Sunday, January 29, 2006

Avocet, Padarn a Llanddwyn, penwythnos 28-29 Ion

Penwythnos da. Prynais Avocet, ceufad y môr gan Valley:http://valleycanoeproducts.co.uk/

Prynais i fe yn Surf Lines yn Llanberis: http://www.surf-lines.co.uk

I'w brofi es yn syth am dro ar Lyn Padarn. A'r diwrnod wedyn, o gwmpas Ynys Llanddwyn. Pwysedd uchel yn golygu awyr las, a bron dim gwynt, a hwnnw o'r gogledd-ddwyrain. Golygfeydd bendigedig a tro hyfryd.

Saturday, January 21, 2006

Dal lan gyda'r cofnodi

Unwaith eto mae arnaf ofn fy mod wedi bod yn cofnodi teithiau ar flog Clwb Padlwyr y Ddraig yn gyntaf.

Heddiw Dydd Sadwrn 21 Ionawr: Afon Taf o gored Radyr at glwb rhwyfo Llandaf. Lefel y dwr yn gymedrol isel, yng nghwmni Grant a John N.

Dydd Sul 15 Ionawr: Afon Wysg o Dal-y-bont at islaw Llangynidr. Lefel y dwr yn isel, yng nghwmni John C., Matt a Rob.

Dydd Sadwrn 7 Ionawr: Afon Gwy o Ddernol at Raeadr Gwy. Lefel y dwr yn isel iawn. Yng nghwmni Ron, Jon, Phil a Matt.

Heddiw, cafodd y cwlb sesiwn arbennig yn y pwll gyda dau gamera fideo, gan gynnwys un tan-ddwr yn cofnodi ein hymgeision i rolio. Roeddwn yn swil o'r camera, a'm rôl yn waeth nag erioed!

 

Tuesday, December 6, 2005

Afon Grwyne Fawr, Dydd Sul 4 Rhagfyr

Fy ail ymweliad â'r afon hon. Roedd lefel y dwr fymryn yn uwch na'r tro diwethaf i mi fod arni - bron ar bwynt 3 ar fesurydd y cored. Tua dwy awr gymrodd y daith eto. Yng nghwmni Rob a Dave oeddwn y tro yma. Tra fy mod yn cofio cystal i mi gofnodi rhai o nodweddion yr afon. Cofiaf rhaeadr silff - y lle i fynd drosti oedd ar y chwith eithaf. O fewn rhyw 20 llath wedyn roedd un arall - ychydig i'r dde o'r canol oedd y lle gorau fan honno. Ychdig ymhellach ymlaen roedd cored eitha cryf. Am ryw reswm, doeddwn i ddim yn arwain drosto a dilynais y ddau arall, a bron a chael fy nhal.

Roedd pont droed cyn rhaeadrau Pen-y-daren, ac fe dynnon ni i mewn ar a chwith i fynd i gael golwg ar y rhaeadrau. Dim problem. Dewison ni fynd i lawr ychydig i'r dde o'r canol eto.

Doedd cored Llangenau ddim yn broblem ar y lefel yma.

Sunday, November 20, 2005

Ynys Syli - Trwyn Larnog, Dydd Sul 20 Tachwedd

Cofnodi yn syth. Diwrnod braf, pwysau uchel eto heddiw, felly taith fach ar y môr amdani. Ces gwmni Grant, John N. a Dave C. - y tro cyntaf i mi gwrdd â'r diweddaf. Roedd llanw isaf i fod ar Ynys Echni am 15.30 ond yn barod am 12 pan oeddem yn mynd allan roedd y llwybr i'r ynys wedi ymddangos. Erbyn inni gyrraedd Trwyn Larnog doedd y llif yn bendant ddim yn ei anterth. Coffi yn y Captains Wife wedyn y tro yma.

Saturday, November 19, 2005

Rest Bay, Dydd Sadwrn 19 Tachwedd 2005

Mae hwn yn gwneud yn iawn am fod yn araf yn cofnodi rhai teithiau. Heddiw es i syrffio ar fy mhen fy hun a chael amser arbennig. Doedd y syrff ddim yn fawr - yn fy siwtio i'r dim felly - ond roedd yn lân. Roedd llanw isaf tua 2 ac roedd hi'n 3.15pm erbyn i mi fynd ar y dwr. Roedd y machlud am 16.06pm. Des i ffwrdd tua 16.50pm yn y tywyllwch!

Monday, November 14, 2005

Afon Afan, Dydd Sadwrn 12 Tachwedd

Gwnes y daith yma yng nghwmni John C. a Tim, ac fe gawsom amser da, er i Tim druan ddod allan o'i gwch ddwywaith. Rwyf wedi cofnodi'r daith ar flog Padlwyr Y Ddraig. Gan fod niferoedd da yn mynychu sesiynau pwll y clwb y dyddiau yma rwyf yn cael fy hun yn treulio mwy o amser yn cadw ei safle gwe a'r blog cysylltiedig yn gyfoes - ar draul fy mlog personol gwaetha'r modd.

Cystal imi gofnodi fy mod wedi penderfynu peidio â phadlo ar Ddydd Sul yr wythnos gynt pan aeth Rob a fi i Grug Hywel, gan fwriadu padlo i lawr o Dal-y-bont gyda rhai eraill o Gaerdydd. Roeddem wedi gweld y caeau i gyd o dan ddwr yn Nhal-y-bont ac fe benderfynais na fyddai'n ddoeth i ni fynd ar yr afon. Aeth y lleill wrth gwrs a chael amser da. Fel 'na mae.

Sunday, October 30, 2005

Afon Wysg, 30 Hydref

Roedd yr afon yn llawn i'r ymyl heddiw ac fe es ar y darn o Bont-senni i Aberhonddu. Dim ond dwy awr a hanner gymrodd hwnnw, cyflym iawn o ystyried bod un o'r grwp wedi nofio ddwywaith. Fe gollodd ei badl, ac fe gollodd un arall ei raff daflu. Roedd lefel y dwr yn uwch nag ydw i wedi badlo o'r balen ac fe ges fyn synnu gan y 3edd rhaeadr, gan nad oeddwn ei adnabod, er fy mod wedi bod yn chwilio amdani. Aethom ni drwyddi, ychydig i'r de o'r canol, trwy don anferth. Hwyl fawr.

Yn padlo gyda fi roedd John C., Matt a ffrind Piers, Steve White (y nofiwr), a Jay a Jo, cwpl o ffrindiau Steve Maskall (oedd wedi dewis padlo rhywbeth Gradd 5 yn lle).

Rwyf wedi bod yn esgeuluso y blog yma eto, ac heb rhoi cofnod o'r daith o Fynwent y Crynwyr i Drefforest wnes Dydd Sul diwethaf pan nad oedd lefel y dwr ond yn gymedrol. Gyda fi y tro hwn roedd John M., Chris C, Sam a Mark, y tri diwethaf o Glwb Caerdydd. Ac ar Ddydd Sadwrn yr wythnos cyn hwnnw, bues yn syrffio yn Rest Bay, a'r tonnau yn anferth.