Sunday, December 19, 2004
Rest Bay, Portcawl, Dydd Sul 19 Rhagfyr
Er i mi ffonio llwyth o bobl, methais â dod o hyd i neb i fynd am daith ar Afon Tarell, fel y dymunwn. Felly, ar ôl syllu ar luniau web cam o Borthcawl trwy'r bore, es i Rest Bay ar fy mhen fy hun. Roedd y llanw ar ei uchaf am 12.10 ond camais i'r dwr 2 awr wedyn, ac aros arno am awr. Er bod degau o syrffwyr, fi oedd yr unig ceufadiwr. Roedd yr amgylchiadau yn arbennig o dda: gwynt o'r lan yn codi y tonnau yn uchel ond y rheiny'n llunaidd reolaidd. Roedd yn rhaid i mi rolio unwaith ac am y tro cyntaf pan oedd rhaid defnyddiais i rôl sgriw o'r cefn. Yn ôl y bwoi agosaf oddi ar Sir Benfro, tua 11 gradd oedd tymheredd y dwr a doedd hi ddim yn teimlo'n oer iawn chwaith.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment