Gwnes y daith yma yng nghwmni John C. a Tim, ac fe gawsom amser da, er i Tim druan ddod allan o'i gwch ddwywaith. Rwyf wedi cofnodi'r daith ar flog Padlwyr Y Ddraig. Gan fod niferoedd da yn mynychu sesiynau pwll y clwb y dyddiau yma rwyf yn cael fy hun yn treulio mwy o amser yn cadw ei safle gwe a'r blog cysylltiedig yn gyfoes - ar draul fy mlog personol gwaetha'r modd.
Cystal imi gofnodi fy mod wedi penderfynu peidio รข phadlo ar Ddydd Sul yr wythnos gynt pan aeth Rob a fi i Grug Hywel, gan fwriadu padlo i lawr o Dal-y-bont gyda rhai eraill o Gaerdydd. Roeddem wedi gweld y caeau i gyd o dan ddwr yn Nhal-y-bont ac fe benderfynais na fyddai'n ddoeth i ni fynd ar yr afon. Aeth y lleill wrth gwrs a chael amser da. Fel 'na mae.
No comments:
Post a Comment