Wednesday, May 12, 2004

Taith gyda Phadlwyr y Ddraig ar Afon Gwy

Ar Ddydd Sul, 9 Mai, bues yn cynorthwyo Andy R. yn arwain y clwb ar daith o'r Clas-ar-wy i'r Gelli Gandryll. Roedd 11 ohonom i gyd, ac i dri o blant ac un llanc dyma'r tro cyntaf iddynt fod ar afon. Doeddwn i ddim wedi gwneud y darn hwn o'r afon er Mai 2001! - ac roeddwn wedi anghofio pa mor hir y mae - canlyniad teithio gyda dechreuwyr ar ddarn o ddwr gwastad nad yw prin yn symud mewn rhai mannau. Wedi gadael Caerdydd am 9.00, roedd hi'n 6pm arnom yn cyrraedd yn ôl, er, a bod yn deg, roedd hynny'n cynnwys amser am beint ar y diwedd yn y Clas. Uchafbwynt y daith i'r plant oedd y nofio (fel arfer, well ganddynt hynny na cheufadio) - i lawr heibio i'r gored doredig tua'r diwedd - gan gynnwys dal y rhaff achub a daflwyd atynt. Digon difyr i gyd, a'r tywydd yn braf a'r dwr yn ddigon uchel fel nad oedd bron dim crafu ar hyd y gwaelod.

No comments: