Aeth Andrew B. (Cadeirydd Glam Boaters), Rob G. a fi lan i'r Alban, gan obeithio cael wythnos o geufadio. Roedd Sue a Colin E. wedi bwriadu dod hefyd ond gan fod rhagolygon y tywydd mor wael erbyn Dydd Sadwrn 21 Mai penderfynon nhw beidio ac i fynd â'u campervan i Dorset yn lle. Anodd eu beio. Gwaetha'r modd, doedd y Andrew, Rob a fi ddim mor gall ac yn benderfynol o fynd. Ein bwriad gwreiddiol oedd torri'r daith i fyny'n ddwy a gwersylla, efallai yn Glen Coe. Erbyn i ni gyrraedd Loch Lomond, roeddem am newid y cynllyn gan ei bod yn tresio bwrw. Yn ffodus, wedi cysylltu â Glenuig Inn, lle roeddem wedi trefnu o nos Sul tan nos Fercher yn eu bync-hws, cawsom addewid o ystafell i aros y noson honno ac felly gyrrom ymlaen. Wedi gadael Caerdydd tua 09.30 cyrhaeddom Glenuig tua 20.00.
Y bore wedyn roedd yn wyntog, F5-6, ond penderfynom geisio rhoi ein trwynau ar y dŵr o draeth Glenuig a mynd i'r gorllewin i ben y loch pe bai modd. Aethom a glanio ar ynys a thywod o gregyn ond yn fuan penderfynom nad oeddem yn gallu mynd yn bell. Troeom yn ôl a gweld dwfrgi. Roeddem wedi meddwl mynd lan y loch i'r dwyrain. Roeddwn ar y blaen pan glywais weiddi a gweld bod Andy mâs o'i gwch. Padlais yn ôl yn gyflym. Roedd Rob yn ei ddal ond yn rhy ansefydlog i'w achub. Rhoddom Andy yn ôl yn ei gwch ond gan ein mynd braidd yn agos at y creigiau ger y lan chafodd e ddim llawer o amser i wagio ei gwch. Gan ei fod yn oer, penderfynom anelu at draeth, glaniom a cherddais y filltir yn ôl i Gleann Uige i nôl y car. Erbyn i ni gyrraedd yn ôl, penderfynom roi tro arall arni a gyrrom ymlaen i Loch Moidart. Gadawom o'r lan ogleddol, croesi mewn dŵr rhy fas (gan i ni beidio â sylweddoli ei fod yn sychu mor gyflym pan aeth y llanw ar drai) a phenderfynu troi'n ôl eto yn fuan ar ôl i ni gyrraedd y lan ddeuol, gan fod y gwynt yn F6 i'n wynebau.
Dydd Llun aethom i gerdded gan ei fod yn rhy wyntog o hyd. Tro "isel" Albanaidd. Roedd yn isel - uchder Mynydd Caerffili - ond yn wlyb iawn iawn. Aeth y dŵr drwy fy nhrowsus dŵrglos a'm cot dŵrglos newydd.
Cerdded eto byth y diwrnod wedyn: ar hyd lan ogledd Loch Morar i Tarbet, Loch Nevis ac yn ôl. Gwlyb iawn am ran o'r daith ac yn wyntog (wrth gwrs). Yr uchafbwynt oedd cwrdd â Frank, gofalwr 87 oed y tŷ bync yn Tarbet. Ei gyswllt â'r byd oedd radio VHF a'r cwch fyddai'n galw ddwywaith yr wythnos yn y gaeaf. Cawson hanes ei fywyd a straeon digrif a gweld y tŷ bync, a chlywed y carw ar y wal yn canu Rawhide. Gwych iawn.
Dydd Mercher fe lwyddom fynd ar y dŵr o'r diwedd gan nad oedd y rhagolygon llawn cynddrwg ag o'r blaen. Dim ond F4-6 oedd o'n blaen i fod. Aethom o gwmpas Eilean Shona gwrth-glocwedd (pan nad oedd yn bell cyn pen llanw os cofiaf yn iawn. I mi i'r gwynt oeddem ni'n mynd am lawer o'r ffordd er roedd i fod yn dod o'r de-de-ddwyrain. Yn bendant roedd i'n wynebau pan droiom o'r môr i mewn i'r aber eto, ac yn chwythu F5 cryf pryd hynny fel nad oeddem prin yn symud. Er hynny, wedi cael rhai chwaon cryf tra ar y tu allan i'r ynys teimlai fel ein bod wedi cyrraedd diogelwch.
Dyma sut y cofnodais y dyddiau ar Twitter:
Dydd Sul
Map y daith o Glenuig
Map taith Loch Moidart
Dydd Llun
Tro cerdded Dydd Llun
Map tro cerdded ger Loch Moidart
Tro cerdded Dydd Mawrth
Map tro Loch Morar i Tarbet
Map ceufadio Eilean Shona
Map taith Eilean Shona
Lluniau o'r daith
Fideo Frank yn y byncws yn Tarbet, a'r carw'n canu "Rolin, rolin, roli, rawheid!":
Sunday, November 18, 2012
Subscribe to:
Posts (Atom)