Rwy braidd yn hwyr yn cofnodi'r ymweliad ond Dydd Sul diwethaf (?7 Mawrth), es i syrffio ym Mhorthcawl, gyda John C., y tro cyntaf ers y digwyddiad pan alwodd John am y gwasanaethau argyfwng ar ôl iddo fy ngweld yn cael f'ysgubo gan y rip i'r creigiau. Er i mi ddod o 'na yn ddi-anaf, roeddwn yn falch ei fod wedi galw am gymorth. 'Ta beth, roedd yr ymweliad Dydd Sul diwethaf yn ddigon pleserus. Doedd y syrff ddim yn fawr iawn ac roeddwn i'n eitha nerfus am y rhan fwyaf o amser, yn dyfalu a fyddai fy rôl yn llwyddo pe bawn i'n troi drosodd. Ymarferais ar y diwedd gyda rhyw hanner dwsin o roliau, a gorffen â'm hyder wedi adfer ychydig.
Nos Fawrth, bu cyfarfod Pwyllgor Padlwyr y Ddraig eitha cynhyrchiol, ychydig o deithiau wedi'u cytuno a nifer wedi ymgymryd i ysgrifennu rhyw fath o asesiad risg am rai o'r safleodd byddwn yn eu defnyddio amlaf.
No comments:
Post a Comment