Monday, October 25, 2004

Penwythnos yn y gogledd

Es i'r gogledd y penwythnos diwethaf (23-24 Hydref), gan adael Caerdydd am 6.00 fore Dydd Sadwrn. Er gwaethaf tywydd gwael iawn yn y gogledd y diwrnod cynt, doedd lefel dwr Afon Mawddawch ger y Ganllwyd ddim yn uchel iawn ac fe benderfynom ar daith ar Afon Eden - o Bont-y grible - ac Afon Mawddach hyd at westy Tyn-y-groes. Daeth ffermwr atom a'n rhybuddio nad oeddem i fynd ar Afon Eden, ond gan nad oes hawl gan ganwyr i fynd ond ar lond dwrn o afonydd, dydy hynny ddim yn newydd. Roeddem yn lwcus - roedd e'n gwrtais ac yn gyfeillgar a dweud y gwir. Ac fe'n rhybuddiodd fod ffens ar draws yr afon. Beth bynnag, roedd y daith yn hwyl, er, yn y dyfodol, fyddwn ni ddim yn trafferthu mynd mor uchel â Phont-y-grible. Well o lawer rhoi i mewn ger canolfan Coed-y-brenin.

Dydd Sul ar Afon Ogwen. Lefel y dwr yn uwch na'r tro cyntaf i mi fynd ar yr afon cwpl o flynyddoedd yn ôl. Gradd 4 go iawn. Ar ôl gweld Alan S. yn troi drosodd ac yn nofio i lawr y "gun-barrel", penderfynais i a Colin E. beidio â rhoi cynnig ar y darn hwnnw, er i Haydn lwyddo. Nofiais i ymhellach ymlaen a chael fy nhynnu i'r lan gan Duncan E. Ac wedyn gorfod rholio ddwywaith ymhellach ymlaen! Taith wych, er fy mod wedi fy nghleisio yn weddol helaeth ac yn teimlo y diwrnod wedyn braidd fel petawn wedi bod mewn ffeit .

No comments: