Mae f'ysgwydd yn fy mhrifo ac o ganlyniad rwyf wedi cyfyngu fy ngheufadio i deithiau byr diniwed ar y môr yn ddiweddar. Ar Ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf es i Swanbridge, Syli, a phadlo ar ddwr hollol lonydd i'r don ger trwyn Larnog ac yn ôl. Mwynheuais gymaint fel fy mod wedi mynd yno eto y diwrnod wedyn ond cael y gwynt tipyn yn gryfach - Force 4 efallai. Gan fy mod ar fy mhen fy hun eto - ac yn padlo fy hen Stunt 300 yn hytrach na chwch môr pwrpasol - cyfyngais fy hun i badlo i mewn i'r gwynt at ben ynys Syli ac yn ôl, cwpl o weithiau. Digon i godi chwysigod ar fy nwylo beth bynnag.
Ar Ddydd Sadwrn 6 Awst, es ar afon Menai, o Bwll y Fanogl, i'r Felinheli. Afraid dweud - unwaith eto roedd y dwr yn hollol lonydd. Doeddwn i ddim wedi meddwl mynd mor bell ond roedd hi'n braf iawn a chan fy mod wedi anghofio mynd â diod, meddyliais y byddai'n braf mynd i'r Felinheli a nôl diod o'r dafarn. Gwae fi! Wedi cyrraedd roedd torf o'r Eisteddfod yno a'r dafarn dan ei sang. Gan na fyddwn yn boblogaidd yn gwasgu i mewn yn fy nillad gwlyb roedd yn rhaid i mi hepgor fy niod.
Ar Ddydd Llun 8 Awst, ar ôl cael ofn yn y bore yn ceisio mynd lan ochr ogleddol Tryfan, es ar fy mhen fy hun unwaith eto i Ynys Seiriol. Padlais allan i ben yr ynys, gweld tua 8 morlo, ac wedyn padlo nôl i'm dychryn fy hun yn croesi'r swnd nôl i'r tir mawr. Ychydig o wynt oedd, a'r môr yn eithaf llonydd heblaw am y llif trwy'r swnd oedd yn achosi tonnau gweddol.