywydd yn braf ar Ddydd Sul. Cwrddais ag Eurion ac Adrian ryw awr cyn penllanw (neaps cymedrol) iawn ger y Captain's Wife ac aethom gwrthglocwedd o gwmpas yr ynys am newid. Holais y warden Matt pan laniais am ymweliad ar wib am achos trigo'r ddafad ddiwedd mis Awst. 'Bloat' oedd y broblem meddai fe. Wrth ymadael daeth Neal ataf - roedd e a'i deulu lawr ar y traeth i fynd i'r cwch, ar ôl iddynt ymweld â'r ynys am daith diwrnod. Ac yn ôl â ni am ddiod yn y Captain's Wife. Diwrnod da arall - fel y bydd bron pob ymweliad ag Ynys Echni i mi.

Chwarae yn nŵr Afon Wysg, 16 Hydref

Ymunais â rhai o aelodau'r clwb yn ymarfer achub ayb yn (yn hytrach nag ar ) Afon Wysg yn Aberhonddu. Tipyn o hwyl oedd y nofio, er i mi lyncu cegaid o ddŵr a dyfalu wedyn a fyddwn yn sâl y diwrnod canlynol.

Monday, September 27, 2010

Southerndown - Craig Tusker, Dydd Sul 26 Medi

Taith gydag Emlyn, Eurion a Paul. Roedd Paul wedi dod i gysylltiad â fi trwy Badlwyr y Ddraig yr wythnos gynt am ei fod wedi troi o afonydd i badlo ar y môr yn ddiweddar. Ar awgrym Eurio, aethom mâs at fwoi "Mid Nash" i ddechrau, tua dwy filltir o'r lan. Cawsom gymorth gan y gwynt F2/3 o'r gogledd-orllewin a oedd yn gwrthwiethio effaith y llanw. Ar ôl mynd o gwmpas y bwoi troiom i'r gorllewin tuag at graig Tusker. Daethom ar draws ddarn garw lle syrffiom ychydig gan geisio mynd i'r gogledd. Weithiodd hynny ddim ac fe benderfynom droi a mynd trwy'r tonnau. Aethom trwy'r dŵr garw yn sydyn wedyn. Cyrhaeddom Tusker pan oedd hi'n ddistyll mwy neu lai (tua 14.30 - ac roeddem wedi cychwyn tua 12.50). Cawsom frechdan a sylwi ar lawer o grancod cragen yn y pyllau. Pan gyrhaeddom yn ôl roedd ychydig o syrff - hen ddigon i geufadau'r môr! -ac fe dreuliom dipyn o amser yn chwarae. Diwnod braf a llawer o hwyl.

Saturday, September 18, 2010

Kimmeridge Dydd Sadwrn 18 Medi 2010

Es i â Rob, gan adael Caerdydd tua 8 a llwyddo bod ar y dŵr ychydig cyn 12. Roedd yn ddiwrnod braf trwy'r dydd ond yn arbennig tan tua 13.30 pan gyrhaeddom fae Lulworth. Tan i ni gyrraedd Mupe Rocks roedd y môr bron â bod yn hollol lyfn ond ar ôl y creigiau trodd i fod ychydig yn fwy garw ac fe gododd y gwynt i fod yn F3 weithiau i'n hwynenebau. Glaniom am ginio ger y caffi ym mae Lulworth. Roedd rhyw 15 ceufad ar y traeth pellaf gyferbyn a daeth rhyw 15 arall i'r traeth lle roeddem ni. Aethom ymlaen wedyn at Durdle Door, bŵa anferth mewn craig oedd yn ymestyn i'r môr. Roedd sawl bŵa bach wedi bod cyn hwnnw hefyd. Ymlaen â ni at fan bellaf ein taith, sef "Bat's Hole", twll drwy benrhyn bach, ac aethom trwyddo un ffordd, troi rownd a dod nôl. Roedd y gwynt ar ein cefnau nawr, a'r llawn gyda ni. Stopion ar draeth arall ym mae Lulworth ar y ffordd yn ôl a chyrraedd Kemmeridge tua 18.00. Taith o 14nm, 28k.

Sunday, September 12, 2010

Y Mwmbwls, Dydd Sul 12 Medi 2010

Ar fy mhen fy hun eto. Yr un daith â'r tro diwethaf i mi fynd ond y tro hwn o bobtu i'r distyll: gadael rhyw awr cyn y distyll. Sylwais ar yr overfall mawr ymhellach allan o'r Mwmbwls ac roedd hi'n gweithio ar y ffordd allan ac ar y ffordd yn ôl pan oedd y llanw wedi troi. F3 i'm wybeb ar y ffordd allan a'r tywydd yn gymysgedd o heulwen a chymylau.

Thursday, September 2, 2010

Weston Super Mare, Dydd Iau 2 Medi 2010


Taith wych arall. Cychwynnodd Steve A. a fi o Swanbridge am 08.30. Roedd gwynt F3 o'r dwyrain a'r llanw yn neap. Am 12.37 byddai'n benllanw yn Weston. Cyrhaeddom Ynys Echni a glanio yno i ymestyn ein coesau ar ôl 45 munud. Galwais Wylwyr y Glannau wrth i ni ymadael â'r ynys i ofyn oedd llongau ar eu ffordd i lawr y sianel. Yn ffodus, doedd dim. Croesom i Weston (ar gwrs SSE) yn gyflymach na'r disgwyl a chyrraedd tua 11.00. Roedd modd i ni lanio ger y Cove Cafe yn ffodus - roeddwn i wedi ofni y byddai llaid yn ein rhwystro tan 11.37. 10.24 milltir oedd hyd y daith. Brechdan, cappucino ac hufen iâ yn yr heulwen braf. Cychwyn o'na adeg penllanw a phadlo'n ôl yn syth (mymryn WNW), heb fynd ar gyfyl Ynys Echni. 9.55 milltir yn ôl. 4 awr 25 munud gymerodd y daith yno ac yn ôl. Cyrraeddom yn ôl tua 15.00. 17.23 milltir morol i gyd. Gwych, gwych, gwych,....

Cwmtydu, Dydd Llun 30 Awst


Cwrddais â Colin a Sue yng Nghwmtydu a gadawom tua 11.00 rhyw 1 awr 20 munud cyn i'r llanw droi tua'r de) i gyfeiriad Cei Newydd. Gwelsom ddolffin fan honno, ar ôl cael cappucino yn y caffi a'n brechdanau ar y traeth! Aethom i'r de wedyn a thynnu i mewn i draeth Lochtyn. Gwelom ddolffin eto ger Ynys Lochtyn ac wedyn aethom i lawr i Langrannog. Roedd cryn syrff yno, a llawer o bobl ar y traeth. Yn hytrach na mentro trwy'r syrff troisom yn ôl i Gwm Tydu. 13.9 milltir y môr i gyd.

Roedd y tywydd yn braf a'r gwynt yn ysgafn (F2 yn bennaf o'r gogledd) ar ôl gwyntoedd cryfion y diwrnod cynt (pan gollwyd ceufadiwr yn angheuol ger Rhosneigr: http://www.mcga.gov.uk/c4mca/mcga07-home/newsandpublications/press-releases.htm?id=D95E59EE526DA810&m=8&y=2010).

Sunday, August 29, 2010

Ynys Echni, 27-28 Awst 2010


O'r diwedd, llwyddais wersylla ar Ynys Echni. Gadewais Swanbridge gyda'r hwyr a chyrraedd yr ynys tua 19.45, hanner awr cyn iddi dywyllu. Codais fy mhabell a chael bwyd cyn iddi dywyllu. Roedd y lleuad bron yn llawn (a'r llanw wedi bod yn uchel felly - 11.3m os cofiaf yn iawn) ac yn noson braf. Wedi iddi dywyllu roedd yr olygfa'n braf o hyd: goleuadau trefi glan y môr de Cymru a Gwlad yr Haf yn rhyfeddod. Rhedai'r cwningod o gwmpas ac roedd y lle'n swynol. Cysgais yn dda, er bod y gwynt yn chwipio'r babell a'r gwylanod ac adar eraill yn cadw rhyw sŵn drwy'r nos. Cysgais yn hwyr gan ddihuno ychydig cyn naw, a dyna olygfa eto. Roedd y môr o'm blaen, yn frown wrth gwrs, fel arfer, ond yr haul yn tywynnu a llawer o gychod hwylio allan yn barod.

Roeddwn am fynd adre ar ôl penllanw 11.00 ac felly doedd dim llawer o amser gen i mewn gwirionedd. Paciais rai o'm pethau â mynd â nhw i lawr at y cei lle des ar draws dafad (wyneb broch) yn gorwedd ac yn anadlu'n drwm. Ni symudodd wrth i fynd heibio iddi. Rhyfedd iawn. Dywedais yr hanes wrth Ross, yr is-warden, pan es yn ôl at fy mhabell a'i thynnu i lawr a gorffen pacio. Es am dro o gwmpas yr ynys wedyn, a chael sgwrs ag un o arweinwyr Woodcraft oedd yno'n hyfforddi grŵp o ryw ddeg crwt ar sgiliau goroesi. Roedden nhw wedi bod yn gwersylla mewn tîpî. Ar fy ffordd nôl at y babell des ar draws un o wirfoddolwyr yr ynys oedd yn chwilo am weddill y praidd wyneb broch. Dywedodd fod y ddafad oedd i lawr wrth y cei wedi trigo. Cerddais gyda'r dyn am ychydig nes dod o hud i'r praidd a gweld bod Ross wedi sylwi bod dafad arall wedi gwahanu oddi wrth y lleill ac yn edrych yn giami.

Gadawais yr ynys yn eithaf hwyr, tua 12, ac fel y rhagwelwyd gan y rhagolygon roedd y gwynt yn codi. Roedd yn F4 am y rhan fwyaf o'r daith ac hwnnw'n gweund y daith yn dipyn mwy o sialens nag a gefais ar fy nheithiau diweddar yno. Cymerodd y daith awr.

Profiad arbennig. Rwyf am fynd eto!

Y Mwmbwls, Dydd Sul 22 Awst

Taith arall i'r Mwmbwls. Mwy neu lai'r un cynllun â'r un blaenorol, heblaw fy mod ar fyn mhen fy hun y tro hwn. Es i'n bellach - at Trwyn Pwlldu, lle ces fy mrechdan. Ymarfer rolio eto wrth gyrraedd yn ôl. "Re-entry and roll" wedi gweithio, jyst, y tro hwn. A hufen iâ blas mafon i orffen.

Saturday, August 21, 2010

Afon Menai, Dydd Mawrth 17 Awst 2010

Cychwynnais o Bwll Fanogl (i'r gorllewin o golofn Nelson "England expects...") a mynd yn syth am Bont Menai. Roedd y llanw newydd droi a doedd gen i ddim llawer o amser i fynd yno a medru cyrraedd yn ôl. Roedd dau grŵp o ganŵyr dan hyfforddiant allan, yn disgwyl i'r llif gynyddu iddynt fedru ymarfer torri i mewn a sylwais ar dri cheufadiwr arall ar y lan ychydig cyn Pont Britannia hefyd yn cymryd hoe. Es i lawr i'r Felinheli wedyn a phrynu brechdan caws drud iawn yn y dafarn a'i bwyta wrth fwrdd y tu allan. Doedd y tywydd ddim hanner cytsal â'r diwrnod cynt. Ar yr afon doedd bron dim gwynt (F3-4 o'r gogledd orllewin oedd hi i fod) ond doedd fawr o heulwen chwaith, er ei bod yn sych. Fe welais wn i ddim faint o grëyrod ar lan Ynys Môn. Ymarfer rolio ar y diwedd yn iawn, ond yr ymarfer allan o'r cwch a rolio i fyny wedyn yn fethiant. Doedd dim digon o bŵer ar ôl yn y GPS i'w ddefnyddio ond, o edrych ar y map, rwy'n amcangyfrif mai rhyw 7 milltir o daith i gyd oedd hon.

Porth Llechog i Draeth Bychan, Dydd Llun 16 Awst

Ar fy mhen fy hun eto. Parciais y car yn Nhraeth Bychan a chael lifft gyda'm gwraig ac Euros i Borth Llechog. (Roeddwn wedi bod yno y diwrnod cynt gan i ni gerdded oddi yno i'r clogwyn gyferbyn â Phorthwen ac yn ô)l. Mynd gyda'r llanw oeddwn, wrth gwrs, a thorrais allan y tu ôl i Ynys Amlwch a gweld morlo. Ymlaen wedyn yn bryderus braidd i Drwyn Eilian a chyrraedd yno tua dwy awr cyn penllanw, adeg pan y gallai wedi bod yn arw iawn. Roedd y dŵr ychydig yn arw ond ddim yn fawr o gwbl ac felly roeddwn heibio iddo'n sydyn. Stopiais i gael bwyd ar draeth mewn bae oedd wedi ei amgylchynu gan glogwyni. Ymlaen wedyn i Ynys Dulas lle roedd llawer o forloi (a RIB yn edrych arnynt). Es rhwng Ynys Moelfre a'r tir mawr. Roeddwn i'n ei chael yn eitha gwaith ar yr ochr agosaf at yr ynys (hwyrach bod y llanw wedi troi yn f'erbyn?) ond yn nes at y tir mawr roedd yn haws. Ymarferais rolio ychydig yn y bae cyn Traeth Bychan. Ar ôl newid, es i lawr at y clwb hwylio a chwilio a dod o hyd i hen gydnabod o ddyddiau hwylio Mei, a chael paned a sgwrs hir â nhw am hynt ein teuluoedd. Diwrnod braf, o ran y tywydd a'r hwyl. Stopiodd y GPS â gweithio pan gyrhaeddais Drwyn Eilian ond tau 10 milltir/15k oedd hyd y daith yma.

Y Mwmbwls, Dydd Sul 8 Awst


Es gyda Rob y tro hwn ac fel y tro diwethaf cychwyn o'r Mymbls yn weddol buan ar ôl y distyll. Doedd hi ddim hanner mor arw y tro yma o gwmpas y goleudy. Gwelon ni un morlo ar y ffordd i Fae Caswell ble stopion ni i gael bwyd. Ychydig o syrffio wedyn wrth gychwyn am yn ôl, a hufen iâ ar y diwedd.

Friday, July 30, 2010

Tryweryn, Dydd Sadwrn 24 Gorffennaf

Es ar fy mhen fy hun a chwrdd â Matt a Phil yn y Bala nos Wener, a threfnu cwrdd â nhw tua 10 y bore wedyn. Roedd 9 cumec yn cael ei ollwng. Rhedon ni o'r top i lawr i'r Bala ac wedyn gwneud dau rediad o'r top, y tro cyntaf dim ond i lawr at y bont ac wedyn at y rhaeadr ymhellach i lawr.

Dydd Sul 11 Gorffennaf - Y Mymbls

Dim ond taith fer ar fy mhen fy hun. Cychwynnais o'r Mymbls ryw awr ar ôl y distyll. Roedd yn eitha garw yn mynd o gwmpas y goleudy a phan gyrhaeddais Bae Langland roeddwn yn gallu gweld bod cryn syrff yno. Cariais ymlaen am ychydig ond wedyn penderfynu nad oedd diben im gario ymlaen at Caswell fel roeddwn wedi bwriadu gan y byddai'n debygol o fod yn anodd i lanio yno oherwydd y syrff. Yn ôl â fi felly, taith rhyw awr a hanner i gyd.

Monday, June 28, 2010

Ynys Echni, Dydd Sul 20 Mehefin

Anghofiais gofnodi hon. Mae'r daith i Ynys Echni yn dod yn gyfarwydd i mi ac os rhywbeth mae fy hoffter ohoni'n tyfu. Y tro hwn es o Swanbridge, ryw awr a rhywbeth cyn bod y llanw i droi. Cyrhaeddais wrth fod y Lewis Alexander yn gadael a chwrdd â'r is-wardeniaid gwirfoddol newydd sy yno ers rhyw bythefnos. Un wedi rhoi'r gorau i fod yn athrawes ffiseg ac un yn ddaearyddwr morol oedd yn gwarchod crwbanod y môr yng Ngwlad Groeg tan yn ddiweddar. Ces fy nghyfarch gan fadwr RIB (sy'n gweithio o'r Bae) wrth i mi ymadael gan ei fod wedi stopio ger y cei.

Ar y ffordd i'r ynys roedd y gwynt yn F2-3 ond fe gododd dipyn i fod yn F3 gweddol gyson ar y ffordd yn ôl. Gadewais o gwmpas y graig yn hytrach na mynd trwy'r hollt y tro hwn a phasio i'r dwyrain o'r Wolves. Unwaith eto, doedd y môr ddim yn hollol lonydd, er gwaetha'r addewidion, a bues yn syrffio dipyn wrth wneud y fferi gleid yn ôl.

Sunday, June 27, 2010

Abercastell-Abereiddi, Dydd Sadwrn 26 Mehefin



Es i lawr i Niwgwl i gwrdd â Steve nos Wener i badlo gydag e Dydd Sadwrn. Dewison wneud taith o Abercastell i Abereddi ac yn ôl. Cwrddom â Chris ar ddamwain wrth i ni ymbaratoi i ymadael o Abercastell tua 13.00. Teithiom i'r gogledd am ryw awr, gan fod y llanw i fod i droi am 14.15. Roedd y rhan honno o'r arfordir yn wych - creigiau i fynd o'u cwmpas ac ogofeydd i'w harchwilio. Galwom ym Mhorthgain am cappucino! Cyrraedd Abereiddi tua 16.40 lle cwrddom â Chris eto ac chan fy mod wedi gadael fy nghar yno ces y bwyd oeddwn i wedi gadaeil ynddo. Gan fod fan hufen iâ yno, cawsom un o'r rheina hefyd! Gadawom ychydig ar ôl 17.00 gan fod llif y llanw i fod in droi am 17.15. Roedd y gwynt (F3) wedi bod yn ein hwynebau ar y ffordd i lawr ond nawr wrth gwrs diflannodd fwy neu lai fel nad oedd cymorth y gwynt gennym ar y ffordd yn ôl. Er hynny, awr a chwarter gymerodd i ni fynd yn ôl. Daeth Steve o hyd i hollt aeth yr holl ffordd trwy'r ynys ger Abercastell. Mae'r ail fap yn ei dangos. Efallai dyma'r daith i mi fwynhau mwyaf erioed. Roedd y tywydd yn braf a'r arfoddir mor amrywiol.

Friday, June 4, 2010

Taith i Alpau'r Swistir, 28 Mai - 4 Mehefin








Pysgotwyr a ni ar Afon Hinterhein
Es gyda Chanolfan Awyr Agored Arthog unwaith eto. Roedd 12 ohonom:
staff Arthog: Andy Hall, Richie Link, Steve, Stuart a Lucy
fi; Brian, Pete, a Phil o Glwb Canwio Aberystwyth, Callum (mab Phil) a'i ffrind Ian o Benrith, ac Ian arall o Ganolfan Awyr Agored Aberdyfi.

Cychwynnais o Gaerdydd ar ddydd Gwener 28 Mai a chwrdd â'r gweddill yn Nwfr lle daliom long 03.30. Cyrhaeddom Thonon-les- Bains tua 16.00 ar Ddydd Sadwrn 29 Mai.

Dydd Sul 30 Mai: dau rediad ar Afon Dranse, gradd 3. Symud wedyn i Château d'Oex ac aros ger afon l'Sarine (yn Ffrangeg; Saane yn Almaeneg). Dyma lun o'r afon â lefel y dŵr yn isel: http://www.panoramio.com/photo/4893421. Bwrodd glaw'n drwm yn noson honno a diflannodd y graid fawr sydd i'w gweld ar y dde yn y pellter. Gradd 4 fyddai'r darn yma ond Gradd 4+ yn bendant oedd hi ar y Dydd Llun.

Dydd Llun 31 Mai: dau rediad ar Afon Sense
Dydd Mawrth 1 Mehefin: Afon Simme
Dydd Mercher 2 Mehefin: Vorderein. Aros yn Thusis nos Fercher.
Dydd Iau 3 Mehefin: Hinterein
Dydd Gwener 4 Mehefin: adre

Dyma sut adroddais ar y daith mewn ebost:
We paddled the Dranse (in France by Lake Geneva) and the Sense (twice each), the Simme and the Vorderrhein and the Hinterrhein.

The Dranse was a good Grade 3. The second night we were alongside a bit of the Saane (La Sarine in French) which had a Grade 3 hole. That night it poured down and the river went up 1.5m and the hole turned to Grade 5 and the rest of the river 4+. Luckily, we drove to another watershed and paddled the Sense - almost all just Grade 2, though with boils and undercuts on every turn through a fantastic gorge. The Simme was Grade 2/3, picturesque with plenty of roofed bridges across the river. The Vorderrhein was again mostly Grade 2 and another fantastic gorge (http://www.myswitzerland.com/en/destinations/top_attractions/attractions-nature/beautiful-vorderrhein.html). The Hinterrhein started off almost as a scrape (6 cumecs) but we were paddling past the remains of snow avalanches with snow all around on the surrounding mountains. The water was very cold. The highlight, oddly, was a sharp left turn which turned out to be a 60m long weir. The fastest water
I've ever paddled: it was like being shot out on the top of a burst pipeline. The river then picked up to a twisting and turning Grade 3 which went on for miles. A great run.

I've just added the rivers to my count and I now reckon I've paddled on 63 different rivers.


Wednesday, May 26, 2010

Cei Stagbwll i orllewin Angle, Dydd Sul 23 Mai


Gyda Steve, Eurion, Chris ac Adrian. Gadawom Stagbwll tua 11.20 a chyrraedd tua 16.15. Diwrnod braf.

Porthglais i Niwgwl, Dydd Sadwrn 15 Mai


Gwersyllais dros nos yn Niwgwl. Yn y bore daeth tri arall - Mike, Derek a Craig - i gwrdd â Sue a Colin E. ac fe aethom i Borthglais. Aethom heibio i dri pheiriant. Mae'r llun yn dangos eu cychod, cyn iddyn nhw gael eu dryllio.

Taith braf a gorffen gydag ychydig bach o syrffio.

Sunday, April 18, 2010

Penarth i Ynys Echni 18 Ebrill 2010


Ychydig o wynt oedd i fod eto felly dyma fi'n bachu yn y cyfle am dro arall i Ynys Echni ar fy mhen fy hun eto (er wrth i mi gychwyn cwrddais â dau geufadiwr arall - un ohonynt yn rhoi ceufad - ? Klepper - at ei gilydd ac a ddywedodd eu bod yn mynd i'r ynys). Roedd y llanw i fod i droi i lanw i'r gogledd ddwyrain tua 16.30 felly y tro yma roedd yn rhaid i mi gychwyn o Benarth. Gadewais Benarth tua 15.oo ac fe gymerodd 53 munud i mi gyrraedd yr ynys, a'r un amser i ddod yn ôl! 7.56 milltir y môr, cyflymder cymedrig 4.2 knt, cyflymder uchag 6.1 knt. Rwyf wrth fy modd ag Ynys Echni!

Aberporth i Aberteifi 10 Ebrill 2010


Es â'm Mam i weld Meri ym Mlaenporth ac wedyn gyrru ymlaen i gwrdd ag Emlyn, Colin a Sue tua 11.30 yn Aberporth. Trefnu'r wennol yn Poppit ac mae'n siŵr oedd yn 13.00 erbyn i ni gychwyn. Stopio ym Mwnt am hufen iâ ac wedyn o gwmpas Ynys Aberteifi. Dim ond cwpl o fôrloi welon ni a dim llawer o adar y môr chwaith. Taith hyd o gwmpas 10 milltir a chyrraedd Poppit yn weddol fuan ar ôl penllanw gan olygu nad oedd hi mor bell i gerdded.

Tuesday, April 13, 2010

Ynys Echni, prynhawn Dydd Gwener 9 Ebrill


Roedd y daith hon yn arbennig iawn. Roedd y môr yn rhyfeddol o lonydd. Gadewais Swanbridge tua 15.35 (wedi cael sgwrs â theulu Cymraeg ar y llithrfa) a'r llanw i fod i droi ger Ynys Echni tua 17.00. Taith o ryw 45 munud yn unig a theimlais i ddim llif o gwbl, na phrofi'r un don. (Neaps yn egluro hynny mae'n debyg). Cyrhaeddais yr un tra oedd cwch y Lewis Alexander yn dadlwytho cwpl oedd wedi mynd yno am gyfweliad i fod yn wardeniaid cynorthwyol yno. Roedd y warden a'r cynorthwy-ydd yn fy nghofio o'm ymweliad blaenorol.

Roedd yr ynys yn wych: yn llawn gwylanod oedd wedi dechrau nythu ond heb ddodwy ac felly ddim yn ymosodol, a llawer o gwningod ar hyd y lle. I bob cyfeiriad roedd yr olygfa'n braf, yr awyr yn las ac yn glir, a nifer o longau'n hwylio i lawr yr afon. Arhosiais tua 45 munud cyn cychwyn yn ôl. Roedd hon yn daith gofiadwy iawn iawn o braf Mwynheais yn anferthol. 3.7 milltir yno, 4.6 yn ôl (gan i mi fynd o gwmpas yr ynys).

Afon Wysg, Dydd Sul 4 Ebrill

Penwythnos da i mi. Afon Tawe y diwrnod cynt a thaith o Dal-y-bont i Grug Hywel gyda John ar y Dydd Sul. Roedd gennym yr afon i'n hunain, anarferol iawn i Afon Wysg ond yn adlewyrchu'r amseriad - Dydd Sul y Pasg. Dŵr eithaf uchel ac felly'n daith gyflym. Di-ddigwyddiad ond hyfryd.

Afon Tawe, Dydd Sadwrn 3 Ebrill

Taith dda awn. Adroddiad ar flog Clwb Padlwyr y Ddraig: http://dragon-paddlers.blogspot.com/2010/04/afon-tawe-saturday-3-april-2010.html

Sunday, March 28, 2010

Cwrs dŵr gwyn Caerdydd, Dydd Sul 28 Mawrth


Dim ond ar y Dydd Sadwrn yr agorodd i'r cyhoedd. Es i ag Euros i gwrdd â Matt a Mark, a gweld John O' a Paul Mac yno i rafftio, a Ben Mac yno i badlo. http://cymraeg.ciww.com/

Da iawn. 5 rhediad wnes, os cyfrifais yn iawn. Alla i ddim dweud fy mod wedi torri mâs rhyw lawer, ar osgoi stoppers a pour-overs oedd fy meddwl trwy'r amser bron. Pan gyrhaeddom roedden nhw'n gollwng 10cumec ar gyfer y rhai 'elite' oedd yno'n ymarfer slalom. 8 cumec oedden nhw'n ei ollwng ar ein cyfer ni. Hen ddigon i mi!

Thursday, March 18, 2010

Ynys Bŷr, 15 Mawrth

30 km, 14.5nm, 16.6 milltir, gadael Amroth am 11, cyrraedd yn ôl am 16.00, cyfartaledd cyflymdra o gwmpas 3.2 knt (os cofiaf yn iawn). Fi a Steve A. wnaeth y daith hon. Cawsom ychydig o ddŵr garw wrth fynd o gwmpas de-orllewin yr ynys a chyn hynny fu'n galed padlo'n erbyn y llawn a'r gwynt lan y swnd rhwng yr ynys a'r tir mawr. Er hynny, bues yn padlo ar 1.8knt o leiaf yn ôl y GPS. Gwelsom rhyw hanner dwsin o forloi a rhai ifanc oedd y rhan fwyaf ddywedwn i.

Wedi blino'n lân erbyn diwedd y daith: pellach na dim ydw i wedi'i wneud yn ddiweddar.

Sunday, February 28, 2010

Penwythnos Ynys Wyth 18 - 23 Chwefror


Ar ddydd Iau 18 Chwefror, gadewais y tŷ tua 14.00 gyda Andrew B, gan anelu dal fferi 16.30 o Southampton i East Cowes. Roedd hi'n bwrw eira pan adawom a phan gyrhaeddom ail bont Afon Hafren daeth y traffig i stop: damwain. Cymerodd awr a hanner i ni groesi'r bont ac felly dal fferi 18.00 wnaethom yn yn diwedd.
Ar Ddydd Gwener, cerddom uwchben y Needles ac wedyn aethom i ddwyrain yr ynys am dro bach ar y môr ger Bembridge. Aethom allan i weld Caer St Helens ac wedyn i'r de am ychydig, taith 6.25 milltir. Glanion ni yn ôl bron wrth iddi fachlud.
Dydd Sadwrn Needles: ar ddiwrnod cyntaf yr asesiad 4*, arweiniais ddau arall o Freshwater i Gaer Victoria, gan fynd heibio i'r Needles a glanio ar draeth Bae Alum i ginio.
Dydd Sul: ym mae Freshwater, asesiad ein sgiliau padlo ayb. Roedd hi'n oer iawn!!!

Saturday, February 13, 2010

Ynys Echni 23 Ionawr a rhyw fwoi ger Larnog 6 Chwefror

Cofnodion byr, rhag i mi anghofio.
1.Taith gydag Emlyn a Rob i Ynys Echni (manylion ar flog Padlwyr y Ddraig:
Dolen)
2. Ymarfer: Swanbridge mâs i ryw fwoi allan o drwyn Larnog, ac yn ôl, ac ymarfer mewn dŵr rhewllyd iawn ar y diwedd. Hanes lawn ar flog Eurion: Dolen

Sunday, January 17, 2010

Afonydd Ysgir ac Wysg, Dydd Sul 17


Es gyda Alan a Colin, yn gyntaf ar Afon Ysgir (oedd â'i mesurydd yn dangos 4.5) a chan nad oedd y daith honno'n gyffrous iawn a dim ond wedi cymryd awr, yn ail ar Afonydd Senni/Wysg o Ddefynnog i Aberbrân gymrodd awr a hanner. Fel y mae'r siart yn dangos (lefel y dŵr yn Aberhonddu) roedd Afon Wysg yn weddol uchel. Aethom i'r ochr dde ar y 3ydd rhaeadr, gan fynd ychydig i'r chwith o'r goeden sy yno ar hyn o bryd. Roedd Alan yn arwain ar y darn yno ac fe wnaeth smonach o'r diwedd a nofio. Dyna unig gyffro'r daith honno.

Buon yn ffodus gyda'r tywydd. Er ei bod yn oer a thameidiau o eira ar y mynyddoedd o hyd, heulwen gawsom y rhan fwyaf o'r dydd a chlamp o enfys ar y diwedd. Braf fod mâs eto.

Monday, January 4, 2010

Craig Tusker, Dydd Calan 2010

Ar ddydd Calan, es yng nghwmni Eurion a Chris o Fae Dunraven i graig Tusker Prin dwy awr o badlo yno ac yn ôl ond fe dreuliom rhyw hanner awr ar y graig, a rhyw awr yn chwarae yn y syrff bach bach oedd yn y bae ar y diwedd. Tywydd braf ac ychydig iawn o wynt. Un rol i ymarfer ar y diwedd!