Sunday, August 29, 2010

Ynys Echni, 27-28 Awst 2010


O'r diwedd, llwyddais wersylla ar Ynys Echni. Gadewais Swanbridge gyda'r hwyr a chyrraedd yr ynys tua 19.45, hanner awr cyn iddi dywyllu. Codais fy mhabell a chael bwyd cyn iddi dywyllu. Roedd y lleuad bron yn llawn (a'r llanw wedi bod yn uchel felly - 11.3m os cofiaf yn iawn) ac yn noson braf. Wedi iddi dywyllu roedd yr olygfa'n braf o hyd: goleuadau trefi glan y môr de Cymru a Gwlad yr Haf yn rhyfeddod. Rhedai'r cwningod o gwmpas ac roedd y lle'n swynol. Cysgais yn dda, er bod y gwynt yn chwipio'r babell a'r gwylanod ac adar eraill yn cadw rhyw sŵn drwy'r nos. Cysgais yn hwyr gan ddihuno ychydig cyn naw, a dyna olygfa eto. Roedd y môr o'm blaen, yn frown wrth gwrs, fel arfer, ond yr haul yn tywynnu a llawer o gychod hwylio allan yn barod.

Roeddwn am fynd adre ar ôl penllanw 11.00 ac felly doedd dim llawer o amser gen i mewn gwirionedd. Paciais rai o'm pethau â mynd â nhw i lawr at y cei lle des ar draws dafad (wyneb broch) yn gorwedd ac yn anadlu'n drwm. Ni symudodd wrth i fynd heibio iddi. Rhyfedd iawn. Dywedais yr hanes wrth Ross, yr is-warden, pan es yn ôl at fy mhabell a'i thynnu i lawr a gorffen pacio. Es am dro o gwmpas yr ynys wedyn, a chael sgwrs ag un o arweinwyr Woodcraft oedd yno'n hyfforddi grŵp o ryw ddeg crwt ar sgiliau goroesi. Roedden nhw wedi bod yn gwersylla mewn tîpî. Ar fy ffordd nôl at y babell des ar draws un o wirfoddolwyr yr ynys oedd yn chwilo am weddill y praidd wyneb broch. Dywedodd fod y ddafad oedd i lawr wrth y cei wedi trigo. Cerddais gyda'r dyn am ychydig nes dod o hud i'r praidd a gweld bod Ross wedi sylwi bod dafad arall wedi gwahanu oddi wrth y lleill ac yn edrych yn giami.

Gadawais yr ynys yn eithaf hwyr, tua 12, ac fel y rhagwelwyd gan y rhagolygon roedd y gwynt yn codi. Roedd yn F4 am y rhan fwyaf o'r daith ac hwnnw'n gweund y daith yn dipyn mwy o sialens nag a gefais ar fy nheithiau diweddar yno. Cymerodd y daith awr.

Profiad arbennig. Rwyf am fynd eto!

Y Mwmbwls, Dydd Sul 22 Awst

Taith arall i'r Mwmbwls. Mwy neu lai'r un cynllun â'r un blaenorol, heblaw fy mod ar fyn mhen fy hun y tro hwn. Es i'n bellach - at Trwyn Pwlldu, lle ces fy mrechdan. Ymarfer rolio eto wrth gyrraedd yn ôl. "Re-entry and roll" wedi gweithio, jyst, y tro hwn. A hufen iâ blas mafon i orffen.

Saturday, August 21, 2010

Afon Menai, Dydd Mawrth 17 Awst 2010

Cychwynnais o Bwll Fanogl (i'r gorllewin o golofn Nelson "England expects...") a mynd yn syth am Bont Menai. Roedd y llanw newydd droi a doedd gen i ddim llawer o amser i fynd yno a medru cyrraedd yn ôl. Roedd dau grŵp o ganŵyr dan hyfforddiant allan, yn disgwyl i'r llif gynyddu iddynt fedru ymarfer torri i mewn a sylwais ar dri cheufadiwr arall ar y lan ychydig cyn Pont Britannia hefyd yn cymryd hoe. Es i lawr i'r Felinheli wedyn a phrynu brechdan caws drud iawn yn y dafarn a'i bwyta wrth fwrdd y tu allan. Doedd y tywydd ddim hanner cytsal â'r diwrnod cynt. Ar yr afon doedd bron dim gwynt (F3-4 o'r gogledd orllewin oedd hi i fod) ond doedd fawr o heulwen chwaith, er ei bod yn sych. Fe welais wn i ddim faint o grëyrod ar lan Ynys Môn. Ymarfer rolio ar y diwedd yn iawn, ond yr ymarfer allan o'r cwch a rolio i fyny wedyn yn fethiant. Doedd dim digon o bŵer ar ôl yn y GPS i'w ddefnyddio ond, o edrych ar y map, rwy'n amcangyfrif mai rhyw 7 milltir o daith i gyd oedd hon.

Porth Llechog i Draeth Bychan, Dydd Llun 16 Awst

Ar fy mhen fy hun eto. Parciais y car yn Nhraeth Bychan a chael lifft gyda'm gwraig ac Euros i Borth Llechog. (Roeddwn wedi bod yno y diwrnod cynt gan i ni gerdded oddi yno i'r clogwyn gyferbyn â Phorthwen ac yn ô)l. Mynd gyda'r llanw oeddwn, wrth gwrs, a thorrais allan y tu ôl i Ynys Amlwch a gweld morlo. Ymlaen wedyn yn bryderus braidd i Drwyn Eilian a chyrraedd yno tua dwy awr cyn penllanw, adeg pan y gallai wedi bod yn arw iawn. Roedd y dŵr ychydig yn arw ond ddim yn fawr o gwbl ac felly roeddwn heibio iddo'n sydyn. Stopiais i gael bwyd ar draeth mewn bae oedd wedi ei amgylchynu gan glogwyni. Ymlaen wedyn i Ynys Dulas lle roedd llawer o forloi (a RIB yn edrych arnynt). Es rhwng Ynys Moelfre a'r tir mawr. Roeddwn i'n ei chael yn eitha gwaith ar yr ochr agosaf at yr ynys (hwyrach bod y llanw wedi troi yn f'erbyn?) ond yn nes at y tir mawr roedd yn haws. Ymarferais rolio ychydig yn y bae cyn Traeth Bychan. Ar ôl newid, es i lawr at y clwb hwylio a chwilio a dod o hyd i hen gydnabod o ddyddiau hwylio Mei, a chael paned a sgwrs hir â nhw am hynt ein teuluoedd. Diwrnod braf, o ran y tywydd a'r hwyl. Stopiodd y GPS â gweithio pan gyrhaeddais Drwyn Eilian ond tau 10 milltir/15k oedd hyd y daith yma.

Y Mwmbwls, Dydd Sul 8 Awst


Es gyda Rob y tro hwn ac fel y tro diwethaf cychwyn o'r Mymbls yn weddol buan ar ôl y distyll. Doedd hi ddim hanner mor arw y tro yma o gwmpas y goleudy. Gwelon ni un morlo ar y ffordd i Fae Caswell ble stopion ni i gael bwyd. Ychydig o syrffio wedyn wrth gychwyn am yn ôl, a hufen iâ ar y diwedd.

Friday, July 30, 2010

Tryweryn, Dydd Sadwrn 24 Gorffennaf

Es ar fy mhen fy hun a chwrdd â Matt a Phil yn y Bala nos Wener, a threfnu cwrdd â nhw tua 10 y bore wedyn. Roedd 9 cumec yn cael ei ollwng. Rhedon ni o'r top i lawr i'r Bala ac wedyn gwneud dau rediad o'r top, y tro cyntaf dim ond i lawr at y bont ac wedyn at y rhaeadr ymhellach i lawr.

Dydd Sul 11 Gorffennaf - Y Mymbls

Dim ond taith fer ar fy mhen fy hun. Cychwynnais o'r Mymbls ryw awr ar ôl y distyll. Roedd yn eitha garw yn mynd o gwmpas y goleudy a phan gyrhaeddais Bae Langland roeddwn yn gallu gweld bod cryn syrff yno. Cariais ymlaen am ychydig ond wedyn penderfynu nad oedd diben im gario ymlaen at Caswell fel roeddwn wedi bwriadu gan y byddai'n debygol o fod yn anodd i lanio yno oherwydd y syrff. Yn ôl â fi felly, taith rhyw awr a hanner i gyd.