
30 Awst, es ar fy mhen fy hun i Ynys Býr: Ychydig iawn o wynt ges i a'r môr yn llonydd dros ben ar y ffordd allan ac es heibio i'r Woolhouse Rocks lle roedd nifer o forloi. Es glocwedd o gwmpas Ynys Bŷr (y tro cyntaf i mi fynd y cyfeiriad hwnnw) a gweld llawer o forloi.
Gwersyllais yn Hendre Eynon ger Tý Ddewi y noson honno, a phadlo gyda Col a Sue E, a Nick K. o Boppit (Aberteifi i Barrog) ar Dydd Mercher 31 Awst. Gwelom ugeiniau o forloi. Llwyddom hefyd ddod o hyd i "Bwll y Wrach", sef yr enw ar gylch lle roedd to hen ogof wedi disgyn.
Y noson honno gwersyllais yn Poppit. Roedd y machlud yn rhyfeddol gan fod ffenestri llawer o dai ochr Gwbert yr aber yn adlewyrchu'r haul gymaint fel yr edrychent fel goleuadau coch llachar.

Padlom o Aberporth i Boppit y diwrnod wedyn. Amneidiodd ddyn ar gwch atom ar y dechrau i ni fynd ato ac fe ofynnodd i ni beidio fynd ymlaen gan y byddem yn saethu taflegyrn am 14.00. Gan ei fod o gwmpas 12.30 dywedom y byddem yn mynd ymlaen gan y byddem o'r ffordd erbyn 14.00. Gwelom ddolffin ger Aberporth a ger y Mwnt. Er ein bod wedi sefyll am 14.00 i weld lansiad y taflegryn, welon ni ddim ond clywed ffrwydrad a sŵn y taflegryn (fel awyren) wedyn. A gwelom fabi morlo mawr mewn ogof ger Gwbert.
No comments:
Post a Comment