Sunday, August 29, 2004
Afon Taf, 26 Awst
Taith gyda'r nos o Lan-y-bad i Fferm y Fforest yng nghwmni John C., John N+2 ffrind - Peter a John arall, Grant, Andy P. ac Euros. Gadael Fferm y Fforest am 6 a chyrraedd yno tua 20.45 pan oedd bron yn dywyll. Arnofio i lawr yr afon a dweud y gwir, ond pleiniais ar waelod y gored. Aeth yn dipyn o smonach ar y gored a dweud y gwir. Gan fy mod yn brysur yn cael Euros o'r afon doedd neb yn arwain ac fe aeth pobl dros y gored mewn mannau annoeth a dweud y lleiaf. Yn ffodus, roedd lefel y dwr yn isel ac nid oedd neb damaid gwaeth.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comment:
Jyst nodyn bach i ddweud fy mod i'n darllen yn achlysurol. Ychidig o boen oedd y rhaid i greu "screen name" i'w wneud. Dyna reswm dyw eraill ddim yn rhoi sylwadau.
http://www.bratiaithblog.blogspot.com
Post a Comment