Gyrrais lan prynhawn Dydd Gwener a chysgu yn y car ger Loch Lomond y noson honno a chyrraedd Glenuig ar Dydd Sadwrn 19 Mai.
Loch Lomond - eira ar gopa'r mynydd draw
Gan ei bod yn braf pan gyrhaeddais es yn syth mâs am dro ar y môr gan fynd o Glenuig a throi i'r de i gyfeiriad Eilean Shona. Tro tua 2 awr a hanner.
Allan o Glenuig - Eigg yn y pellter
Dydd Sul 20 Mai: es gyda Colin a Sue i badlo o Kilchoan ar benrhyn Ardnamurachan i Portuairk (tro 9 'Y Llyfr' sef 'Scottish Sea Kayaking'). Roedd y môr yn eitha llonydd ond roedd ychydig o glaptotis er hynny o hyd.

Traeth cyn cyrraedd goleudŷ Ardnamurchan
Dydd Llun 21 Mai: roedd y tywydd yn gwella ac fe es gyda Colin a Sue o Glenuig i Ceann Tra ac yn ôl
Dydd Mawrth 22 Mai: es gyda C a S i Arisaig a phadlo o'r maes gwersyll o gwmpas ynysoedd Arisaig yn y prynhawn/hwyr
Machlud, o'r traeth nesaf at y maes gwersylla
Dydd Mercher 23: Roedd y tywydd yn wych erbyn hyn. Es gyda C a S o'r maes gwersylla yn Arisaig i Ynys Eigg a gwersylla yno y noson honno. Cymerodd y croesiad ei hun rhyw 2 awr 45 munud.
Ces beint gyda'r nos yn y caffi ger y cei. Roedd Donna'r pibydd yno i roi adloniant ond doedd neb arall yn y bar!
Map: rhan o'r ffordd i Eigg

Glanio ar Eigg
Yn Arisaig
Golwg ar ein gwersyll ar draws y bae ar Eigg
Ar lan y môr ger ein gwersyll ar Eigg
Eigg
Dydd Iau 24: dychwelyd o Ynys Eigg i Arisaig.

Fi yng nghanol ynysoedd Arisaig
Dydd Gwener 25: es ar fy mhen fy hun o Mallaig, padlo lan Loch Nevis i Inverie ac yna yn ôl i aber y loch i wersylla'n wyllt yno. Gallwn weld i ben Loch Nevis i'r dywrain a draw at yr Ynysoedd Bychain i'r gorllewin.

Tafarn mwyaf anghysbell prif dir Prydain, Loch Nevis

Ger y dafarn

Golwg i fyny Loch Nevis

Golwg i fyny Loch Nevis

Cerflun y Forwyn Fair, Aber Loch Nevis

Sbwriel y traeth lle gwersyllais
Map: O Mallaig i Loch Nevis
Dydd Sadwrn 26: padlais i Eilean Chuilinn yn Loch Hourn (gan basio teulu o ddwfrgwn yn chware ar lannau Knoydart) ac wedyn yn ôl i wersylla'n wyllt y noson honno yn Knoydart ychydig i'r de o Inverguseran. Roedd yn safle gwych, er braidd yn ddigysgod a'r haul yn danbaid hyd at ddeg o'r gloch y nos. Roedd cân y gog i'w chlywed ymhob cyfeiriad a gwelais ddwy yn cael eu cwrso gan aderyn bach. Yn y bore, gwelais ddau ddwfrgi yn nofio heibio. Map: O Loch Nevis i Loch Hourn ac yn ôl i Inverguseran

Dyfrgwn ger Knoydart

Dyfrgwn ger Knoydart

Dyfrgwn ger Knoydart

Loch Hourn
Dydd Sul 27: padlais yn ôl i Mallaig (gan oedi ychydig i wylio llamhidydd ger aber Loch Nevis) a dal y fferi am 14.40 i Ynys Skye a gwersylla'r noson honno mewn gwersyll ar lan ddeheuol Dún Bheagán.
Map, o Knoydart yn ôl i Mallaig
Dydd Llun 28: roedd C a S am badlo o Stein in Dún Bheagán ond roedd y gwynt o'r gogledd-ddwyrain yn F4-5 yn rhy gryf iddynt ac ar ôl gyrru i Stein fe ddychwelom i Loch Dún Bheagán a gwneud tro bach o'r lle roeddem wedi bwriadu gorffen lan y loch ac wedyn yn ôl i'r maes gwersylla (ar ôl stopio i gael hufen iâ yng ngardd y castell).
![]() |
Castell Dún Bheagán |
Dydd Mawrth 29: padlais gyda C a S o Harlosh o gwmpas Wiay (tro 14 'Y Llyfr'), a chychwyn gyrru adre wedyn am 16.15, gan gyrraedd gartref tua 09.30.
Map: taith o gwmpas Ynys Wiay
![]() |
Ar lan y môr yn Harlosh |
No comments:
Post a Comment