Sunday, July 12, 2015
Teithiau Medi 2013 - Gorffennaf 2014
Mwmbls 8 Medi 2013
Es gyda John N. a Rob ar y daith hon, o'r Mwmbls i'r Pwll-du ac yn ôl. Yn anffodus ar y ffordd yn ôl aeth John i'r dŵr ddwywaith. Ymarfer achub defnyddiol.
Ynys Bŷr ~4 Hydref 2013
Dim ond Rob oedd gyda fi ar y daith hon. Cychwynnom o Ddinbych-y-pysgod a mynd clocwedd o gwmpas yr ynys. Cwrddom â Wanye a ffrind iddo pan oeddem yn croesi. Roedden nhw wedi gwersylla'r noson gynt ar draeth ar ollewin yr ynys. Cododd y gwynt wrth i ni fynd ymlaen ac roedd yn eitha garw yn troi yng nghornel de-orllewin yr ynys. NDE yn ôl Rob!
Ynys Echni 29 Medi 2013
Es ar fy mhen fy hun y tro hwn. Roedd y gwynt o'r dwyrain a chyda llanw uchel hefyd roedd yn rhy arw i mi lanio ger y lanfa ar ddwyrain yr ynys. Es i draeth y gorllewin. Ar yr ynys roedd yn ddrwg gen i ddeall fod Matt y warden a gweddill y staff yn gadael ymhen pythefnos.
Pont Senni 20 Hydref 2013
Afon Cleddau 1 Tach 2013
Afon Ysgir ~Sul 11 Tach
Afon Afan 21 Rhag 2013
Wysg, Tal--bont ~5 Ion 2013
Ysgir ~ 3 Chwefror 2013
Traeth Mawr Porthclais 31 Mai
~16 Gorff Môn
Subscribe to:
Posts (Atom)