Monday, September 17, 2007

Gogledd Dyfnaint, penwythnos 15-16 Medi

Es gyda Rob G ac Emlyn i "gymanfa" môr gogledd Dyfnaint. Cyrhaeddom y gwersyll yn Mullacott Cross, y tu allan i Ilfracombe, ar nos Wener tra oedd hi'n olau o hyd, o gwmpas 20.00. Cwrddodd pawb am 9.00 y bore wedyn a rhannu'n grwpiau. Aethom i Lynmouth, yn rhan o grwp o 14 (er mai 15 adroddodd y rhai a gymrodd arnynt fod yn arweinwyr i ni i wylwyr y glannau yn Abertawe). Roedd yn fore arbennig o braf, prin awel o gwbl a'r môr fel gwydr. Cychwynnom tuag at Combe Martin tua chanol dydd. Ar ôl stopio am ginio ar draeth Ramsev (er bod yr "arweinwyr" yn mynnu ein bod yn Woody Bay) fe ymrannom yn ddau grwp o 7. Dychwelodd un grwp yn ôl tra aethom gyda'r grwp arall ymlaen i Combe Martin. Cyrhaeddom tua 16.00. Er ein bod wedi mynd yn erbyn dechrau'r llanw am o gwmpas awr, roedd y llanw'n isel iawn o hyd pan gyrhaeddom oedd yn golygu ffordd bell i gario'r cychod at y maes parcio. Ces lifft yn ôl i Lynmouth gyda John Cr., Gwyddel, ond roedd yn tynnu at ddwy awr erbyn i mi ddychwelyd a llwytho'r cychod i fynd o 'na.

Trefnodd Rob, Sea Kayaking SouthWest, y barbiciw gyda'r nos.

Roedd mymryn fwy o drefn arnom erbyn y Dydd Sul. Gwaetha'r modd roedd rhagolygon y tywydd yn anffafrïol iawn - ffors 3-7 o'r de-orllewin yn troi'n 3-4 o'r gogledd-orllewin wedyn. Er bod 11 wedi mynd gyda ni i draeth Hele, i'r dwyrain o Ilfracombe, dim ond 10 fentrodd i'r dwr. Trodd cwpl yn ôl wedi cyrraedd cei Ilfracombe. Gweithredais ychydg fel arweinydd er cymryd y lle olaf wrth i ni gychwyn i'r gorllewin am Fae Lee. Wedi cwrdd â dau badlwr lleol yn dod yn ôl o'r cyfeiriad hwnnw, penderfynom yn raddol na fydd yn mynd llawer ymhellach na dau fae arall. Stopiom am ginio ar draeth Brandy Cove ac wedyn aethom yn ôl gan "neidio'r creigiau" (rock hopping?). Cawsom un "digwyddiad" pan aeth John Cr. o'i gwch. Angorais i ei gwch tra rhoddodd un arall  - Toz - ef yn ôl i'w gwch. Roeddem wedi cychwyn y daith tua 10.45, rhyw awr ar ôl penllanw, ac roedd y llanw yn ein erbyn ar y ffordd yn ôl, er nad oedd unrhyw gryfder iddo gan ein bod yn agos at y lan. Ychydig o ymarfer rolio ar y diwedd ac roeddem allan o'r dwr tua14.00.

No comments: