Showing posts with label ceufadio. Show all posts
Showing posts with label ceufadio. Show all posts

Monday, October 24, 2011

Kingsbridge, Sad-Sul 1-2 Hydref 2011


Es i gwrdd ag Eurion a Chris yn sioe canwio Caerwysg ble roedd E wedi trefnu cwrdd â dyn o Lundain, Paul, i drafod y syniad o badlo o gwmpas Prydain gydag e. Ar ôl rhyw awr gadewais a gyrru ymlaen i Kingsbridge. Ces bryd o fwyd yn y bar ar ben y cei a pharatoi fy mhethau i wersylla dros nos. Daeth y lleill, gadewais fy nghar wedi ei barcio ar stryd gerllaw, a gyrron ni ymlaen i Thurlestone Sands. Aethom ar y môr tua 17.30 a phadlo i'r dwyrain am ryw awr nes cyrraedd Bae Soar.
Gwersyllom dros nos yno, wedi codi ein pebyll ar y tir uwchben y traeth.
Bore yfory roeddem ar y dŵr am 07.45. Padlom ymlaen a chyrraedd Kingsbridge am 10.00, ryw awr cyn penllaw. Rhan fwyaf anodd y penwythnos oedd cadw ar dddihun wrth yrru adre.


Y llwybr:
map Google

Monday, January 4, 2010

Craig Tusker, Dydd Calan 2010

Ar ddydd Calan, es yng nghwmni Eurion a Chris o Fae Dunraven i graig Tusker Prin dwy awr o badlo yno ac yn ôl ond fe dreuliom rhyw hanner awr ar y graig, a rhyw awr yn chwarae yn y syrff bach bach oedd yn y bae ar y diwedd. Tywydd braf ac ychydig iawn o wynt. Un rol i ymarfer ar y diwedd!

Thursday, September 24, 2009

Abereiddi i Draeth Mawr, Tŷ Ddewi, Sul 20 Medi

Teithiais i lawr i Sir Benfro brynhawn Dydd Sadwrn a chyrraedd gwersyll Hendre Einon tua 17.30. Cyrhaeddodd Emlyn o fewn awr ac wedyn aethom i mewn i Dŷ Ddewi a chael pryd o fwyd yn y Farmers. Galwon ni heibio ar yr Eades am sgwrs wedyn i drefnu'r diwrnod wedyn.

Gan fod Colin yn rhy siaradus roedd yn 11.30 yn mynd ar y môr yn Abereiddi a chwta hanner awr i fynd cyn i'r llanw droi i lifo i'r de-orllewin. Padlon ni i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain yn gyntaf gan anelu am Borthgain. Ond roeddem yn rhy hwyr. Trôdd y llawn ac roedd y môr yn rhy arw ger Penclegyr i ni fynd ymlaen. Troion ni a'r môr fel petai'n llonydd yn syth. Cawsom ragor o ddŵr garw ger Carreg-gwylan-fach ond ychydig iawn wedyn. Doedd dim lle i stopio i orffwys gwaetha'r modd gan fod môrlo ifanc ar bob traeth, heblaw am yr un tywodlyd olaf pan oeddem bron â chyrraedd Traeth Mawr. Cawsom ein bwyd ar hwn cyn mynd ymlaen at Draeth Mawr lle ymarferom rolio ac achub ayb.

Taith o ryw ddeg milltir, a'r daith at y traeth cinio yn rhyw 2 awr - a bron awr a hanner wedyn i chwarae a rolio. Gwych iawn unwaith eto: bron dim gwynt ac yn heulog. Arbennig am yr adeg o'r flwyddyn.

Tuesday, September 15, 2009

Ynys Echni eto byth! Dydd Sul 13 Medi



Yng nghwmni Emlyn a Rob, o Fae Jackson, Y Barri y tro hwn. Gadawom tua 11.50 a chymryd tua awr a thri chwarter i gyrraedd, tua awr cyn penllanw. Treuliom dros ddwy awr ar yr ynys y tro hwn, gan ei chrwydro tipyn. Un peth oedd yn wahanol oedd nad oedd gwylanod yno. Mae'n debyg eu bod yn symud oddi yno unwaith mae'r tywor nythu drosodd. Awr a thri chwarter gymrodd i fynd yn ôl hefyd ond tra oedd gwynt F3 wedi bod yn ein hwynebau yno, nid oedd gwynt o gwbl i'n helpu'n ôl.

Un digwyddiad werth ei gofnodi efallai oedd ein bod wedi clywed cyfeiriadau atom ddwywaith ar y VHF, y tro cyntaf gan longau oedd yn pasio'r naill ochr a'r llall i ni pan oeddem ar ein ffordd i'r ynys.

Sunday, July 5, 2009

Ynys Môn, 3-4 Gorffennaf.

Gan fod cyfle wedi codi i mi fynd i Ynys Môn, bachais yn y cyfle i wneud ychydig o badlo.

Nos Wener es i lawr i Draeth Bychan tua 18.00 ac es lan, o gwmpas Ynys Moelfre i gyfeiriad Traeth Lligwy. Ar y ffordd, i'r gorllewin o Ynys Moelfre, es heibio i gwch deifwyr oedd yn gweithio gyda thîm a winch ar ben clogwyn yn archwilio llongddrylliad. Yn dod yn ôl roedd hi'n F4 i'm gwyneb ac yn waith caled i fynd heibio i dŷ'r bad achub. Noson braf ond gwisgais fy nghag trwchus ac oherwydd y gwynt doeddwn i ddim yn or-boeth. Tair rôl llwyddiannus - un llaw chwith - yn ymarfer ar y diwedd yn coroni'r cyfan.

Dydd Sadwrn es i Bont-rhydybont, awr ar ôl penllanw Lerpwl, i gael dechrau'r llif i lawr tuag at Gymyran. Cymrodd hynna tua thrichwarter awr ac wedyn anelais am Borthwen, Rhoscolyn. Roeddwn i'n ei weld yn eitha garw, yn enwedig pan sylwais ar y syrff yn mynd i mewn i Silver Bay (Traeth Llydan yn ôl yr OS, ond gan fod Traeth Llydan arall i'r de-ddwyrain o Rosneigr fyddai defnyddio'r enw yn y cyd-destun hwn ddim o gymorth na fyddai?). Glaniais yn y Borthwen a siarad a cheufadiwr arall oedd â dau arall - ei blant rwy'n tybio - ar fin cychwyn. Rhybuddiais i nhw ei fod braidd yn arw. Pan gychwynnais yn ôl, ar ôl eistedd yn bwyta fy nghinio tra oedd hi'n tresio bwrw, gwelais fod y môr wedi tawelu tipyn, a nhwythau, tebyg, yn meddwl 'mond yn hynod o ofnus. Es yn ôl at Cymyran, a sefyll ar un o'r creigiau tra oeddwn yn disgwyl i'r llanw droi, a gwylio pioden y môr yn rhubyddio ei chywion fy mod o gwmpas, gwrando ar ehedydd a chylfinir, a sylwi ar ruo swnllyd y rasio'n dod o gyfeiriad Aberffraw. Sylwais wedyn fod y tonnau ar Draeth Crigyll yn edrych yn dda (ddim yn fawr iawn - ond yn dderbyniol iawn i geufad y môr) ac es i syrffio am ychydig. Cychynnias yn ôl i Bont-rhyd-y-bonttau thri-chwarter awr ar ôl i'r llanw ddechrau troi (yn ôl y llyfr) ond ychydig o gymorth ges i, Weithiau, fe ddaliodd i fyny â fi, ond ran amlaf, padlo mewn dŵr bas iawn oeddwn i. Rhoddais y gorau i ddefnyddio fy mhadl Werner a bachais yn y rhai plastig rhad y byddaf yn eu cario fel rhai sbâr. Cymrodd ddwy awr a gwaith caled i mi gyrraedd yn ôl, ond o leiaf roedd y tywydd wedi brafio. Fel arfer, cyfrifiais y diwrnod fel un llwyddiannus eto.

Friday, March 6, 2009

21 Chwefror a'r 1af o Fawrth

Dwy daith ar y mor. Ar 21 Chwefror es gyda Rob ac Emlyn. Cychwynnon o Aberogwr tua dwy awr ar ol y distyll. Aethom i gyfeiriad Porthcawl gan gyrraedd y trwyn cyntaf ger Notais ac wedyn dychwelyd gan fynd ychydig heibio i Aberogwr, cyn troi trwy'r syrff i lanio ar lan orllewinol afon Ogwr. Nofiodd Rob ac Emlyn. Collodd Rob ei badl ond achubais y padl o'r dwr ychydig wedyn. Taith braf ond yn dipyn o her newydd i'r ddau arall, gan fod syrff cymhedrol a gwynt yn codi at F4.

Dydd Gwyl Ddewi es gyda'r yr ddau, a Mei, i gwrdd ag Andy, Nick ac Owen, sef y tri y byddaf yn mynd gyda nhw i Ynysoedd y Sili cyn bo hir. Cychwyn o dafarn y Captain's Wife, o gwmpas ynys Sili a lan at drwyn Larnog ac yn ôl. Cychwynnon tua dwy awr ar ol penllanw ac roedd y stopper/ton ger trwyn Larnog yn rhedeg yn dda. Nofiodd Rob eto!

Thursday, February 19, 2009

Teithiau hyd yma yn 2009

Dydd Calan, yng nghwmi Eurion a Richard Mordey, mewn tywydd oer iawn, taith gylchol o Southerndown, mâs i Graig Tusker, ac yn ôl. Dim ond rhyw 2 awr o daith ond yn fwy o waith na'r disgwyl, gyda'r gwynt yn rhyw F5 yn ein herbyn o Graig Tusker roedd yn rhaid i ni weithio'n galed i gyrraedd y lan ger Aber Ogwr. Dychwelon i dy Eurion wedyn am baned ac i ddadmer.


Taith gyda Colin a Sue E, Mark, Del, John C ac Euros ar Afon Tywi, y rhan gradd 2-3 i lawr at Ddolauhirion. Nofiodd John a Mark!

Taith ar Afon Ogwr, o Felin Ifan Ddu i Sarn (wedi ei chofnodi ar flog Padlwyr y Ddraig http://www.dragon-paddlers.blogspot.com/)

Rhyw 4 taith syrffio i Rest Bay, Porthcawl, gan gynnwys un penwythnos pan es gydag Euros ar y Dydd Sadwrn a'r Dydd Sul.

Dydd Llun 16 Chwefror, taith ar fy mhen fy hun o Rosneigr heibio i Borth Cwyfan i'r penrhyn cyn Aberffraw, ac yn ôl i Rosneigr, rhyw 2 awr a hanner o daith. Ac eithrio tipyn o ymchwydd ger Meini'r Meibion (overfall bach?) roedd y môr yn eitha llonydd, gwynt F2-3 o'r gorllewin.

Tuesday, December 9, 2008

Teithiau môr

Mae gen i ormod o deithiau heb eu cofnodi - gan gynnwys:
  • taith wyllt i Ynys Echni (7 Hydref 2007! medd blog Eurion: http://beyond-the-break.blogspot.com/2007/10/monkstone-rock-flatholm.html) 
  • o gwmpas Skomer a Skokholm rywbryd ym mis Gorffennaf; 
  • i Ynys Echni ac Ynys Rhonech (ar 8 Mehefin yn ol Eurion ar ei flog). Dyma damaid o fideo dynnodd e ar y ffordd nôl, rhwng y ddwy ynys, a'r gwynt yn cyrraedd F5 ar adegau:); 
  • teithiau yn yr Alban ddiwedd mis Awst (Eskdale, Port Appin, Arisaig), ar draws Môr Hafren o Sin Dunwyd i Porlock Weir ym mis Medi ; 
  • penwythnos yng nghwmi Emlyn ym mis Medi pan wnaethom ddwy daith, y diwrnod cyntaf o Gei Newydd i Aberporth ac wedyn ar y Dydd Sul o Aberporth i Aberteifi;
  • wythnos ym Mhlas Menai yn hyfforddi am 4* tua 20 Hydref;
  • ac nawr hon, taith arweiniais yng nghwmni Rob (yn ei bryniant diweddar o Blas y Brenin - Capella 160 plastig glas) ac Emlyn o'r Barri (Bae Jackson)  i Drwyn Larnog ac yn ôl. Gadawom tua 12.20, dim ond tua 40 munud cyn penllanw ond yn fuan sylweddolom fod y llanw wedi troi'n herbyn yn barod. Roedd y tywydd yn berffaith nes i ni gyrraedd Trwyn Larnog lle, ar ôl ryw hanner awr, daeth niwl ac rodd hwnna gyda ni, yn cuddio Ynys Sili o'r golwg hyd yn oed nes i ni ddod yn agos at yr ynys. Cliriodd wedyn ac roedd yn braf eto erbyn i ni gyrraedd Bae Jackson eto.

O GPS Emlyn:

Hyd y trip- union 10 milltir Cyflwymdra (cyfartaledd) 2.6m/a Cyflymdra uchaf - 6.9 m/a Amser yn padlo- 3.02.37.



Tuesday, November 18, 2008

Dydd Sul 16 Medi

Yn hytrach na gadael mwy byth o amser i fynd heibio, rywf am gofnodi'r daith ddiweddaraf oll i mi ei gwneud, yng nghwmni y ddau fab hynaf a John C.,  yn dechrau ar Afon Senni yn Nefynnog i berbran ar Afon Wysg. Dysgais y diwrnod wedyn bod bachgen ysgol o Reading wedi boddi ar Afon Wysg, ger Aberhonni, y diwrnod cynt. A heddiw daeth y BBC ataf i wneud cyfweliad ar gyfer newyddion S4C yn holi fy marn am geufadio ar argae Llyn Brianne, stori a feddiannodd y cyfryngau heddiw am ryw reswm,