Tuesday, June 18, 2013

Gwyliau yn yr Alban, Dydd Llun 20 Mai - Dydd Mawrth 28 Mai 2013

Dydd Llun
Roedd y tywydd wedi bod yn braf ers Dydd Sadwrn ac er nad y rhagolygon yn arbennig penderfynais y byddwn yn cychwyn ar Ddydd Llun. Gadael Caerdydd tua 09.45, cyrraedd Skye tua 22.00. Codi pabell yng ngwersyll Ashaig: http://www.ashaig-campsite-skye.co.uk/index.shtml
Loch Lomond

Loch Lomond

Loch Lomond


Dydd Mawrth
Gan fod y rhagolygon yn dweud y byddai'r gwynt yn codi wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen roeddwn yn awyddus ceufadio yn syth. Dewisais geufadio o Elgol i Ynys Soay.
https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004dddafb5278a8c9768&msa=0

Fy nghwch ar Ynys Soay (o flaen yr hen ysgoldŷ)
Sgowtais o gwmpas Heasta gyda'r nos, gan ystyried lle awn i geufadio ar Ddydd Mercher.
Heasta

Dydd Mercher.
Roedd yn braf ond yn rhy wyntog i geufadio felly gyrrais o gwmpas Trotternish.
Storr, Trotternish

Castell Duntulm
Es i noson werin yn Neuadd Pentref Breacais gyda'r nos. Roedd hen bâr o Indiaid Cree yn perfformio, y teulu Cheechoo. Dyma fideo ohonynt mewn digwyddiad arall: http://www.youtube.com/watch?v=x-d5zlRwXgs Roedd y ffidlwr Ronan Martin yn berfformiwr arall oedd yno. 
Ronan Martin

Dydd Iau
Cefais ail noson wyntog yn y babell nos Fercher, pan gododd i Force 7 efallai. Penderfynais fod rhaid i mi chwilio am rywle arall i aros. Roeddwn wedi gobeithio gyrru i Applecross ond roedd wedi bwrw eira ac yn niwl yn y bore. Penderfynais fynd i sgowtio Plockton a Loch Carron. Ar ôl gyrru o gwmpas Skye weddill y dydd dychwelais gyda'r nos i aros mewn bync-hws yno: http://www.plockton.com/accommodation/bunkhouses/station_bunkhouse.shtml
Plockton

Dydd Gwener
Dihuno yn y bore a gweld ei fod yn ddiwrnod bendigedig. Padlais o gei Plocktoon i'r gorllewin, gan weld dau ddwfrgi. Dim ond rhyw 6 milltir o daith ond un arbennig o braf: https://maps.google.co.uk/maps/ms?msid=203412124956633915799.0004dddb266f0b00d74b2&msa=0








 Cyrhaeddais Sabhal Mor Ostaig tua 16.00.







Dydd Sadwrn
Ymunais â'r daith oedd yn mynd o Tarscabhaig o gwmpas Trwyn Sleat yn ôl i'r coleg. Roedd y gwynt yn codi wrth i'r daith fynd yn ei blaen ac roedd yn eithaf garw wrth inni fynd heibio i'r Trwyn.

Dydd Sul
Dewisiais i beidio ag ymuno ar daith: roedd un i Loch Nevis a'r llall i Ynys Soay. Mynychais sesiynau sgiliau yn lle.
Camas Darach, i'r dwyrain o'r trwyn


Dydd Llun
Ymunais â'r daith a oedd yn mynd o'r coleg i Kyleakin, taith o 19 milltir.

Ar Eilean Sionnach ger Ornsay

Ar Eilean Sionnach ger Ornsay
Dydd Mawrth
Gadewais tua 9 y bore a chyrraedd adre tua 24.00.



No comments: