Saturday, August 21, 2010

Porth Llechog i Draeth Bychan, Dydd Llun 16 Awst

Ar fy mhen fy hun eto. Parciais y car yn Nhraeth Bychan a chael lifft gyda'm gwraig ac Euros i Borth Llechog. (Roeddwn wedi bod yno y diwrnod cynt gan i ni gerdded oddi yno i'r clogwyn gyferbyn â Phorthwen ac yn ô)l. Mynd gyda'r llanw oeddwn, wrth gwrs, a thorrais allan y tu ôl i Ynys Amlwch a gweld morlo. Ymlaen wedyn yn bryderus braidd i Drwyn Eilian a chyrraedd yno tua dwy awr cyn penllanw, adeg pan y gallai wedi bod yn arw iawn. Roedd y dŵr ychydig yn arw ond ddim yn fawr o gwbl ac felly roeddwn heibio iddo'n sydyn. Stopiais i gael bwyd ar draeth mewn bae oedd wedi ei amgylchynu gan glogwyni. Ymlaen wedyn i Ynys Dulas lle roedd llawer o forloi (a RIB yn edrych arnynt). Es rhwng Ynys Moelfre a'r tir mawr. Roeddwn i'n ei chael yn eitha gwaith ar yr ochr agosaf at yr ynys (hwyrach bod y llanw wedi troi yn f'erbyn?) ond yn nes at y tir mawr roedd yn haws. Ymarferais rolio ychydig yn y bae cyn Traeth Bychan. Ar ôl newid, es i lawr at y clwb hwylio a chwilio a dod o hyd i hen gydnabod o ddyddiau hwylio Mei, a chael paned a sgwrs hir â nhw am hynt ein teuluoedd. Diwrnod braf, o ran y tywydd a'r hwyl. Stopiodd y GPS â gweithio pan gyrhaeddais Drwyn Eilian ond tau 10 milltir/15k oedd hyd y daith yma.

No comments: