Sunday, December 13, 2009

Afon Wysg, Dydd Sul 13 Rhagfyr 2009


Yng nghwmni John C a Rob es o Dal-y-bont i Grughywel, taith gymerodd o gwmpas dwy awr a hanner. Fel y mae'r siart yn dangos, roedd lefel y dŵr ychydig yn uwch na lefel gyfartalog y gaeaf ac fe olygodd hynny ein bod wedi cael cymorth y llif i fynd â ni. O ran nodweddion yr afon, golygai fod llawer wedi golchi allan.

Tywydd sych a dim mor oer ag addawyd. Diwrnod da eto.

Tuesday, November 24, 2009

Afon Ysgir, Dydd Sul 22 Tachwedd

Taith gyda John C., Rob ac Emlyn. Ysgrifennodd Rob adroddiad amdani ar flog Padlwyr y Ddraig: . Gwnaeth gamgymeriad wrth gofnodi lefel y dŵr: roedd y dŵr bron â chyrraedd 9 ar y mesurydd ar y diwedd - nid y 9 uchaf ond y nesaf i lawr. Dywedodd Rob mai 1.9 oedd e. Efallai bod 9 yn trosi i olygu dyfnder o 1.9m ond wn i ddim.

Rywf wedi sylwi hefyd nad oeddwn wedi cofnodi'r daith wnes i, yng nghwmni Euros, Alan a rhai eraill nad ydw i'n eu cofio nawr, ar yr un afon y llynedd, o gwmpas Rhagfyr, ddiwrnod neu ddau ar ôl llifogydd mawr yno oedd wedi hollti'r bont ym Mhont-faen> Roedd boncyffyn yn dal yn ffenestr y tŷ agosaf at y bont, a gofynnodd pobl oedd yno i ni edrych o dan y bont a dwedu wrthynt pa mor wael oedd y difrod.

Sunday, November 15, 2009

Afon Grwyne Fawr, Dydd Sul 15 Hydref

Yng nghwmni John C, ymweliad arall ag Afon Grwyne. Daeth y prif gyffro wrth i John ollwng ei gwch i'r afon ar ôl inni gario heibio i'r gored fawr. Er i mi ei gwrso mewn gwirionedd John a'i achubodd gan iddo redeg i lawr ochr yr afon ac wedyn gerdded i'w chanol.

Roedd ceufarwyr ymhobman heddiw gan ei bod hi wedi bod yn bwrw glaw ers dyddiau. Er hynny, ychydig yn uwch na 4 oedd y gauge yn dangos - y lefel orau mae'n debyg ar gyfer yr afon hon.

Afon Wysg, Dydd Sul 8 Hydref


Yng nghwmni Rob ac Emlyn, gan gychwyn ar Afon Senni yn Nefnynnog i Aberbrân. Fel y gwelir o'r siart roedd y dŵr ychydig yn uwch na'i lefel arferol yn ystod y gaeaf. Ar y lefel yma, i'r chwith yr aethom ar y trydydd rhaeadr (roedd coeden yr ochr dde beth bynnag).

Rest Bay, Dydd Sadwrn 31 Hydref

Rhyw awr ar y dŵr, yng nghwmni Rob. Tri rôl!

Monday, October 26, 2009

Afon Dart, penwythnos 24-25 Hydref

Ysgrifennais am hon ar flog Padlwyr y Ddraig:

Port Einon i'r Mwmbwls, Dydd Sadwrn 17 Hydref


Yng nghwmni Eurion, Adrian a Chris, cyfle i chwarae gyda'm GPS newydd: 10.28nm, 3 awr 45 munud, 2.7kt ar gyfartaledd, 5.1kt oedd y cyflymaf aethom. Ddaeth y gwynt (F3) oedd wedi ei addo ddim ac felly doedd hi ddim mor gyflym y gallai wedi bod. Cychwynnom o Bort Einon yn awr olaf y distyll ac felly gyda ni oedd y llanw am ran fwya'r daith.

Sunday, October 18, 2009

Cold Knap i Lanilltud Fawr, Sadwrn 10 Hydref


Gydag Emlyn y tro hwn, cyfle i mi ddysgu defnyddio'r GPS. Gadawom Cold Knpa pan oedd yn benllanw a olygodd ein bod yn teitio gyda'r llanw. Cawsom ein bwyd ar y traeth ger Aberddawan a chlywed ryw long yn ceisio am oesoedd i gael gafael ar VTS Hafren. Roedd ffordd hir iawn gyda ni i gario'r cychod yn Llanilltud gan fod y llanw'n mynd allan o hyd. Y cario'n fwy o waith na'r padlo a dweud y gwir. Diwrnod braf iawn a bron dim gwynt.

Thursday, October 15, 2009

Ynys Echni, Dydd Sul 4 Hydref 2009

Unwaith eto!. Prynais GPS y diwrnod cynt ac roeddwn am ei geisio. Gwnes fel o'r blaen a gadael Swanbridge ryw arw cyn penllanw yno. Neaps oedd a ches i ddim llawr o gymorth gan y llanw yno. (Es heibio i buoy'r Wolves ar y ffordd yno ac yn ôl). Arhosais ger y jeti i gael bwyd ac roedd hi'n hynod o lonydd. Pan gychwynnais a mynd yn ôl f'arfer clocwedd o gwmpas es i mewn i'r gwynt. Tra F2 oedd wedi bod ar fy nghefn ar fy ffordd allan roedd e wedi codi i fod yn F3 da, a chopaon gwyn i'w gweld ar llawer o'r tonnau oedd rhyngof â Swanbridge. Glaniais ar y traeth ar orllewin yr ynys i wisgo cag amdanaf a galwais wylwyr y Glannau i roi gwybod iddynt fy mod ar fy mhen fy hun ac ar gychwyn yn ôl. (Daeth dyn ataf i holi oeddwn yn iawn: adaryddwr o Wlad Belg sy'n byw yng Nghaerdydd. Dywedodd y byddai'n aros ar yr ynys unwaith y mis). Wedi cychwyn yn ôl fe ostegodd y gwynt ar ôl ychydig a ryw awr gymrodd y daith. Y cyffro ar y diwedd oedd fy mod wedi colli fy sbectol ar ôl y 3ydd ymarfer ar rolio ond es i gael paned a mynd i lawr i'r traeth arw a hanner wedyn a dod o hyd iddi yn y llaid.

Thursday, September 24, 2009

Abereiddi i Draeth Mawr, Tŷ Ddewi, Sul 20 Medi

Teithiais i lawr i Sir Benfro brynhawn Dydd Sadwrn a chyrraedd gwersyll Hendre Einon tua 17.30. Cyrhaeddodd Emlyn o fewn awr ac wedyn aethom i mewn i Dŷ Ddewi a chael pryd o fwyd yn y Farmers. Galwon ni heibio ar yr Eades am sgwrs wedyn i drefnu'r diwrnod wedyn.

Gan fod Colin yn rhy siaradus roedd yn 11.30 yn mynd ar y môr yn Abereiddi a chwta hanner awr i fynd cyn i'r llanw droi i lifo i'r de-orllewin. Padlon ni i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain yn gyntaf gan anelu am Borthgain. Ond roeddem yn rhy hwyr. Trôdd y llawn ac roedd y môr yn rhy arw ger Penclegyr i ni fynd ymlaen. Troion ni a'r môr fel petai'n llonydd yn syth. Cawsom ragor o ddŵr garw ger Carreg-gwylan-fach ond ychydig iawn wedyn. Doedd dim lle i stopio i orffwys gwaetha'r modd gan fod môrlo ifanc ar bob traeth, heblaw am yr un tywodlyd olaf pan oeddem bron â chyrraedd Traeth Mawr. Cawsom ein bwyd ar hwn cyn mynd ymlaen at Draeth Mawr lle ymarferom rolio ac achub ayb.

Taith o ryw ddeg milltir, a'r daith at y traeth cinio yn rhyw 2 awr - a bron awr a hanner wedyn i chwarae a rolio. Gwych iawn unwaith eto: bron dim gwynt ac yn heulog. Arbennig am yr adeg o'r flwyddyn.

Tuesday, September 15, 2009

Ynys Echni eto byth! Dydd Sul 13 Medi



Yng nghwmni Emlyn a Rob, o Fae Jackson, Y Barri y tro hwn. Gadawom tua 11.50 a chymryd tua awr a thri chwarter i gyrraedd, tua awr cyn penllanw. Treuliom dros ddwy awr ar yr ynys y tro hwn, gan ei chrwydro tipyn. Un peth oedd yn wahanol oedd nad oedd gwylanod yno. Mae'n debyg eu bod yn symud oddi yno unwaith mae'r tywor nythu drosodd. Awr a thri chwarter gymrodd i fynd yn ôl hefyd ond tra oedd gwynt F3 wedi bod yn ein hwynebau yno, nid oedd gwynt o gwbl i'n helpu'n ôl.

Un digwyddiad werth ei gofnodi efallai oedd ein bod wedi clywed cyfeiriadau atom ddwywaith ar y VHF, y tro cyntaf gan longau oedd yn pasio'r naill ochr a'r llall i ni pan oeddem ar ein ffordd i'r ynys.

Tryweryn Dydd Sadwrn 5 Medi 2009




Ysgrifennais gofnod am y daith hon ar gyfer Padlwyr y Ddraig:

Does gen i fawr i'w hychwanegu, ac eithrio ychydig o luniau ohonof i'n serennu!

Thursday, September 3, 2009

Ynys Lihou, 27 Awst - 1 Medi

Gadewais Gaerdydd ar Ddydd Iau 27 Awst i fynd i'r symposium ceufadio'r môr cyntaf i'w gynnal ar Ynys Lihou oddi ar arfordir Guernsey. Cwrddais â Jonathan T. yn Poole a chroesi ar gwch cyflym Condor gan adael tua 16.00 a chyrraedd St Peter Port tua 19.00. Cyrhaeddom lan y môr ger Lihou tua 20.00 a gorfod croesi'r 150m o ddŵr yn y tywyllwch. Mae Lihou mewn sefyllfa debyg i Ynys Sili, ond ei fod wedi ei gwahanu o'r tir mawr yn llwyr adeg neaps.Roedd gyda ni Ddydd Gwener cyfan i ni'n hunain, gan nad oedd y symposium yn dechrau tan Ddydd Sadwrn. Yn anffodus, fe chwythodd y gwynt yn gryf - F6 i 7 - trwy Ddydd Gwener gan olygu nad oedd modd i ni fynd i geufadio.
Golygfa o ffenestr fy ystafell
Ar y Dydd Sadwrn, dewisais sesiwn hanner diwrnod o achub a rholio, ac wedyn taith o gwmpas y bae cyfagos - gan gynnwys mynd allan i Graig Gron lle roedd y dŵr yn o arw, ac yn ôl am hufen iâ - am y prynhawn.

Y bae
Dydd Sul, dewisais wneud taith diwrnod i'r de ac i St Peter Port. Roedd y môr yn eitha garw ac fe ddaeth Jonathan o'i gwch. Achubais i fe ond gan ei fod wedi blino'n lân roedd yn rhaid i'r arweinydd, Brian, ei dowio (ac Etienne yn ei dowio fe) i'r traeth agosaf (Petit Bot) olygodd 20 munud o waith caled iddynt a fi wedi rafftio wrth Jonathan.






Dydd Llun, dim ond fi oedd am fynd i oleudy Hanois yn y bore, felly ad-drefnwyd y sesiynau ac ymunais ag un am fordwyaeth olygodd padlo o gwmpas ynys fach Lihou, dysgu am wymon gan Richard, trefnydd tŷ Lihou, a chyfle arall i ymarfer rholio. Dyna oedd diwedd swyddogol y symposium ond yn y prynhawn wedyn aeth yr wyth ohonom oedd yn weddill mâs i oleudŷ Hanois. Cymerodd tua 40 munud i fynd ag 20 i ddod yn ôl. (Wel, ddwywaith mor hir i fynd ag i ddod yn ôl ta beth).

Goleudy Hanois

Teithio'n ôl trwy'r dydd ar Ddydd Mawrth wedyn.

Tŷ Lihou

Tywydd braf a gwyliau braf.















Sunday, August 16, 2009

Dydd Iau 13 Awst; Amroth i Ynys Bŷr

Taith yng nghwmni Chris E. a Steve A. Aethom ar y dŵr yn Amroth tua 10.10 a chyrhaeddom yn ôl tua 17.00, wedi bod o gwmpas Ynys Bŷr a glanio 3 gwaith ar yr ynys, ac ar draeth Dinbych y Pysgod am hufen iâ. Roedd yn ddiwrnod bron heb wynt, heulog ran amlaf, a'r dŵr yn gynnes fel ein bod wedi treulio tipyn o amser yn ymarfer rholio ac achub ar y diwedd yn Amroth. Gwelom hanner dwsin o forloi ger y bae yn nwyrain yr ynys, a chwpl o slefrod barel y môr. Clamp o bryd o fwyd yn y dafarn yn Amroth yn ddiwedd da i'r dydd. 30km oedd hyd y daith yn ôl GPS Steve, tua 10km i'r ynys felly rhyw 10km o'i chwmpas hefyd mae'n rhaid.

Dydd Sul 9 Awst: Aberdaron

Gwersyllais yng ngwersyll Tŷ Newydd, Uwchmynydd ar y nos Sadwrn. Prynais docyn parcio 4 awr yn y maes parcio yn Aberdaron wrth gyrraedd tua canol dydd (wedi bod yn edrych ar y môr i Ynys Enlli o Fraich y Pwll yn y bore) ac roeddwn ar y môr tua 1, rhyw awr ar ôl penllawn. Padlais am ryw ddwy awr, mâs i Ynysoedd y Gwylanod yn gyntaf ac wedyn i gyfeiriad Porth Osgo, er nad es llawn mor bell â hynny. Dim ond un morlo welais i, ger Ynys Gwylan Fawr. Roedd tipyn o ymchwydd ar y ffordd mâs i'r Ynysoedd, a gorllewin Ynys Gwylan Fach yn rhy arw i mi feddwl mynd o'i chwmpas felly es i rhwng y ddwy ynys, cyn mydn gwrth glocwedd rhan fwyaf y ffordd o gwmpas yr ynys fawr. Roedd y tywydd yn braf ac ymarferais fy rôl cyn glanio.

Dydd Gwener, 7 Awst: Borth i Aberystwyth

Roeddwn wedi cymryd cwpl o ddyddiau o wyliau'n barod yn sytod yr wythnos ac wedi cerdded i fyn y Rhinog Fawr ar y Dydd Mawrth. Erbyn Dydd Gwener roedd yn braf eto a thua 4 o'r golch yn y prynhawn roeddwn i'n lansio yn y Borth am daith i Aberystwyth ac yn ôl. Os cofiaf yn iawn, roedd i fod yn benllanw tua 14.00 ond theimlias i fawr o effaith y llanw naill ai ar y ffordd i Aber nac yn ôl. Roedd Aberystwyth yn edrych yn hollol wahanol o'i gwled o'r môr, a'r castell yn dominyddu'n rhyfeddol. Glaniais ar draeth y de i ymestyn fy nghoesau am ychydig. Cymrodd tua 4 awr i gyd ond roedd mynd ar y traeth yn y Borth yn hirwyntog, gan fod yn rhaid cludo'r cwch i ben y wal, i lawr yr ochr arall a thros cerrig, cyn bod modd rhoi troli odano.

Gwersyllais yn Ffwrnais Dyfi y noson honno, a cherdded i fyny Rhinog Fach o Maesygarnedd, Cwm Nant Col y diwrnod wedyn.

Saturday, August 1, 2009

Dydd Sadwrn 1 Awst

Gan nad oed fy Jefe gen i, penderfynais beidio ag ymuno a'r daith ar afon roedd aelodau eraill Padlwyr y Ddraig yn trefnu. Beth bynnag, yn y bore roedd hi'n dal i fwrw a doeddwn i'n edifarhau dim: well gen i'r glaw yn disgyn y diwrnod cyn padlo a'r haul yn tywynnu ar y dydd ei hun. Cliriodd y galw erbyn amser cinio a phenderfynais wneud taith ar y môr. Roedd e i fod yn benllanw yn y Barri tua 16.15 felly penderfynais gychwyn o Lanilltud Fawr i gyfeiriad Aberthawan. Roeddwn i ar y dŵr tua 14.40 a, chyda'r gwynt ar fy nghefn (a thonnau) cyrhaeddais Aberthawan ar ôl rhyw awr a chwarter. Glaniais i yno a chymryd saib o ryw 20 munud, gan gychwyn yn ôl tua 16.15. Roedd y gwynt yn gryf - F4 a chwaon cryfach -a digon o waith caled i'w wneud. Llwyddiais lanio trwy'r syrff yn Llanilltud ac wrth i mi newid, daeth yr haul allan. Oedais yno am ryw awr wedyn yn mwynhau'r olygfa, darllen papur a bwyta siocled. Braf iawn.

Monday, July 27, 2009

25-26 Gorffennaf

Cofnod moel o ddwy daith, un ar y môr a'r llall ar afon Gwy.

Ar y Dydd Sadwrn padlais am y tro cyntaf yng nghwmni Simon C. Roeddwn wedi gobeithio y byddwn yn mynd i Ynys Echni ond pan gyrhaeaddon Swanbridge barnais y gallai'r amgylchiadau fod braidd yn ormod i Simon felly lan i Benarth a nôl a ni. Cawsom ddiod yn y Captain' Wife ac arhosiais i yno ar fy mhen fy hun i gael tamaid o fwyd - blas, rhaid dweud.

Ar y Dydd Sul, padlais am y tro cyntaf eto yng nghwmni ddau arall: Meic a John T. Taith o bont Kearne i lawr i Symond's Yat. Dewisodd Meic beidio rhoi cynnig ar y dŵr gwyllt ar y diwedd ond rhedodd John e ddwywaith, gan nofio'r tro olaf yn anffodus, ond dywedodd ei fod wedi mwynhau er hynny. Diod wedyn a nôl a ni, ac er bod rhagolygon y tywydd wedi bod yn wael, osgoion ni y gwaethaf, gan ddioddef gwpl o gawodydd yn unig. Y peth gwaethaf am y daith oedd fy mod yn f'inazone - sy'n rhy fach i'm hen goesau erbyn hyn a dweud y gwir.

Dwy daith ddymunol iawn.

Sunday, July 5, 2009

Ynys Môn, 3-4 Gorffennaf.

Gan fod cyfle wedi codi i mi fynd i Ynys Môn, bachais yn y cyfle i wneud ychydig o badlo.

Nos Wener es i lawr i Draeth Bychan tua 18.00 ac es lan, o gwmpas Ynys Moelfre i gyfeiriad Traeth Lligwy. Ar y ffordd, i'r gorllewin o Ynys Moelfre, es heibio i gwch deifwyr oedd yn gweithio gyda thîm a winch ar ben clogwyn yn archwilio llongddrylliad. Yn dod yn ôl roedd hi'n F4 i'm gwyneb ac yn waith caled i fynd heibio i dŷ'r bad achub. Noson braf ond gwisgais fy nghag trwchus ac oherwydd y gwynt doeddwn i ddim yn or-boeth. Tair rôl llwyddiannus - un llaw chwith - yn ymarfer ar y diwedd yn coroni'r cyfan.

Dydd Sadwrn es i Bont-rhydybont, awr ar ôl penllanw Lerpwl, i gael dechrau'r llif i lawr tuag at Gymyran. Cymrodd hynna tua thrichwarter awr ac wedyn anelais am Borthwen, Rhoscolyn. Roeddwn i'n ei weld yn eitha garw, yn enwedig pan sylwais ar y syrff yn mynd i mewn i Silver Bay (Traeth Llydan yn ôl yr OS, ond gan fod Traeth Llydan arall i'r de-ddwyrain o Rosneigr fyddai defnyddio'r enw yn y cyd-destun hwn ddim o gymorth na fyddai?). Glaniais yn y Borthwen a siarad a cheufadiwr arall oedd â dau arall - ei blant rwy'n tybio - ar fin cychwyn. Rhybuddiais i nhw ei fod braidd yn arw. Pan gychwynnais yn ôl, ar ôl eistedd yn bwyta fy nghinio tra oedd hi'n tresio bwrw, gwelais fod y môr wedi tawelu tipyn, a nhwythau, tebyg, yn meddwl 'mond yn hynod o ofnus. Es yn ôl at Cymyran, a sefyll ar un o'r creigiau tra oeddwn yn disgwyl i'r llanw droi, a gwylio pioden y môr yn rhubyddio ei chywion fy mod o gwmpas, gwrando ar ehedydd a chylfinir, a sylwi ar ruo swnllyd y rasio'n dod o gyfeiriad Aberffraw. Sylwais wedyn fod y tonnau ar Draeth Crigyll yn edrych yn dda (ddim yn fawr iawn - ond yn dderbyniol iawn i geufad y môr) ac es i syrffio am ychydig. Cychynnias yn ôl i Bont-rhyd-y-bonttau thri-chwarter awr ar ôl i'r llanw ddechrau troi (yn ôl y llyfr) ond ychydig o gymorth ges i, Weithiau, fe ddaliodd i fyny â fi, ond ran amlaf, padlo mewn dŵr bas iawn oeddwn i. Rhoddais y gorau i ddefnyddio fy mhadl Werner a bachais yn y rhai plastig rhad y byddaf yn eu cario fel rhai sbâr. Cymrodd ddwy awr a gwaith caled i mi gyrraedd yn ôl, ond o leiaf roedd y tywydd wedi brafio. Fel arfer, cyfrifiais y diwrnod fel un llwyddiannus eto.

Sunday, June 28, 2009

Abergwaun i Abercastell, Dydd Sul 28 Mehefin

Efallai dyma'r cyflymaf i mi erioed cofnodi taith. Gyda'r nos yr un diwrnod. Es gyda Colin a Sue E. Cychwyn o harbwr Abergwaun isaf am 13.00 (er cwrdd am 10.30 dyna'r amser gymrodd i ni trefnu'r wennol, sef mynd ta'm car i'w adael yn Abercastell) . Un ystyriaeth anarferol i'r daith oedd sicrhau ein bod yn osgoi'r fferis - yn enwedig yr un cyflym. mae'n ddigon hawdd, o safle gwe Stena, gwled pryd maen nhw'n gadael ond rhaid gofyn yn y swyddfa am syniad am bryd maen nhw'n cyrraedd. Mae amseriad llif y llanw'n eitha cymhleth hefyd. Mae eisiau gadael awr ar ol pend llanw Aberdaugleddau, sy'n golygu, mwy neu lai, gadael ar benllanw lleol er mwyn cael y gwrthlif i'r gorllewin at Ben Caer. Ond ling-di-long yw hi wedyn gan nad ydych eisiau mynd o gwmpas Pen Caer tan 4 awr ar ôl penllanw Aberddaugleddau oherwydd dim ond pryd hynny y mae'r prif lif yn troi i'r gorllewin. Ta beth, fe lwyddon ni gadw at yr amserau hynny gyda'r canlyniad ei fod bron yn hollol lonydd o gwmpas Pen Caer. Ychydig o wynt deimlon ni tan fynd o gwmpas Pen Caer ond wedyn roedd y gwynt o'r dwyrain/de yn ein wynebau neu'n dod o'r chwith yn aml. Un rhuthr mawr ar draws y bae i Abercastell wedyn, a chyrraedd yno o gwmpas 17.00 - yn y glaw! (ond roedd hi wedi bod yn braf am hanner cyntaf y daith, tan mynd heibio i Ben Caer).

Monday, June 22, 2009

Llangennydd i Bort Einon, Dydd Sul 21 Mehefin

6 ohonom wnaeth y daith hon. Gyda fi roedd Andrew B, Colin a Sue E., Adrian a Jim. Cwrddom ym Mhort Einon am 10.30 a daeth Jim â'i dreilar i ni gyd fynd i Langennydd. Roeddem ar y dŵr am 13.00, awr ar ôl y distyll. Gwelom forloi ger ochr ogleddol Pen y Pyrod. Roedd y tywydd yn sych, er yn gymylog, a dim llawer o wynt, F3 efallai, o'r gorllewin. Roedd tonnau sylweddol wrth i ni fyn do gwmpas Pen y Peryd, yn dwyn Ynys Lawd i gof a dweud y gwir. Byddai'n ddiddorol gweld pa mor fawr fydden nhw, pe bai'r gwynt yn erbyn y llanw a llanw mwy (rhwng springs a neaps oedd ar y diwrnod). Beth bynnag, rownd â ni'n ddi-anaf, glanio ar y traeth cyntaf am ginio cyn parhau a chyrraedd Port Einion am 17.00. Ymarfer rolio, a llwyddo - 3 gwaith!

Friday, June 19, 2009

Ynys Echni eto! 31 Mai 2009


Taith wych arall. Dim ond dau ohonom y tro hwn, fi ag Emlyn. Heblaw am hynny, roedd yn ddigon tebyg i'r datith ddiwethaf: gadael Swanbridge ryw awr cyn penllanw a dod yn ôl ar ôl treulio ryw awr i gyd ar yr ynys. Doedd e ddim yn llanw mor fawr y tro hwn a olygai na chawsom gymaint o gymorth ganddo ar y ffordd yno, na chael ein hysgubo yn ôl mor gyflym chwaith. Canlyniad y gwahaniaethau hynny oedd ei fod wedi bod yn agos braidd i ni gyrraedd mewn pryd, a fi'n gweiddio f'anogaeth i Emlyn, ac ar y ffordd yn ôl, pasion ni yn agos at foi'r Wolves. Pan adawom yr ynys, ryw awr ar ôl penllanw os cofiaf yn iawn, roedd hi'n o arw i ni wrth i ni fynd gyda'r cloc o gwmpas yr ynys gyda thipyn o glapotis o'r lan. Hwyl fawr!
Postiaf ychydig o luniau ar flog Padlwyr y Ddraig hefyd ond dyma rai dynnodd Emlyn.

Tuesday, May 26, 2009

Martin's Haven - trwyn St Ann, Dydd Sul, 24 Mai

I lawr i Sir Benfro eto a gwersylla yn fferm West Hook, Martin's Haven nos Sadwrn. Ar y dŵr tua 09.00, rhyw ddwy awr a hanner ar ôl penllanw Aberdaugleddau, wrth i'r llif droi i'r de trwy Swnd Jac. Y tro hwn yng nghwmni Colin a Sue, Nick King, Steve A a Richard Porthsele. Y bwriad oedd mynd i Dale ond roedd y tywydd mor braf fel fy mod i, Steve a Richard wedi penderfynu troi yn ôl pan oeddem ger y "blockhouse" heibio o drwyn St Ann a gadael i'r tri arall fynd yn eu blaen hebddom. Aethom i dde Skomer a thwry y Swnd bach - hynny o gwmpas 14.30, adeg dŵr slac. Digon o balod i'w gweld a rhyw bedwar morlo.

Afon Taf, Dydd Sul 17 Mai


Taith a drefnwyd yn y bore gan ei bod wedi bod yn bwrw glaw. Er mai 7 cumec oedd y llif nos Wener (pan aeth Euros gyda Phil, Chris â'i fab i chwarae ar gored Abercynon, a'r mesurydd, yn ôl Euros yn dangos 1), roedd hi'n rhedeg ar 17 cumec fore Dydd Sul a'r safle gwe o lefelau afon yn dweud ei bod wedi cyrraedd lefel gymedrig y gaeaf. Aethom ar y dŵr tua 14.15 os cofiaf yn iawn, a gorffen tua 17.00. Pan ffoniodd Phil am lif y dwr pryd hynny, 30 cumec gafodd e - sy, yn ôl fy narlleniad i o'r siart yn cyfateb i lefel ymhell dros gymedr y gaeaf.

Fi, Euros, Phil a  Mark wnaeth y daith. 

Llanilltud i Aberogwr, Dydd Sul 10 Mai

Taith yng nghwmni Colin a Sue E. ac Emlyn, gyda'r trai o Lamilltud, glanio ar graig Tusker a gorffen yn Aberogwr. Diwrnod braf a bron dim awel, hynny ag oedd ar ein cefnau. Dim cyffro ag eithrio dod nôl i'r cychod ar graig Tusker ar ôl ymweld eto â'r adfeilion o'r llong a gweld fod cwch Col yn y dŵr a f'un hanner i mewn: y llanw wedi troi! Ymarfer fy rôl eto ar y ffordd i mewn (ar ôl un llwyddiannus iawn ger Traeth Mawr Tŷ Ddewi) a gweld fy mod wedi ei golli eto. Daro!

Monday, May 4, 2009

Dydd Sadwrn 2 Mai: Sir Benfro

I lawr i Sir Benfro eto, y tro yma'n gadael Caerdydd tua 09.15 i gyrraedd Parrog, Trefdraeth mewn pryd i fod ar y dŵr am 13.00 - a llwyddo lansio am 13.05 yn y diwedd. Go dda. Yng nghwmni Eurion, Adrian a Steve A. y tro hwn, aethom i draeth Poppit, Aberteifi. Cymerodd tua 4 awr (19k yn ôl y llyfr). Er i ni gychwyn yn hamddenol yn ymchwilio i bron pob ogof ar ôl tua awr fe gododd y gwynt fymryn (er gan ei fod ar ein cefnau, anodd dweud i ba gryfder, yn ymylu ar F4 efallai) ac aeth y môr yn fwy garw. Dechreuodd Steve i fynd yn fwy uniongyrchol at drwyn Cemaes a finnau'n ei ddilyn ac Adrian yn cadw lan hefyd. Fe adawyd Eurion ar ôl braidd, gan ei fod yn tynnu lluniau ac erbyn iddo ddal lan gyda ni roeddem wedi mynd heibio i "Grochan y Gwrachod" (fy nghyfieithiad o'r Saesneg) yr oedd e wedi bod yn chwlio amdano. Bydd yn rhaid i ni wneud y daith eto i ddod o hyd iddi. Gorfennwyd y daith gyda fi ag Eurion yn syrffio ar donnau -oedd weithiau'n eitha mawr, digon mawr i ysgubo'r botel ddiod a'r tudalen lamineiddedig oedd gen i ar y dec i ffwrdd yn anffodus.Trwy'r borth

Monday, April 20, 2009

Dydd Sul, 19 Ebrill: Solfach - Traeth Mawr

Es ar y nos Sadwrn i wersylla am y noson ger Traeth Mawr, Tŷ Ddewi. Cyrhaeddais ryw ddeg munud cyn y machlud a'r haul yn belen goch. Cael sgwrs gyda Colin a Sue E, yn fan newydd Greg T - yng nghwmni Dave C nad oeddwn wedi ei weld ers blynyddoedd.

Y diwrnod wedyn padlais gyda Colin a Sue E., ac Emlyn ddaeth i lawr erbyn 9 y bore, gan gychwyn o Solfach ryw ddwy awr cyn bod y llanw i droi i'r gogledd. Er inni gyrraedd y "Bitches" tuag amser penllanw, ychydig iawn o ddŵr garw oedd yno - y ffaith mai llanw Neap oedd yn gyfrifol. Uchder y llanw isel yn Aberdaugleddau ar y dydd oedd 2.7m, a dim ond 4.8m oedd y penllanw. Er hynny, ar un adeg, yn ôl GPS Emyn, roeddem yn teithio ar 8mya. Croesom i ochr ddwyreiniol Ynys Dewi i fynd yr holl ffordd trwy un ogof. Hyd y daith i gyd oedd 11.5 milltir, a'r tywydd yn braf a bron dim gwynt yr holl daith.

Sunday, April 12, 2009

Dydd Sul y Pasg, 12 Ebrill: Ynys Echni

Es gyda Rob G. ac Andrew B i Ynys Echni. Cychwynnom tua 8.30 o Swanbridge. Roedd penllanw ar yr ynys i fod tua 9.30. Er fy mod wedi amau cywirdeb "y llyfr" am amser newid y llif (15 munud ar ôl penllanw Avonmouth) fe'i brofwyd yn hollol gywir. Cyrhaeddom yr ynys ar ôl 45 munud o badlo, rhyw dri chwawrter awr cyn yramser oeddwn wedi cyfrifo y byddai'r llif yn newid a chawsom weld ei fod yn hollol gywir. Gadawom o fewn rhyw chwarter awr a mynd clocwedd o gwmpas yr ynys. Cafodd Rob a fi ein synnu i weld buoy "y Wolves" yn symud. Nac oedd, wrth gwrs ond edrychodd i ni ei fod yn symud fel cwch, mor gyflym oeddem ni'n cael ein ysgubo yn ôl. Tra ein bod wedi mynd i' dwyrain o'r buoy ar y ffordd allan, i'r gorllewin ohono oeddem ar y ffordd yn ôl. Cymrodd y daith yn ôl rhyw awr, a'r padlo'n eitha caled, er bod y llanw newydd droi, a'r tywydd yn berffaith - y môr yn hollol lonydd yn aml, a dim ond awel ysgafn iawn, F1 os hynny. Y rhagolygon oedd F3-4!

Dydd Sul, 5 Ebrill

Taith fach ar fy mhen fy hun rhyw awr a thri chwarter o hyd o Borth Einon, Penrhyn Gŵyr, tra aeth Janette am dro bach ar hyd pen y clogwyni i'r gorllewin. Gan ddilyn awgrym y llyfr "Welsh Sea Kayaking" cadwais yn bell i'r dwyrain o drwyn Porth Einon ac es mâs i'r buoy - ? East Hedwick. Roedd tipyn o ymchwydd yn y môr ac ar ôl arfer ceufadio mewn cwmni roeddwn yn ôl yn teimlo'n gymharol nerfus ar fy mhen fy hun ar y môr mawr.

Saturday, March 28, 2009

Ynysoedd y Sili


Es gyda Andrew B, Nick M, ac Owen S. i ynysoedd y Sili am wythnos. Hedfan yno ar 20 Mawrth ar hofrennydd o Penzance, wedi gweld St Michael's Mount.

Sadwrn 21 Mawrth: o Borth Thomas ar St Mary's, lle cawsom y cychod gan Murray, i Samson, lle glanion ar y traeth.
Ymlaen wedyn tuag at Castle Bryher, draw tuag at Maiden Bower ac wedyn i'r gogledd at Scilly
Rock. Cawsom ychydig o ddwr garw wedi ei achosi gan ras y llanw wrth fynd gyda'r cloc o gwmpas Scilly Rock. Aethom i lanio ar draeth euraid arall ar ochr orllewinol Bryher i gael cinio - ac i mi wisgo cag. Mewn fest oeddwn wedi bod tan hynny a gweld dwr Scilly Rock braidd yn gyffrous am hynny. Lan i rowndio Shipman Head wedyn, a dwr ychydig yn arw eto. Padlon yr holl ffordd drwy hollt ar yr ochr ddwyreiniol, ac yn ôl trwyddo cyn mynd ymlaen i ymweld a Chastell Cromwell ar Tresco. Ymlaen wedyn a glanio yn New Grimsby am hufen iâ, cyn troi yn ôl i St Mary's.

Dydd Sul: gan ein bod wedi sylwi yn New Grimsby y diwrnod cynt fod y tywydd i fod i waethygu llawer erbyn diwedd yr wythnos, penderfynom adael i wersylla am noson ar St Agnes. Glaniom ger y tafarn - er i ni ddeall na fyddai ar agor i ni ymhellach ymlaen (gan ei fod yn llawn ar Ddydd Sul y Mamau). Prynon wyau a chwrw ac wedyn mynd ymlaen i wersyll Troy Town. Gadael ein pethau heb godi pebyll i geisio mynd ymlaen. Yn erbyn gwynt F4 i ogledd Annet a chael dwr garw ger yr Haycocks ac ar y dechrau i lawr gorllewin Annet. Erbyn hyn, doedd yr awyr ddim
mor glir a phenderfynom na fyddai'n ddoeth cario ymlaen i geisio mynd i greigiau'r gorllewin. Cario ymlaen i dde Annet felly a chwrdd ag ychydig o forloi. Rhoddais syndod i ddau oedd ddim wedi sylwi arnaf ac a oedd yn torheulo yn y môr. Croeso yn ôl i St Agnes ond mynd i lawr at y traeth mwyaf deuheol.

Gorffwys yno cyn padlo i lan at y gwersyll i godi pebyll.

Dydd Llun: cychwyn gan fwriadu mynd o gwmpas St Mary's. Aethom i'r de yn gyntaf, gwrth glocwedd o gwmpas St Agnes. Roedd Nick ac Owen wedi blino erbyn hyn felly pan gyrraeddom Ynys Gugh aethon nhw y tu mewn i gario dros y bar. Parhaodd Andy a fi ar ein taith o gwmpas Gugh a chwrdd a nhw o flaen y llithrfa at
y
dafarn. Croesi'r swnd yn ol at St Mary's (tipyn o ymchwydd) a glanio i gael pastai ym Mhorth Cressa. Ymlaen ar hyd ochr ddwyreiniol wedyn. Piciais i i mewn i Borth Helyg am ollygndod,ac wedyn stopion ni i gyd ger Ynys Tolls. Roedd y gwynt wedi cryfhau a chawsom frwydr i gyrraedd Innisidgen, yn erbyn gwynt o gwmpas F6. Penderfynu wedi cyrraedd yno na fyddem yn gallu cario ymlaen. Yn ôl â ni felly, i draeth yr hen Dref, ddim yn bell o dy Mam Andy lle roeddem yn aros.

Dydd Mawrth: rhagolygon am F5-7, weithiau 8. Penderfynon Nick ac Owen y bydden nhw'n cael diwrnod i ffwrdd ac aethon nhw am daith cwch i St Martin's. Padlodd Andy a fi ein cychod ni i'r gorllewin, o gwmpas Garrison Hill i Borth Thomas. Cerdded yn ôl i Draeth yr Hen Dref wedyn i gael y ddau gwch arall: eu padlo at Borth Cressa a'u cario trwy'r dre at yr harbwr. Er gwaetha y rhagolygon roedd y tywydd yn braf o hyd. Penderfynon y dylem badlo'n fwy felly a chroesom draw i ddwyrain Tresco cyn gwyro i'r dwyrain a glanio ar St Martin's ger Lower Town, gyferbyn â Tean. Croesom i Tean wedyn a glanio yno i weld yr adfeilion (tyddynod) cyn croesi wedyn i Saint Helen's a gweld adfeilion y mynachdy yno. Padlo yn ôl i Borth Thomas ar St Mary's wedyn a chael ein gweld gan Nick ac Owen oedd ar eu cwch adre.

Dydd Mercher: rhagolygon am F5-7, weithiau 8 eto (roedd ymddiheuriad, bron, wedi bod ar y VHF y noson gynt am gael y rhagolygon mor anghywir). Y tro yma, roedd hi'n wyntog ger Traeth yr Hen Dre yn y bore, felly aeth Nick i wneud diwrnod o waith ar ei liniadur ac aeth Andy, Owen a fi am daith cwch i Tresco. Gwelsom yr ardd enwog, wedyn gadewais y ddau arall i gerdded gwrth glocwedd o gwmpas yr ynys, i New Grimsby eto lle roedd y cwch i'n codi (er i ni gael ein gollwng ger Crow Point). Ymwelais â Chastell Charles y tro hwnnw.

Dydd Iau: yr un rhagolygon eto,ac yn nes ati, felly dim padlo eto. Cerddais yr holl ffordd o gwmpas St Mary's, yng nghwmni y 3 arall at lle tebyg i Din Lligwy, wedyn gyda Andy a Nick hyd at draeth yr Hen Dre lle arhosodd Nick, wedyn gyda Andy at y dre, ac ar fy mhen fy hun wedyn.

Dydd Gwener: adre - yn ol tua 15.00.

Friday, March 6, 2009

21 Chwefror a'r 1af o Fawrth

Dwy daith ar y mor. Ar 21 Chwefror es gyda Rob ac Emlyn. Cychwynnon o Aberogwr tua dwy awr ar ol y distyll. Aethom i gyfeiriad Porthcawl gan gyrraedd y trwyn cyntaf ger Notais ac wedyn dychwelyd gan fynd ychydig heibio i Aberogwr, cyn troi trwy'r syrff i lanio ar lan orllewinol afon Ogwr. Nofiodd Rob ac Emlyn. Collodd Rob ei badl ond achubais y padl o'r dwr ychydig wedyn. Taith braf ond yn dipyn o her newydd i'r ddau arall, gan fod syrff cymhedrol a gwynt yn codi at F4.

Dydd Gwyl Ddewi es gyda'r yr ddau, a Mei, i gwrdd ag Andy, Nick ac Owen, sef y tri y byddaf yn mynd gyda nhw i Ynysoedd y Sili cyn bo hir. Cychwyn o dafarn y Captain's Wife, o gwmpas ynys Sili a lan at drwyn Larnog ac yn ôl. Cychwynnon tua dwy awr ar ol penllanw ac roedd y stopper/ton ger trwyn Larnog yn rhedeg yn dda. Nofiodd Rob eto!

Thursday, February 19, 2009

Teithiau hyd yma yn 2009

Dydd Calan, yng nghwmi Eurion a Richard Mordey, mewn tywydd oer iawn, taith gylchol o Southerndown, mâs i Graig Tusker, ac yn ôl. Dim ond rhyw 2 awr o daith ond yn fwy o waith na'r disgwyl, gyda'r gwynt yn rhyw F5 yn ein herbyn o Graig Tusker roedd yn rhaid i ni weithio'n galed i gyrraedd y lan ger Aber Ogwr. Dychwelon i dy Eurion wedyn am baned ac i ddadmer.


Taith gyda Colin a Sue E, Mark, Del, John C ac Euros ar Afon Tywi, y rhan gradd 2-3 i lawr at Ddolauhirion. Nofiodd John a Mark!

Taith ar Afon Ogwr, o Felin Ifan Ddu i Sarn (wedi ei chofnodi ar flog Padlwyr y Ddraig http://www.dragon-paddlers.blogspot.com/)

Rhyw 4 taith syrffio i Rest Bay, Porthcawl, gan gynnwys un penwythnos pan es gydag Euros ar y Dydd Sadwrn a'r Dydd Sul.

Dydd Llun 16 Chwefror, taith ar fy mhen fy hun o Rosneigr heibio i Borth Cwyfan i'r penrhyn cyn Aberffraw, ac yn ôl i Rosneigr, rhyw 2 awr a hanner o daith. Ac eithrio tipyn o ymchwydd ger Meini'r Meibion (overfall bach?) roedd y môr yn eitha llonydd, gwynt F2-3 o'r gorllewin.