Es gyda Andrew B, Nick M, ac Owen S. i ynysoedd y Sili am wythnos. Hedfan yno ar 20 Mawrth ar hofrennydd o Penzance, wedi gweld St Michael's Mount.
Sadwrn 21 Mawrth: o Borth Thomas ar St Mary's, lle cawsom y cychod gan Murray, i Samson, lle glanion ar y traeth.
Ymlaen wedyn tuag at Castle Bryher, draw tuag at Maiden Bower ac wedyn i'r gogledd at Scilly
Rock. Cawsom ychydig o ddwr garw wedi ei achosi gan ras y llanw wrth fynd gyda'r cloc o gwmpas Scilly Rock. Aethom i lanio ar draeth euraid arall ar ochr orllewinol Bryher i gael cinio - ac i mi wisgo cag. Mewn fest oeddwn wedi bod tan hynny a gweld dwr Scilly Rock braidd yn gyffrous am hynny. Lan i rowndio Shipman Head wedyn, a dwr ychydig yn arw eto. Padlon yr holl ffordd drwy hollt ar yr ochr ddwyreiniol, ac yn ôl trwyddo cyn mynd ymlaen i ymweld a Chastell Cromwell ar Tresco. Ymlaen wedyn a glanio yn New Grimsby am hufen iâ, cyn troi yn ôl i St Mary's.
Dydd Sul: gan ein bod wedi sylwi yn New Grimsby y diwrnod cynt fod y tywydd i fod i waethygu llawer erbyn diwedd yr wythnos, penderfynom adael i wersylla am noson ar St Agnes. Glaniom ger y tafarn - er i ni ddeall na fyddai ar agor i ni ymhellach ymlaen (gan ei fod yn llawn ar Ddydd Sul y Mamau). Prynon wyau a chwrw ac wedyn mynd ymlaen i wersyll Troy Town. Gadael ein pethau heb godi pebyll i geisio mynd ymlaen. Yn erbyn gwynt F4 i ogledd Annet a chael dwr garw ger yr Haycocks ac ar y dechrau i lawr gorllewin Annet. Erbyn hyn, doedd yr awyr ddim
mor glir a phenderfynom na fyddai'n ddoeth cario ymlaen i geisio mynd i greigiau'r gorllewin. Cario ymlaen i dde Annet felly a chwrdd ag ychydig o forloi. Rhoddais syndod i ddau oedd ddim wedi sylwi arnaf ac a oedd yn torheulo yn y môr. Croeso yn ôl i St Agnes ond mynd i lawr at y traeth mwyaf deuheol.
Gorffwys yno cyn padlo i lan at y gwersyll i godi pebyll.
Dydd Llun: cychwyn gan fwriadu mynd o gwmpas St Mary's. Aethom i'r de yn gyntaf, gwrth glocwedd o gwmpas St Agnes. Roedd Nick ac Owen wedi blino erbyn hyn felly pan gyrraeddom Ynys Gugh aethon nhw y tu mewn i gario dros y bar. Parhaodd Andy a fi ar ein taith o gwmpas Gugh a chwrdd a nhw o flaen y llithrfa at
y
dafarn. Croesi'r swnd yn ol at St Mary's (tipyn o ymchwydd) a glanio i gael pastai ym Mhorth Cressa. Ymlaen ar hyd ochr ddwyreiniol wedyn. Piciais i i mewn i Borth Helyg am ollygndod,ac wedyn stopion ni i gyd ger Ynys Tolls. Roedd y gwynt wedi cryfhau a chawsom frwydr i gyrraedd Innisidgen, yn erbyn gwynt o gwmpas F6. Penderfynu wedi cyrraedd yno na fyddem yn gallu cario ymlaen. Yn ôl â ni felly, i draeth yr hen Dref, ddim yn bell o dy Mam Andy lle roeddem yn aros.
Dydd Mawrth: rhagolygon am F5-7, weithiau 8. Penderfynon Nick ac Owen y bydden nhw'n cael diwrnod i ffwrdd ac aethon nhw am daith cwch i St Martin's. Padlodd Andy a fi ein cychod ni i'r gorllewin, o gwmpas Garrison Hill i Borth Thomas. Cerdded yn ôl i Draeth yr Hen Dref wedyn i gael y ddau gwch arall: eu padlo at Borth Cressa a'u cario trwy'r dre at yr harbwr. Er gwaetha y rhagolygon roedd y tywydd yn braf o hyd. Penderfynon y dylem badlo'n fwy felly a chroesom draw i ddwyrain Tresco cyn gwyro i'r dwyrain a glanio ar St Martin's ger Lower Town, gyferbyn â Tean. Croesom i Tean wedyn a glanio yno i weld yr adfeilion (tyddynod) cyn croesi wedyn i Saint Helen's a gweld adfeilion y mynachdy yno. Padlo yn ôl i Borth Thomas ar St Mary's wedyn a chael ein gweld gan Nick ac Owen oedd ar eu cwch adre.
Dydd Mercher: rhagolygon am F5-7, weithiau 8 eto (roedd ymddiheuriad, bron, wedi bod ar y VHF y noson gynt am gael y rhagolygon mor anghywir). Y tro yma, roedd hi'n wyntog ger Traeth yr Hen Dre yn y bore, felly aeth Nick i wneud diwrnod o waith ar ei liniadur ac aeth Andy, Owen a fi am daith cwch i Tresco. Gwelsom yr ardd enwog, wedyn gadewais y ddau arall i gerdded gwrth glocwedd o gwmpas yr ynys, i New Grimsby eto lle roedd y cwch i'n codi (er i ni gael ein gollwng ger Crow Point). Ymwelais â Chastell Charles y tro hwnnw.
Dydd Iau: yr un rhagolygon eto,ac yn nes ati, felly dim padlo eto. Cerddais yr holl ffordd o gwmpas St Mary's, yng nghwmni y 3 arall at lle tebyg i Din Lligwy, wedyn gyda Andy a Nick hyd at draeth yr Hen Dre lle arhosodd Nick, wedyn gyda Andy at y dre, ac ar fy mhen fy hun wedyn.
Dydd Gwener: adre - yn ol tua 15.00.