- taith wyllt i Ynys Echni (7 Hydref 2007! medd blog Eurion: http://beyond-the-break.blogspot.com/2007/10/monkstone-rock-flatholm.html)
- o gwmpas Skomer a Skokholm rywbryd ym mis Gorffennaf;
- i Ynys Echni ac Ynys Rhonech (ar 8 Mehefin yn ol Eurion ar ei flog). Dyma damaid o fideo dynnodd e ar y ffordd nôl, rhwng y ddwy ynys, a'r gwynt yn cyrraedd F5 ar adegau:);
- teithiau yn yr Alban ddiwedd mis Awst (Eskdale, Port Appin, Arisaig), ar draws Môr Hafren o Sin Dunwyd i Porlock Weir ym mis Medi ;
- penwythnos yng nghwmi Emlyn ym mis Medi pan wnaethom ddwy daith, y diwrnod cyntaf o Gei Newydd i Aberporth ac wedyn ar y Dydd Sul o Aberporth i Aberteifi;
- wythnos ym Mhlas Menai yn hyfforddi am 4* tua 20 Hydref;
- ac nawr hon, taith arweiniais yng nghwmni Rob (yn ei bryniant diweddar o Blas y Brenin - Capella 160 plastig glas) ac Emlyn o'r Barri (Bae Jackson) i Drwyn Larnog ac yn ôl. Gadawom tua 12.20, dim ond tua 40 munud cyn penllanw ond yn fuan sylweddolom fod y llanw wedi troi'n herbyn yn barod. Roedd y tywydd yn berffaith nes i ni gyrraedd Trwyn Larnog lle, ar ôl ryw hanner awr, daeth niwl ac rodd hwnna gyda ni, yn cuddio Ynys Sili o'r golwg hyd yn oed nes i ni ddod yn agos at yr ynys. Cliriodd wedyn ac roedd yn braf eto erbyn i ni gyrraedd Bae Jackson eto.
Tuesday, December 9, 2008
Teithiau môr
Tuesday, November 18, 2008
Dydd Sul 16 Medi
Thursday, July 17, 2008
Symposium Môr Môn, 3-5 Mai
Tags: Môn; ceufadio;canwio
Taith i'r Alpau 23-30 Mai 2008
Rwyf wedi bod yn esgeulus o'r blog yma eto. Fel rhyw baratoad i fynd i'r Alpau es â dau o'r meibion i Afon Tryweryn, tua'r 3ydd o Fai. Mwynhaon ni'n hunain. Hwnnw oedd y tro cyntaf i'r ddau fab fynd ar yr afon. Gwnaethom ddau dro ar ran uchaf yr afon. Aeth yr un cyntaf yn ianw heb broblem ond yr ail dro roedd Mei'n fwy mentrus ond wrth geisio cyrraedd edi cynta'r Fynwent fe drodd drosodd a chafodd taith boenus i lawr - er heb ei anafu'n ddifrifol. Roeddwn i'n teimlo fel newyddian ar yr afon hefyd gan nad oeddwn wedi bod arni ers bron dwy flynedd.
Beth bynnag, taith gyda chanolfan Arthog i alpau'r Swistir oedd bwriad eleni. Fel arfer cwrddais â nhw yn Dover a dalion ni'r llong tua y bore. Y cwmni y tro hwn oedd Andy, Karl a Louise, Dan - hyfforddwr llawrydd gydag Arthog, Kier - bachgen 26 oed o Awstralia, a Paul, trysorydd clwb canwio Marlow.
Ymddiheuriadau am y newid iaith, ond isod mae darn o e-bost anfonais at Badlwyr y Ddraig ar ôl i mi ddychwelyd:
I was meant to be kayaking in
the Swiss Alps last week but when paddling on the
Dranse in the French Alps our minibus was broken into,
and our leader lost his passport and money (and me
just a bag) so we had to stay in the French Alps. One
of those on the trip - Paul Crichton from Marlow Canoe
Club knew some of you - though John O'Connell was the
only name he remembered. The middle section of the
Dranse (Grade 3=+) was nice - a bit like the best
sections of the Upper Wye. On two runs I capsized in
exactly the same place - but rolled both times. It
wasn't serious anyway at that point. The water level
was medium high but rising - and chocolate coloured.
On Monday we then moved to the Isere where the water
was much higher - bank full and dark grey chocolate.
The run we did on the first day (Grade 3 normally) was
about 5km - and took less than 30 mins. It was
stonking. Easy paddling - although one swimmer and
boat travelled maybe 2km before being caught. Around 3
eddies in the 5km.
2nd day on the Isere saw the same conditions. I
attempted the national slalom course before tripping
on about the 3rd eddy - 1st roll attempt just failed
as I went down a shoot as I came up - two further
attempts were miserable and I took a massive swim. Two
throw lines fell short so I was down about 200m of
Grade 4. Boat again travelled 2km.
Moved to the Severaisse for Wednesday. This was twice
as steep: 20 m/km gradient. Again the bit we did was
graded 3 normally. Actually it was still pretty easy,
just very fast with virtually no eddies. Again around
4 to 5 km long, it took less than 30 mins. An
adrenalin packed run, we did it twice.
On Thursday morning we ran the Drac Blanc. This was
even steeper than the Severaisse: 26m/km with long
sections like Tryweryn's ski slope. The river bed was
wide and although there was a lot of water the river
only filled a small part of the bed so generally it
was very shallow with plenty of broaching potential.
The river was dark grey and thundering - the rocks
under the river making a continuous deep rumbling
noise as they were tumbled by the water. The guide
(http://www.zsplat.freeserve.co.uk/canoe/southern5.html)
notes it wouldn't be funny to swim and when I capsized
I was more scared in a river than I've ever been
before. Where I went over though was the section with
the roughest - and importantly deepest water - and, as
our leader said, I pulled the roll (a reverse screw if
you want to know) of my life. I wouldn't have drowned
but I would have had an extremely long and very rough
swim. An incredibly exciting run which again only took
about 30 mins. max.
As we got off the river, we were told by a man that
they were about to blast a chunk of the the mountain
alongside and that we must not kayak. He said kayaking
was banned! Just after that, we met another group of
kayakers from Britain who confirmed his story:
kayaking in the area had been banned since Monday
because of the high water levels which had already
drowned one kayaker and some others. We'd obviously
avoided the worst of the water.
Naturally, we then moved to the river Buêch near Gap
and did another section - really only Grade 2 but
virtually in flood. A JCB was pulling some trees out
at one point. One of our group who was having a hard
time was nearly arrested when, having withdrawn from
the trip, he was spotted on the river bank.
Thousands of miles travelled for relatively little
time on the water, but an experience. Big boats ruled
by the way: we had 5 Burns, an Eskimo Salto, and my
Jefe.
Saturday, March 29, 2008
Lligwy, Tryweryn, Afan, Wysg a Rest Bay
Dydw i ddim wedi bo dyn cofnodi teithiau'n gydwybodol eto. Gan weithio'n ôl:
Dydd Llun 24 Mawrth: es gydag Euros ar Afon Lligwy, o dan Bont Gyfyng i lawr tan ar ôl rapid y Goedwig. Roedd y dwr yn weddol isel, a'r rapid olaf yna llawer yn haws nag oeddwn i'n ei gofio - neu ei fod yn fwy anodd o lawer pan fo lefel y dwr yn uwch. Cwta awr gymrodd y daith.
Dydd Sul 23 Mawrth: es gyda Mei ac Euros i Dryweryn. Dyma'r tro cyntaf i'r ddau ohonynt fod ar yr afon. Roeddent yn gollwng 10cumec. Cawsom un daith lwyddiannus i lawr at heibio i bont yr NRA - neb yn gorfod rolio er iddynt ddod yn agos at wneud wrth bont Mrs Davies. Ar yr ail daith i lawr, ceisiom ni fentro ychydig yn fwy. Methais i dorri allan ar ben y tro uchwben y Fynwent ond cywirais fy hun a mynd yr holl ffordd i alwr. Yn anffodus, methodd Mei a nofiodd, gan dderbyn sawl drawiad ar ei goesau. Rhoddodd y gorau a rhedodd gyda ei raff taflu i amddiffyn fi ac Euros hyd at y diwedd.
Dydd Sadwrn 15 Mawrth: es gyda Mei, Euros, Matt a Phil D ar Afon Afan. Gwaetha'r modd, roedd lefel y dwr gryn dipyn yn is na'r tro o'r blaen ac fe garfon ein ffordd i lawr braidd. Nofiodd Euros unwaith ar y darn rhwng y ddwy bibell.
Dydd Sadwrn 8 Mawrth (os cofiaf yn iawn): es gyda Mei, Euros, John C a John O'C ar Afon Wysg, o Dal-y-bont i Grughywel. Roedd y dwr yn eithaf uchel. Nofiodd John O'C ar raeadr y Felin (oedd yn ei ganw agored chwaraeus newydd), a bu bron iddo wneud ond ei fod wedi llwyddo dringo i'r lan wrth Spuller's Folly.
Ac yn yr wythnosau cyn hynny, gwnaethom un daith arall ar Afon Wysg, o Dal-y-bont i Langynidr (gyda John C a Rob rwy'n credu) a chwpl o ymweliadau â Rest Bay: un ar y Dydd ASadwrn pan oedd Cymru'n chwarae (yr Eidal?) yn y prynhawn. Paul Mac oedd wedi gwahodd aelodau'r Clwb i gwrdd yno tua 10.30, pan oedd y llanw newydd droi ar drai. Twp: yn lle cael tonnau gweddol, cawsom nhw'n mwynd yn wannach ac yn wannach. Yr wythnos gynt, pan es gyda Mei, Euros a John yn unig, cawson rai gwell o lawer.
Monday, February 4, 2008
Rhan uchaf Afon Dart, Dydd Sadwrn 3 Chwefror
Ces lifft gydag Alan S. a Haydn. Gadael Caerdydd tua 7.50 a chwrdd a'r lleill yn Newbridge, Dartmoor am 09.45. Yno yn disgwyl amdanom oedd Matt, Phil D., Adam, a rhai newydd i mi, sef Del, Nathan a Tom. Ar ôl mynd ar y dwr, a gweld Tom yn gorfod rolio dwywiath o fewn dau ganllath, fe ymrannom yn ddau grwp: fi, Matt, Phil, Alan a Haydn yn un. Roedd lefel y dwr yn isel, troedfedd o dan y silff garreg yn Newbridge a golygai hynny bod yr afon yn garregog iawn. Mae'r afon yn wych a'r daith yn gyffrous bron o'r dechrau. Ran amlaf cadw i'r chwith o'r ynysoedd sy yn rhoi'r llwybr gorau - heblaw wrth Raeadr Euthanasia lle mae eisiau bod ar y dde i'w redeg. Dyna'r unig ddarn gariais o gwmpas. Gan fod pawb wedi stopio i'w archwilio, doedd gen i mo'r hyder i'w redeg er mewn gwirionedd doedd e ddim yn edrych yn berygl - dim ond fod rhuthr y dwr ychydig yn fwy, a lwc yn hytrach na sgil, yn cael y rhan fwyaf i lawr yn ddibroblem. Y flwyddyn nesaf i mi efallai. Gorffennom tua 2.30 ac roeddwn yn ol gartref erbyn 17.45.
Ar y môr: Penarth i Sain Dunwyd
Yng nghwmni Eurion, Adrian, Jim, a , hyd at Cold Knap, Neal. Cychwynnon tua 09.30 - hanner awr cyn penllanw - a throi i mewn i wynt G4 wnaeth hi'n dipyn o frwydr at Cold Knap lle gadawodd Neal, ac wedyn hyd at Aberthawan lle stopion ni am ginio.
Gostegodd y gwynt wedyn, lllonyddodd y mor, a bu'n llawer yn fwy cyfforddus ac yn haws. Yn Sain Dunwyd, roedd yr heddlu: yn disgwyl llwytho corff i ambiwlans. Roedd bad achub Coleg yr Iwerydd wedi dod o hyd iddo ar draeth: rhywun wedyn neidio oddi ar y clogwyni tebyg. Cyrhaeddon Sain Dunwyd tua 14.30 os cofiaf yn iawn. Mae mwy o fanylion am y daith wedi eu blogio gan Eurion: http://beyond-the-break.blogspot.com/