Monday, February 4, 2008

Afon Afan, Dydd Sadwrn 12 Ionawr

Es gyda John C a Rob. Roedd lefel y dwr yn weddol isel. Talon ni sylw arbennig i leoliad y ddwy bibell sy'n croesi'r holl ffordd ar draws yr afon. Mae'r un gyntaf yn dod yn fuan ar ôl i bibell ymddangos ar yr ochr dde yn rhedeg ar hyd lan yr afon ac yn y pen mae rhyw floc o adeilad. Y diwrnod hwn roedd yr afon yn dechrau rhannu'n ddwy o gwmpas ynys, neu o leiaf darn dwr bas iawn. Wrth syllu i lawr yr ochr chwith roedd sbwriel i'w weld. Rwy'n meddwl bod hynny'n gyffredin gan fy mod yn cofio sylwi arno o'r blaen. Mae'n digwydd oherwydd bod y sbwriel yn cael ei ddal yn erbyn y bibell. Ar ôl cario o gwmpas ar yr ochr chwith a rhoi yn ôl i mewn, cyn bo hir iawn mae tamaid o ddwr Gradd 3 ac yn weddol fuan wedyn mae cae pel-droed i'w weld ar yr ochr dde c mae'r cored/pibell nesaf yn ymddangos. Heblaw am y rhwystrau hynny, a allai fod yn beryglus iawn pe bai'r dwr yn uchel, mae'r gweddill y daith i lawr, o ran iaf Afon Corrwg i Bont-rhyd-y-fen yn hyfryd. Yn ben ar y cyfan, cafodd Rob rodd o sgidiau blaen caled gan y dyn oedd yn byw yn y ty y parciodd Rob o'i flaen. Cawl wedyn yng Nghanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg ac ychydig o sgowtio am le i roi i mewn yn ei ymyl. (Mae lle: wrth bont heibio i'r pyllau pysgota. wn i ddim sut croeso fyddai ar gael gan bysgotwyr y pyllau).

No comments: