Saturday, September 25, 2004

Moel Siabod

Roedd yr afonydd yn llifo y penwythnos diwethaf ond , unwaith eto, roeddwn yn y gogledd heb yr un canwydd yn gwmni i mi. Gollwng fy mab hynaf i ddechrau ei yrfa myfyriol ym Mangor oedd yr achos i mi fod yn y gogledd. Ta beth, ar ôl dyheu cael mynd ar Afon Ogwen, a syllu'n syfrdan ar ryferthwy Afon Lligwy wrth Bont Gyfyng, mynd i fyny Moel Siabod oedd fy ffawd yng nghwmni fy ail fab. Aethom i fyny'r crib yn y de-orllewin ac wedyn o'r copa mynd ar hyd y crib arall i'r gogledd-ddwyrain (gobeithio bod y cyfeiriadau gen i yn gywir). Gwych - dim cystal â cheufadio, ond gwych yr un fath.

Yn ystod yr wythnos wedyn, cefais fynediad i safle'r clwb rwyf yn ysgrifennydd iddo, sef Padlwyr y Ddraig.http://www. dragonpaddlers.org.uk. Gyda lwc, byddaf yn cael ei adnewyddu a chan nad yw hynny wedi digwydd ers tro, efallai y daw aelodau newydd yn ei sgîl.

Newydd geisio edrych ar maes-e: http://www. maes-e.com a gweld bod trychineb wedi taro. Mae wedi cau oherwydd rhyw fân gecru Gymreig. Gobeithio y gwelwn ei ail-agor yn fuan.

Darllenais heno hefyd am gynllun i sefydlu canolfan dwr gwyn yng Nghaerdydd. http://www.welsh-canoeing.org.uk/Mae gen i amheuon oherwydd aflendid  dwr ond ni leisiaf fy marn ar hyn o bryd beth bynnag. Mae'n gynllun cyffrous. A daw rhywbeth ohono sy'n beth arall.

Ac heno, cofrestrais yng Nghanolfan Ddringo Rhyngwladol Cymru, Taf Bargod. http://www.caerphilly.gov.uk/visiting/activities/welshinternationalclimbingcentre.htmTrwy ffawd daliais yn dynn yn y rhaff drwy'r nos a chafodd fy mab ddim anaf. (Uniaith Saesneg oedd y ffurflen gofrestru ac roedd y ferch wrth y dderbynfa yn meddwl fy mod yn cellweiro wrth ofyn oedd ganddynt un Gymraeg. Pam?)

Sunday, September 5, 2004

Penwythnos Tryweryn, 4-5 Medi

Newydd ddod nôl. Penwythnos yng nghwmni John C., Matt, Andy a Luke Peate a Grant. Digon o ymarfer achub pobl o'r afon: dau ar Ddydd Sadwrn - merch a John ar y fynwent, ac Andy a Luke (dwywaith), Andy ar y fynwent, Luke o dan bont Fedw'r Gog ac ar raeadr y Capel. Andy wedi cael anaf: cleisio ei ysgwydd/braich a dolur agored i'w glun, ond wedi byw i adrodd y hanes.

Gwersi i'w dysgu: ei fod yn well tra yn arwain pobl dros raeadr y felin i'w cael i lawr rhibedi rhes: y cyntaf i'r merddwr ddylai fod y cyntaf mas, fel bo'r ail yn gweld cwrs y cyntaf.