Monday, February 4, 2008

Rhan uchaf Afon Dart, Dydd Sadwrn 3 Chwefror

Ces lifft gydag Alan S. a Haydn. Gadael Caerdydd tua 7.50 a chwrdd a'r lleill yn Newbridge, Dartmoor am 09.45. Yno yn disgwyl amdanom oedd Matt, Phil D., Adam, a rhai newydd i mi, sef Del, Nathan a Tom. Ar ôl mynd ar y dwr, a gweld Tom yn gorfod rolio dwywiath o fewn dau ganllath, fe ymrannom yn ddau grwp: fi, Matt, Phil, Alan a Haydn yn un. Roedd lefel y dwr yn isel, troedfedd o dan y silff garreg yn Newbridge a golygai hynny bod yr afon yn garregog iawn. Mae'r afon yn wych a'r daith yn gyffrous bron o'r dechrau. Ran amlaf cadw i'r chwith o'r ynysoedd sy yn rhoi'r llwybr gorau - heblaw wrth Raeadr Euthanasia lle mae eisiau bod ar y dde i'w redeg. Dyna'r unig ddarn gariais o gwmpas. Gan fod pawb wedi stopio i'w archwilio, doedd gen i mo'r hyder i'w redeg er mewn gwirionedd doedd e ddim yn edrych yn berygl - dim ond fod rhuthr y dwr ychydig yn fwy, a lwc yn hytrach na sgil, yn cael y rhan fwyaf i lawr yn ddibroblem. Y flwyddyn nesaf i mi efallai. Gorffennom tua 2.30 ac roeddwn yn ol gartref erbyn 17.45.

Fideo da gan Phil:

Ar y môr: Penarth i Sain Dunwyd

Yng nghwmni Eurion, Adrian, Jim, a , hyd at Cold Knap, Neal. Cychwynnon tua 09.30 - hanner awr cyn penllanw - a throi i mewn i wynt G4 wnaeth hi'n dipyn o frwydr at Cold Knap lle gadawodd Neal, ac wedyn hyd at Aberthawan lle stopion ni am ginio.

Gostegodd y gwynt wedyn, lllonyddodd y mor, a bu'n llawer yn fwy cyfforddus ac yn haws. Yn Sain Dunwyd, roedd yr heddlu: yn disgwyl llwytho corff i ambiwlans. Roedd bad achub Coleg yr Iwerydd wedi dod o hyd iddo ar draeth: rhywun wedyn neidio oddi ar y clogwyni tebyg. Cyrhaeddon Sain Dunwyd tua 14.30 os cofiaf yn iawn. Mae mwy o fanylion am y daith wedi eu blogio gan Eurion: http://beyond-the-break.blogspot.com/

Afon Afan, Dydd Sadwrn 12 Ionawr

Es gyda John C a Rob. Roedd lefel y dwr yn weddol isel. Talon ni sylw arbennig i leoliad y ddwy bibell sy'n croesi'r holl ffordd ar draws yr afon. Mae'r un gyntaf yn dod yn fuan ar ôl i bibell ymddangos ar yr ochr dde yn rhedeg ar hyd lan yr afon ac yn y pen mae rhyw floc o adeilad. Y diwrnod hwn roedd yr afon yn dechrau rhannu'n ddwy o gwmpas ynys, neu o leiaf darn dwr bas iawn. Wrth syllu i lawr yr ochr chwith roedd sbwriel i'w weld. Rwy'n meddwl bod hynny'n gyffredin gan fy mod yn cofio sylwi arno o'r blaen. Mae'n digwydd oherwydd bod y sbwriel yn cael ei ddal yn erbyn y bibell. Ar ôl cario o gwmpas ar yr ochr chwith a rhoi yn ôl i mewn, cyn bo hir iawn mae tamaid o ddwr Gradd 3 ac yn weddol fuan wedyn mae cae pel-droed i'w weld ar yr ochr dde c mae'r cored/pibell nesaf yn ymddangos. Heblaw am y rhwystrau hynny, a allai fod yn beryglus iawn pe bai'r dwr yn uchel, mae'r gweddill y daith i lawr, o ran iaf Afon Corrwg i Bont-rhyd-y-fen yn hyfryd. Yn ben ar y cyfan, cafodd Rob rodd o sgidiau blaen caled gan y dyn oedd yn byw yn y ty y parciodd Rob o'i flaen. Cawl wedyn yng Nghanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg ac ychydig o sgowtio am le i roi i mewn yn ei ymyl. (Mae lle: wrth bont heibio i'r pyllau pysgota. wn i ddim sut croeso fyddai ar gael gan bysgotwyr y pyllau).