Saturday, July 10, 2004

Rest Bay, Porthcawl, 4 Gorffennaf

Prynhawn yn syrffio gyda Matt, John M. a Grant. Y dwr yn dwym a, dysgais wedyn, llawer o slefrod môr, er na welais i mohonynt. (Gwelwyd heulforgi ger Porthcawl yn ystod yr wythnos hefyd yn ôl y sôn).

Tuesday, June 29, 2004

Tryweryn, 26 Mehefin

Ymweliad arall â'r hen le, y tro hwn yng nghwmni Matt, ei ymweliad cyntaf. Aethom i fyny ar nos Wener, cael ein plagio gan y chwiws, a gwneud dwy daith ar y safle uchaf ar y Sadwrn, yn y glaw yn bennaf. 10 cumec, dim llawer o badlwyr, braf iawn.

Monday, June 21, 2004

Symonds Yat

Taith i Symonds Yat gydag Euros ddoe, tipyn yn wahanol i Slofenia, ond braf iawn er hynny. Roedd yn ddiwrnod braf a heulog erbyn inni gyrraedd.Ychydig o ddwr oedd yno, a llai byth o ddwr gwyn, ond gwnaeth Euros yn dda. Fel arfer, mwynhaodd nofio yn y dwr cymaint â'r padlo mae'n debyg. Gadewais iddo wneud hynny ar ôl inni gyrraedd y gwaelod y tro cyntaf.

Roeddwn wedi trefnu cwrdd â Matt yno ac fe ddaeth â' deulu. Aeth ei wraig a'i chwaer ar ydwr mewn ceufadau er y bu'n rhaid i mi frolio fy nghymhwysterau hyfforddi er mwyn i'w chwaer gael llogi cwch.

Gorffennwyd gyda pheint a sgwrs gyda Matt a'i deulu. Dymunol iawn.

Tuesday, June 8, 2004

Taith i Slofenia

Dyma restr o'r afonydd y bues arnynt yr wythnos diwethaf:

Dydd Sul 30 Mai: cwrs slalom Eiskanal, Augsburg, Yr Almaen. Cwrs byr ond dwr mawr, Gradd 4. 4 rhediad, wedi rolio ar 3!

Dydd Llun 31 Mai: Afon Salza, Steyr, Awstria, o Wildalpen i Eizhalden, 16km, Gradd 3. Mae llun o'r don wrth y maes gwersylla i'w gael ar y ddolen ganlynol:

http://www.kajak.at/index.0.php?chapter=./Fluesse/showindex.php?bilder=1&menu=flussinfo&texl=Die&texr=Flussdatenbank

Dydd Mawrth 1 Mehefin: Afon Soca, Slofenia, o Trenta i  Bovec (yn cynnwys y 3edd ceunant), 5km Gradd 2-4. Afon Koritnica, o flwch Predil (ar ôl y geunant) i Bovec, 6km, Gradd 3.

Dydd Mercher 2 Mehefin: Afon Soca, Zaga i Trnovo, 7km, Gradd 3-4 ac wedyn Trnovo i Kobarid, 4km, Gradd 4+

Dydd Iau 3 Mehefin: Afon Gail, Awstria, o Obertillach i Birnbaum/Nosta, 28km!, Gradd 3-4

Dydd Gwener 4 Mehefin: Afon Inn, Awstria, Pfuns trwy Tosens i Prutz, 13 km, Gradd 2-4.

Ceir disgrifiadau o rai o'r rhain yn Almaeneg ar y ddolen ganlynol:

http://www.kajaktour.de/fluesse.htm

 

Thursday, May 20, 2004

Tryweryn yn yr haul

Teithiais i Dryweryn ar Ddydd Sadwrn 14 a gwersylla yno. Tywydd godidog - awyr las a dwr gwyn. Gwych. Roedd 9 cumec yn cael ei ollwng. Gwnes dwy daith ar ran uchaf yr afon ( doedd y gwaelod ddim ar agor). Doedd y Donner kebab yn nhref wyllt y Bala ar nos Sadwrn ddim cystal.

Wednesday, May 12, 2004

Morfablog

Edrychais ar maes-e.com ddoe a sylwi rhywsut fod Morfablog wedi dod ar draws y blog yma. Enwogrwydd! Os bydd rhywun arall yn darllen hyn o lith, pam na wnei di adael neges i mi wybod? Byddai'n sbardun i mi ddal ati yn sicr.

Diolch am y sylw Forfablog.

http://www.morfablog.com

Taith gyda Phadlwyr y Ddraig ar Afon Gwy

Ar Ddydd Sul, 9 Mai, bues yn cynorthwyo Andy R. yn arwain y clwb ar daith o'r Clas-ar-wy i'r Gelli Gandryll. Roedd 11 ohonom i gyd, ac i dri o blant ac un llanc dyma'r tro cyntaf iddynt fod ar afon. Doeddwn i ddim wedi gwneud y darn hwn o'r afon er Mai 2001! - ac roeddwn wedi anghofio pa mor hir y mae - canlyniad teithio gyda dechreuwyr ar ddarn o ddwr gwastad nad yw prin yn symud mewn rhai mannau. Wedi gadael Caerdydd am 9.00, roedd hi'n 6pm arnom yn cyrraedd yn ôl, er, a bod yn deg, roedd hynny'n cynnwys amser am beint ar y diwedd yn y Clas. Uchafbwynt y daith i'r plant oedd y nofio (fel arfer, well ganddynt hynny na cheufadio) - i lawr heibio i'r gored doredig tua'r diwedd - gan gynnwys dal y rhaff achub a daflwyd atynt. Digon difyr i gyd, a'r tywydd yn braf a'r dwr yn ddigon uchel fel nad oedd bron dim crafu ar hyd y gwaelod.