Sunday, August 29, 2010

Ynys Echni, 27-28 Awst 2010


O'r diwedd, llwyddais wersylla ar Ynys Echni. Gadewais Swanbridge gyda'r hwyr a chyrraedd yr ynys tua 19.45, hanner awr cyn iddi dywyllu. Codais fy mhabell a chael bwyd cyn iddi dywyllu. Roedd y lleuad bron yn llawn (a'r llanw wedi bod yn uchel felly - 11.3m os cofiaf yn iawn) ac yn noson braf. Wedi iddi dywyllu roedd yr olygfa'n braf o hyd: goleuadau trefi glan y môr de Cymru a Gwlad yr Haf yn rhyfeddod. Rhedai'r cwningod o gwmpas ac roedd y lle'n swynol. Cysgais yn dda, er bod y gwynt yn chwipio'r babell a'r gwylanod ac adar eraill yn cadw rhyw sŵn drwy'r nos. Cysgais yn hwyr gan ddihuno ychydig cyn naw, a dyna olygfa eto. Roedd y môr o'm blaen, yn frown wrth gwrs, fel arfer, ond yr haul yn tywynnu a llawer o gychod hwylio allan yn barod.

Roeddwn am fynd adre ar ôl penllanw 11.00 ac felly doedd dim llawer o amser gen i mewn gwirionedd. Paciais rai o'm pethau â mynd â nhw i lawr at y cei lle des ar draws dafad (wyneb broch) yn gorwedd ac yn anadlu'n drwm. Ni symudodd wrth i fynd heibio iddi. Rhyfedd iawn. Dywedais yr hanes wrth Ross, yr is-warden, pan es yn ôl at fy mhabell a'i thynnu i lawr a gorffen pacio. Es am dro o gwmpas yr ynys wedyn, a chael sgwrs ag un o arweinwyr Woodcraft oedd yno'n hyfforddi grŵp o ryw ddeg crwt ar sgiliau goroesi. Roedden nhw wedi bod yn gwersylla mewn tîpî. Ar fy ffordd nôl at y babell des ar draws un o wirfoddolwyr yr ynys oedd yn chwilo am weddill y praidd wyneb broch. Dywedodd fod y ddafad oedd i lawr wrth y cei wedi trigo. Cerddais gyda'r dyn am ychydig nes dod o hud i'r praidd a gweld bod Ross wedi sylwi bod dafad arall wedi gwahanu oddi wrth y lleill ac yn edrych yn giami.

Gadawais yr ynys yn eithaf hwyr, tua 12, ac fel y rhagwelwyd gan y rhagolygon roedd y gwynt yn codi. Roedd yn F4 am y rhan fwyaf o'r daith ac hwnnw'n gweund y daith yn dipyn mwy o sialens nag a gefais ar fy nheithiau diweddar yno. Cymerodd y daith awr.

Profiad arbennig. Rwyf am fynd eto!

No comments: