Sunday, January 17, 2010
Afonydd Ysgir ac Wysg, Dydd Sul 17
Es gyda Alan a Colin, yn gyntaf ar Afon Ysgir (oedd â'i mesurydd yn dangos 4.5) a chan nad oedd y daith honno'n gyffrous iawn a dim ond wedi cymryd awr, yn ail ar Afonydd Senni/Wysg o Ddefynnog i Aberbrân gymrodd awr a hanner. Fel y mae'r siart yn dangos (lefel y dŵr yn Aberhonddu) roedd Afon Wysg yn weddol uchel. Aethom i'r ochr dde ar y 3ydd rhaeadr, gan fynd ychydig i'r chwith o'r goeden sy yno ar hyn o bryd. Roedd Alan yn arwain ar y darn yno ac fe wnaeth smonach o'r diwedd a nofio. Dyna unig gyffro'r daith honno.
Buon yn ffodus gyda'r tywydd. Er ei bod yn oer a thameidiau o eira ar y mynyddoedd o hyd, heulwen gawsom y rhan fwyaf o'r dydd a chlamp o enfys ar y diwedd. Braf fod mâs eto.
Monday, January 4, 2010
Craig Tusker, Dydd Calan 2010
Ar ddydd Calan, es yng nghwmni Eurion a Chris o Fae Dunraven i graig Tusker Prin dwy awr o badlo yno ac yn ôl ond fe dreuliom rhyw hanner awr ar y graig, a rhyw awr yn chwarae yn y syrff bach bach oedd yn y bae ar y diwedd. Tywydd braf ac ychydig iawn o wynt. Un rol i ymarfer ar y diwedd!
Subscribe to:
Posts (Atom)