Tuesday, January 1, 2008

Taith ar y môr, o Lanilltud Fawr i Aberogwr, 1 Ionawr 2008

Yng nghwmni Eurion, Neal, Chris a Jim, cychwynnom o Lanilltud am 13.00 (roedd penllanw o gwmpas 12.15-12.30) trwy'r syrff (heb wlychu) gan fwriadu mynd i Southerndown. Roedd y môr yn lled lonydd, a bron dim gwynt (er gwaetha'r rhagolygon am F4-5) ond bod syrff a phan gyrhaeddom Southerndown roedd y tonnau'n dal i dorri ar y cerrig a'r traeth tywod ddim i'w weld - a'r tonnau'n fawr. Newidiom ein cynlluniau felly a bwrw ymlaen am Aberogwr lle daethom o hyd i ffordd trwy'r syrff lan i aber yr afon a glanio am 15.00. Erbyn diwedd y dydd roedd hyd yn oed machlud i'w weld dros Loegr. Roedd yn 17.00 arnom yn cyrraedd yn ôl yn Llanilltud.

No comments: