Sunday, August 16, 2009
Dydd Iau 13 Awst; Amroth i Ynys Bŷr
Taith yng nghwmni Chris E. a Steve A. Aethom ar y dŵr yn Amroth tua 10.10 a chyrhaeddom yn ôl tua 17.00, wedi bod o gwmpas Ynys Bŷr a glanio 3 gwaith ar yr ynys, ac ar draeth Dinbych y Pysgod am hufen iâ. Roedd yn ddiwrnod bron heb wynt, heulog ran amlaf, a'r dŵr yn gynnes fel ein bod wedi treulio tipyn o amser yn ymarfer rholio ac achub ar y diwedd yn Amroth. Gwelom hanner dwsin o forloi ger y bae yn nwyrain yr ynys, a chwpl o slefrod barel y môr. Clamp o bryd o fwyd yn y dafarn yn Amroth yn ddiwedd da i'r dydd. 30km oedd hyd y daith yn ôl GPS Steve, tua 10km i'r ynys felly rhyw 10km o'i chwmpas hefyd mae'n rhaid.
Dydd Sul 9 Awst: Aberdaron
Gwersyllais yng ngwersyll Tŷ Newydd, Uwchmynydd ar y nos Sadwrn. Prynais docyn parcio 4 awr yn y maes parcio yn Aberdaron wrth gyrraedd tua canol dydd (wedi bod yn edrych ar y môr i Ynys Enlli o Fraich y Pwll yn y bore) ac roeddwn ar y môr tua 1, rhyw awr ar ôl penllawn. Padlais am ryw ddwy awr, mâs i Ynysoedd y Gwylanod yn gyntaf ac wedyn i gyfeiriad Porth Osgo, er nad es llawn mor bell â hynny. Dim ond un morlo welais i, ger Ynys Gwylan Fawr. Roedd tipyn o ymchwydd ar y ffordd mâs i'r Ynysoedd, a gorllewin Ynys Gwylan Fach yn rhy arw i mi feddwl mynd o'i chwmpas felly es i rhwng y ddwy ynys, cyn mydn gwrth glocwedd rhan fwyaf y ffordd o gwmpas yr ynys fawr. Roedd y tywydd yn braf ac ymarferais fy rôl cyn glanio.
Dydd Gwener, 7 Awst: Borth i Aberystwyth
Roeddwn wedi cymryd cwpl o ddyddiau o wyliau'n barod yn sytod yr wythnos ac wedi cerdded i fyn y Rhinog Fawr ar y Dydd Mawrth. Erbyn Dydd Gwener roedd yn braf eto a thua 4 o'r golch yn y prynhawn roeddwn i'n lansio yn y Borth am daith i Aberystwyth ac yn ôl. Os cofiaf yn iawn, roedd i fod yn benllanw tua 14.00 ond theimlias i fawr o effaith y llanw naill ai ar y ffordd i Aber nac yn ôl. Roedd Aberystwyth yn edrych yn hollol wahanol o'i gwled o'r môr, a'r castell yn dominyddu'n rhyfeddol. Glaniais ar draeth y de i ymestyn fy nghoesau am ychydig. Cymrodd tua 4 awr i gyd ond roedd mynd ar y traeth yn y Borth yn hirwyntog, gan fod yn rhaid cludo'r cwch i ben y wal, i lawr yr ochr arall a thros cerrig, cyn bod modd rhoi troli odano.
Gwersyllais yn Ffwrnais Dyfi y noson honno, a cherdded i fyny Rhinog Fach o Maesygarnedd, Cwm Nant Col y diwrnod wedyn.
Saturday, August 1, 2009
Dydd Sadwrn 1 Awst
Gan nad oed fy Jefe gen i, penderfynais beidio ag ymuno a'r daith ar afon roedd aelodau eraill Padlwyr y Ddraig yn trefnu. Beth bynnag, yn y bore roedd hi'n dal i fwrw a doeddwn i'n edifarhau dim: well gen i'r glaw yn disgyn y diwrnod cyn padlo a'r haul yn tywynnu ar y dydd ei hun. Cliriodd y galw erbyn amser cinio a phenderfynais wneud taith ar y môr. Roedd e i fod yn benllanw yn y Barri tua 16.15 felly penderfynais gychwyn o Lanilltud Fawr i gyfeiriad Aberthawan. Roeddwn i ar y dŵr tua 14.40 a, chyda'r gwynt ar fy nghefn (a thonnau) cyrhaeddais Aberthawan ar ôl rhyw awr a chwarter. Glaniais i yno a chymryd saib o ryw 20 munud, gan gychwyn yn ôl tua 16.15. Roedd y gwynt yn gryf - F4 a chwaon cryfach -a digon o waith caled i'w wneud. Llwyddiais lanio trwy'r syrff yn Llanilltud ac wrth i mi newid, daeth yr haul allan. Oedais yno am ryw awr wedyn yn mwynhau'r olygfa, darllen papur a bwyta siocled. Braf iawn.
Subscribe to:
Posts (Atom)