Sunday, March 14, 2004

Afon Ewenni

Taith ddifyr heddiw, y tro cyntaf i mi fynd ar Afon Ewenni. Ar ôl eira ganol nos Iau a glaw Dydd Sadwrn a bore Dydd Sul, roedd jyst digon o ddwr i'n galluogi fynd ar afon fechan fel hon. Dim ond dau ohonom aeth, fi a John N., ar ôl cinio. Gyrru i lawr yn gyntaf i Aber Ogwr a pharcio yn y maes parcio ger y castell. Sylwi bod arwydd yno yn rhybuddio y gallai'r lle gael ei foddi gan lawn uchel ond penderfynu nad oedd perygl o un digon mawr heddiw. Yn ôl wedyn i Ben-coed i roi i mewn. Taith o 12km, yn ôl llyfr Sladden. Cychwynnon ni tua 1.25pm a chyrraedd pen ein taith tua 3.15. Cyflymach o lawer nag oeddem wedi disgwyl. Daethom ar draws dwy gored, y ddwy yn eitha caeedig a'r ail â thipyn o dynfa yn ôl, ond dim problem. Heblaw am hynny, roedd yn dwr yn nes at Radd 1 yr holl ffordd na Gradd 2, er, gan ei bod yn droellog a changhennau coed a drysni dros yr afon mewn nifer o lefydd, byddai eisiau rhywfaint o sgiliau ar ganwydd i deithio ar ei hyd. Dim yn addas i'r dechreuwr pur felly. Gorffenom ni y daith â'r heulwen yn disgleirio, er bod y gwynt yn dal yn eitha cryf (Ffors 6 ar y môr, betia i), ac yn hollol sych. Peint yn y dafarn lan y lôn wedyn (Y pelican yn y rhywbeth) a thipyn o sgwrs cyn troi at adre.

No comments: