Dyma restr o'r afonydd y bues arnynt yr wythnos diwethaf:
Dydd Sul 30 Mai: cwrs slalom Eiskanal, Augsburg, Yr Almaen. Cwrs byr ond dwr mawr, Gradd 4. 4 rhediad, wedi rolio ar 3!
Dydd Llun 31 Mai: Afon Salza, Steyr, Awstria, o Wildalpen i Eizhalden, 16km, Gradd 3. Mae llun o'r don wrth y maes gwersylla i'w gael ar y ddolen ganlynol:
Dydd Mawrth 1 Mehefin: Afon Soca, Slofenia, o Trenta i Bovec (yn cynnwys y 3edd ceunant), 5km Gradd 2-4. Afon Koritnica, o flwch Predil (ar ôl y geunant) i Bovec, 6km, Gradd 3.
Dydd Mercher 2 Mehefin: Afon Soca, Zaga i Trnovo, 7km, Gradd 3-4 ac wedyn Trnovo i Kobarid, 4km, Gradd 4+
Dydd Iau 3 Mehefin: Afon Gail, Awstria, o Obertillach i Birnbaum/Nosta, 28km!, Gradd 3-4
Dydd Gwener 4 Mehefin: Afon Inn, Awstria, Pfuns trwy Tosens i Prutz, 13 km, Gradd 2-4.
Ceir disgrifiadau o rai o'r rhain yn Almaeneg ar y ddolen ganlynol:
http://www.kajaktour.de/fluesse.htm
No comments:
Post a Comment