Roedd yr afon yn llawn i'r ymyl heddiw ac fe es ar y darn o Bont-senni i Aberhonddu. Dim ond dwy awr a hanner gymrodd hwnnw, cyflym iawn o ystyried bod un o'r grwp wedi nofio ddwywaith. Fe gollodd ei badl, ac fe gollodd un arall ei raff daflu. Roedd lefel y dwr yn uwch nag ydw i wedi badlo o'r balen ac fe ges fyn synnu gan y 3edd rhaeadr, gan nad oeddwn ei adnabod, er fy mod wedi bod yn chwilio amdani. Aethom ni drwyddi, ychydig i'r de o'r canol, trwy don anferth. Hwyl fawr.
Yn padlo gyda fi roedd John C., Matt a ffrind Piers, Steve White (y nofiwr), a Jay a Jo, cwpl o ffrindiau Steve Maskall (oedd wedi dewis padlo rhywbeth Gradd 5 yn lle).
Rwyf wedi bod yn esgeuluso y blog yma eto, ac heb rhoi cofnod o'r daith o Fynwent y Crynwyr i Drefforest wnes Dydd Sul diwethaf pan nad oedd lefel y dwr ond yn gymedrol. Gyda fi y tro hwn roedd John M., Chris C, Sam a Mark, y tri diwethaf o Glwb Caerdydd. Ac ar Ddydd Sadwrn yr wythnos cyn hwnnw, bues yn syrffio yn Rest Bay, a'r tonnau yn anferth.
No comments:
Post a Comment