Thursday, May 20, 2004

Tryweryn yn yr haul

Teithiais i Dryweryn ar Ddydd Sadwrn 14 a gwersylla yno. Tywydd godidog - awyr las a dwr gwyn. Gwych. Roedd 9 cumec yn cael ei ollwng. Gwnes dwy daith ar ran uchaf yr afon ( doedd y gwaelod ddim ar agor). Doedd y Donner kebab yn nhref wyllt y Bala ar nos Sadwrn ddim cystal.

Wednesday, May 12, 2004

Morfablog

Edrychais ar maes-e.com ddoe a sylwi rhywsut fod Morfablog wedi dod ar draws y blog yma. Enwogrwydd! Os bydd rhywun arall yn darllen hyn o lith, pam na wnei di adael neges i mi wybod? Byddai'n sbardun i mi ddal ati yn sicr.

Diolch am y sylw Forfablog.

http://www.morfablog.com

Taith gyda Phadlwyr y Ddraig ar Afon Gwy

Ar Ddydd Sul, 9 Mai, bues yn cynorthwyo Andy R. yn arwain y clwb ar daith o'r Clas-ar-wy i'r Gelli Gandryll. Roedd 11 ohonom i gyd, ac i dri o blant ac un llanc dyma'r tro cyntaf iddynt fod ar afon. Doeddwn i ddim wedi gwneud y darn hwn o'r afon er Mai 2001! - ac roeddwn wedi anghofio pa mor hir y mae - canlyniad teithio gyda dechreuwyr ar ddarn o ddwr gwastad nad yw prin yn symud mewn rhai mannau. Wedi gadael Caerdydd am 9.00, roedd hi'n 6pm arnom yn cyrraedd yn ôl, er, a bod yn deg, roedd hynny'n cynnwys amser am beint ar y diwedd yn y Clas. Uchafbwynt y daith i'r plant oedd y nofio (fel arfer, well ganddynt hynny na cheufadio) - i lawr heibio i'r gored doredig tua'r diwedd - gan gynnwys dal y rhaff achub a daflwyd atynt. Digon difyr i gyd, a'r tywydd yn braf a'r dwr yn ddigon uchel fel nad oedd bron dim crafu ar hyd y gwaelod.

Monday, April 19, 2004

Ymweliadau ag Afon Tryweryn

Ymwelais â Thryweryn ddwywaith dros wyliau'r Pasg, ar Ddydd Sadwrn 10 Ebrill ac eto ar 17 Ebrill. Roedd yn gymharol dawel ar y 10fed ond des ar draws nifer yn troi drosodd ac yn dod o'u cychod. Fel arall y bu ar 17 Ebrill. Roedd yr afon i lawr i'r Bala ar agor ar gyfer teithiau a dyna pam ymwelais. Gwaetha'r modd, doedd trefniadau ar gyfer y wennol ddim yr un fath ag arfer: dim ond y padlwyr oedd yn cael lifft yn ôl, dim eu cychod. Dim iws i mi gan fy mod yno ar fy mhen fy hun. Roedd hi'n brysur yno ar yr 17eg ond ychydig a welais yn mynd i drafferthion. Bu'n rhaid i mi rolio yng nghanol "y fynwent" ond gwnes yn llwyddiannus yn ffodus a des o'na yn ddianaf felly. 

Sunday, March 28, 2004

Ymweliad Padlwyr y Ddraig â Llyn Cosmeston

Digwyddiad llwyddiannus, gyda 3 o'r aelodau yn cael eu profi am 2il seren ac yn llwyddo. Hwn oedd y tro cyntaf i nifer fod allan o'r pwll a phrofi padlo ar ddwr agored.

Sunday, March 14, 2004

Afon Ewenni

Taith ddifyr heddiw, y tro cyntaf i mi fynd ar Afon Ewenni. Ar ôl eira ganol nos Iau a glaw Dydd Sadwrn a bore Dydd Sul, roedd jyst digon o ddwr i'n galluogi fynd ar afon fechan fel hon. Dim ond dau ohonom aeth, fi a John N., ar ôl cinio. Gyrru i lawr yn gyntaf i Aber Ogwr a pharcio yn y maes parcio ger y castell. Sylwi bod arwydd yno yn rhybuddio y gallai'r lle gael ei foddi gan lawn uchel ond penderfynu nad oedd perygl o un digon mawr heddiw. Yn ôl wedyn i Ben-coed i roi i mewn. Taith o 12km, yn ôl llyfr Sladden. Cychwynnon ni tua 1.25pm a chyrraedd pen ein taith tua 3.15. Cyflymach o lawer nag oeddem wedi disgwyl. Daethom ar draws dwy gored, y ddwy yn eitha caeedig a'r ail â thipyn o dynfa yn ôl, ond dim problem. Heblaw am hynny, roedd yn dwr yn nes at Radd 1 yr holl ffordd na Gradd 2, er, gan ei bod yn droellog a changhennau coed a drysni dros yr afon mewn nifer o lefydd, byddai eisiau rhywfaint o sgiliau ar ganwydd i deithio ar ei hyd. Dim yn addas i'r dechreuwr pur felly. Gorffenom ni y daith â'r heulwen yn disgleirio, er bod y gwynt yn dal yn eitha cryf (Ffors 6 ar y môr, betia i), ac yn hollol sych. Peint yn y dafarn lan y lôn wedyn (Y pelican yn y rhywbeth) a thipyn o sgwrs cyn troi at adre.

Thursday, March 11, 2004

Porthcawl - Rest Bay

Rwy braidd yn hwyr yn cofnodi'r ymweliad ond Dydd Sul diwethaf (?7 Mawrth), es i syrffio ym Mhorthcawl, gyda John C., y tro cyntaf ers y digwyddiad pan alwodd John am y gwasanaethau argyfwng ar ôl iddo fy ngweld yn cael f'ysgubo gan y rip i'r creigiau. Er i mi ddod o 'na yn ddi-anaf, roeddwn yn falch ei fod wedi galw am gymorth. 'Ta beth, roedd yr ymweliad Dydd Sul diwethaf yn ddigon pleserus. Doedd y syrff ddim yn fawr iawn ac roeddwn i'n eitha nerfus am y rhan fwyaf o amser, yn dyfalu a fyddai fy rôl yn llwyddo pe bawn i'n troi drosodd. Ymarferais ar y diwedd gyda rhyw hanner dwsin o roliau, a gorffen â'm hyder wedi adfer ychydig.

Nos Fawrth, bu cyfarfod Pwyllgor Padlwyr y Ddraig eitha cynhyrchiol, ychydig o deithiau wedi'u cytuno a nifer wedi ymgymryd i ysgrifennu rhyw fath o asesiad risg am rai o'r safleodd byddwn yn eu defnyddio amlaf.