Sunday, June 28, 2009
Abergwaun i Abercastell, Dydd Sul 28 Mehefin
Efallai dyma'r cyflymaf i mi erioed cofnodi taith. Gyda'r nos yr un diwrnod. Es gyda Colin a Sue E. Cychwyn o harbwr Abergwaun isaf am 13.00 (er cwrdd am 10.30 dyna'r amser gymrodd i ni trefnu'r wennol, sef mynd ta'm car i'w adael yn Abercastell) . Un ystyriaeth anarferol i'r daith oedd sicrhau ein bod yn osgoi'r fferis - yn enwedig yr un cyflym. mae'n ddigon hawdd, o safle gwe Stena, gwled pryd maen nhw'n gadael ond rhaid gofyn yn y swyddfa am syniad am bryd maen nhw'n cyrraedd. Mae amseriad llif y llanw'n eitha cymhleth hefyd. Mae eisiau gadael awr ar ol pend llanw Aberdaugleddau, sy'n golygu, mwy neu lai, gadael ar benllanw lleol er mwyn cael y gwrthlif i'r gorllewin at Ben Caer. Ond ling-di-long yw hi wedyn gan nad ydych eisiau mynd o gwmpas Pen Caer tan 4 awr ar ôl penllanw Aberddaugleddau oherwydd dim ond pryd hynny y mae'r prif lif yn troi i'r gorllewin. Ta beth, fe lwyddon ni gadw at yr amserau hynny gyda'r canlyniad ei fod bron yn hollol lonydd o gwmpas Pen Caer. Ychydig o wynt deimlon ni tan fynd o gwmpas Pen Caer ond wedyn roedd y gwynt o'r dwyrain/de yn ein wynebau neu'n dod o'r chwith yn aml. Un rhuthr mawr ar draws y bae i Abercastell wedyn, a chyrraedd yno o gwmpas 17.00 - yn y glaw! (ond roedd hi wedi bod yn braf am hanner cyntaf y daith, tan mynd heibio i Ben Caer).
Monday, June 22, 2009
Llangennydd i Bort Einon, Dydd Sul 21 Mehefin
6 ohonom wnaeth y daith hon. Gyda fi roedd Andrew B, Colin a Sue E., Adrian a Jim. Cwrddom ym Mhort Einon am 10.30 a daeth Jim â'i dreilar i ni gyd fynd i Langennydd. Roeddem ar y dŵr am 13.00, awr ar ôl y distyll. Gwelom forloi ger ochr ogleddol Pen y Pyrod. Roedd y tywydd yn sych, er yn gymylog, a dim llawer o wynt, F3 efallai, o'r gorllewin. Roedd tonnau sylweddol wrth i ni fyn do gwmpas Pen y Peryd, yn dwyn Ynys Lawd i gof a dweud y gwir. Byddai'n ddiddorol gweld pa mor fawr fydden nhw, pe bai'r gwynt yn erbyn y llanw a llanw mwy (rhwng springs a neaps oedd ar y diwrnod). Beth bynnag, rownd â ni'n ddi-anaf, glanio ar y traeth cyntaf am ginio cyn parhau a chyrraedd Port Einion am 17.00. Ymarfer rolio, a llwyddo - 3 gwaith!
Friday, June 19, 2009
Ynys Echni eto! 31 Mai 2009
Taith wych arall. Dim ond dau ohonom y tro hwn, fi ag Emlyn. Heblaw am hynny, roedd yn ddigon tebyg i'r datith ddiwethaf: gadael Swanbridge ryw awr cyn penllanw a dod yn ôl ar ôl treulio ryw awr i gyd ar yr ynys. Doedd e ddim yn llanw mor fawr y tro hwn a olygai na chawsom gymaint o gymorth ganddo ar y ffordd yno, na chael ein hysgubo yn ôl mor gyflym chwaith. Canlyniad y gwahaniaethau hynny oedd ei fod wedi bod yn agos braidd i ni gyrraedd mewn pryd, a fi'n gweiddio f'anogaeth i Emlyn, ac ar y ffordd yn ôl, pasion ni yn agos at foi'r Wolves. Pan adawom yr ynys, ryw awr ar ôl penllanw os cofiaf yn iawn, roedd hi'n o arw i ni wrth i ni fynd gyda'r cloc o gwmpas yr ynys gyda thipyn o glapotis o'r lan. Hwyl fawr!
Postiaf ychydig o luniau ar flog Padlwyr y Ddraig hefyd ond dyma rai dynnodd Emlyn.
Tuesday, May 26, 2009
Martin's Haven - trwyn St Ann, Dydd Sul, 24 Mai
I lawr i Sir Benfro eto a gwersylla yn fferm West Hook, Martin's Haven nos Sadwrn. Ar y dŵr tua 09.00, rhyw ddwy awr a hanner ar ôl penllanw Aberdaugleddau, wrth i'r llif droi i'r de trwy Swnd Jac. Y tro hwn yng nghwmni Colin a Sue, Nick King, Steve A a Richard Porthsele. Y bwriad oedd mynd i Dale ond roedd y tywydd mor braf fel fy mod i, Steve a Richard wedi penderfynu troi yn ôl pan oeddem ger y "blockhouse" heibio o drwyn St Ann a gadael i'r tri arall fynd yn eu blaen hebddom. Aethom i dde Skomer a thwry y Swnd bach - hynny o gwmpas 14.30, adeg dŵr slac. Digon o balod i'w gweld a rhyw bedwar morlo.
Afon Taf, Dydd Sul 17 Mai

Taith a drefnwyd yn y bore gan ei bod wedi bod yn bwrw glaw. Er mai 7 cumec oedd y llif nos Wener (pan aeth Euros gyda Phil, Chris â'i fab i chwarae ar gored Abercynon, a'r mesurydd, yn ôl Euros yn dangos 1), roedd hi'n rhedeg ar 17 cumec fore Dydd Sul a'r safle gwe o lefelau afon yn dweud ei bod wedi cyrraedd lefel gymedrig y gaeaf. Aethom ar y dŵr tua 14.15 os cofiaf yn iawn, a gorffen tua 17.00. Pan ffoniodd Phil am lif y dwr pryd hynny, 30 cumec gafodd e - sy, yn ôl fy narlleniad i o'r siart yn cyfateb i lefel ymhell dros gymedr y gaeaf.
Fi, Euros, Phil a Mark wnaeth y daith.
Llanilltud i Aberogwr, Dydd Sul 10 Mai
Taith yng nghwmni Colin a Sue E. ac Emlyn, gyda'r trai o Lamilltud, glanio ar graig Tusker a gorffen yn Aberogwr. Diwrnod braf a bron dim awel, hynny ag oedd ar ein cefnau. Dim cyffro ag eithrio dod nôl i'r cychod ar graig Tusker ar ôl ymweld eto â'r adfeilion o'r llong a gweld fod cwch Col yn y dŵr a f'un hanner i mewn: y llanw wedi troi! Ymarfer fy rôl eto ar y ffordd i mewn (ar ôl un llwyddiannus iawn ger Traeth Mawr Tŷ Ddewi) a gweld fy mod wedi ei golli eto. Daro!
Monday, May 4, 2009
Dydd Sadwrn 2 Mai: Sir Benfro
I lawr i Sir Benfro eto, y tro yma'n gadael Caerdydd tua 09.15 i gyrraedd Parrog, Trefdraeth mewn pryd i fod ar y dŵr am 13.00 - a llwyddo lansio am 13.05 yn y diwedd. Go dda.
Yng nghwmni Eurion, Adrian a Steve A. y tro hwn, aethom i draeth Poppit, Aberteifi. Cymerodd tua 4 awr (19k yn ôl y llyfr). Er i ni gychwyn yn hamddenol yn ymchwilio i bron pob ogof ar ôl tua awr fe gododd y gwynt fymryn (er gan ei fod ar ein cefnau, anodd dweud i ba gryfder, yn ymylu ar F4 efallai) ac aeth y môr yn fwy garw. Dechreuodd Steve i fynd yn fwy uniongyrchol at drwyn Cemaes a finnau'n ei ddilyn ac Adrian yn cadw lan hefyd. Fe adawyd Eurion ar ôl braidd, gan ei fod yn tynnu lluniau ac erbyn iddo ddal lan gyda ni roeddem wedi mynd heibio i "Grochan y Gwrachod" (fy nghyfieithiad o'r Saesneg) yr oedd e wedi bod yn chwlio amdano. Bydd yn rhaid i ni wneud y daith eto i ddod o hyd iddi. Gorfennwyd y daith gyda fi ag Eurion yn syrffio ar donnau -oedd weithiau'n eitha mawr, digon mawr i ysgubo'r botel ddiod a'r tudalen lamineiddedig oedd gen i ar y dec i ffwrdd yn anffodus.



Subscribe to:
Posts (Atom)