Tuesday, June 20, 2006
Teithiau - Gwy (11fed), Rest Bay (13eg), Ynys Sili (18fed)
Sunday, June 4, 2006
Taith i Awstria, 27 Mai - 3 Mehefin
Es gyda chanolfan Arthog, gan gwrdd â'r bws yn Dover i ddal fferi 1.00 ar fore Dydd Sadwrn. Ar y daith gyda fi roedd Andy a Dave o Arthog, Chris C. ac Alex o Gaerdydd, Karl a Louise B, Bev, Louise T., Matt a Dan.
Arhosom yn Bezau yn yr Almaen ar nos Sadwrn a phadlo Afon Bregenze Ache ar ddydd Sul gan roi i mewn ger y gwersyll.
http://www.kajaktour.de/bregenzer.htm
Roedd yr afon yn llifo yn weddol cyflym wrth y gwersyll ond ar ôl inni gario heibio i'r orsaf drydan gyntaf ychydig o ddwr oedd yn yr afon a buon yn gorfod crafu trwy ddwr bas yn aml. Fe'm hatgoffwyd am sawl daith ar Afon Taf. Daethom at gored yn Eigg a bu bron i mi gael f'ysgubo drosodd ar f'ochr ond llwyddais sythu mewn pryd. Ychydig ymhellach ymlaen ac fe newidiodd yr afon yn llwyr. Roedd nentydd mewn llif yn ymuno â'r afon ac yn sydyn roeddem mewn dwr mawr. (100cm oedd lefel y dwr yn Mellau, 200cm yn Kennelbach, yn ôl a ganfyddais wedyn. Roedd ychydig yn uwch eto y diwrnod wedyn). Stopiom i edrych ar ddarn anodd lle roedd yn rhaid inni osgoi coeden yn yr afon ond fe lwyddom i fynd heibio yn ddidramgwydd. Yn tynnu tua'r diwedd aeth y grwp cyntaf i lawr darn anodd (G4+ gyda lefel y dwr yma) a gwelon ni nhw i gyd yn saethu o'r ochr chwith i'r ochr dde. Arwydd fod stopper yn y gwaelod. Arweiniodd Andy ein grwp ni, yn cael ei ddilyn gan Bev, Alex, Chris, fi a Dan. Roedd y dwr yn anferth. Gwelais Andy yn saethu i'r awyr ac es ymhellach i'r dde. Yn y gwaelod fe dorrais i mas i'r chwith heb broblem ond gweld cyflafan o'm blaen. Roedd tri yn nofio, Andy, Bev ac Alex a'u cychod yn cael eu hysgubo i lawr. Penderdynias aros gyda'r ddau oedd wrthi nofio tua'r lan, sef Andy a Bev, yn hytrach na cwrso yn gweddill. Aeth Chris ar ôl Alex a'i chwch. Roedd cwch Andy wedi cael ei dal wrth droed y graig uwchben ond roedd cwch Bev wedi ei ysgubo i ffwrdd. Daeth Matt, Louise T. a Dave i ymuno â ni ac fe dringon lan ochr serth y mynydd gan lusgo ein cychod, nes cyrraedd alpau, a dilyn trac trwy'r caeau at y lôn fawr.Pedair awr wedyn llwyddon ni i ddod o hyd i Chris oedd wedi llwyddo achub cwch Bev.
Dydd Llun: Afon Inn
Dydd Mawrth: Afon Rissbach, Bafaria
http://www.kajaktour.de/rissbach.htm
Dydd Mercher: Ceunant Schuls, ar afon Engadine yn yr Yswisdir.
Dydd Iau: rhan uchaf Afon Isar, Bafaria
Dydd Gwener: Afon Loisach, Bafaria
Cyrhaeddiais gartref tua 14.00 ar Ddydd Sadwrn 3 Mehefin.
Ymweliadau â Thryweryn
Es i Dryweryn ddwywaith yn ystod mis Mai. Y tro cyntaf padlais gyda Chris C. ac Alex: un rhediad ar hyd yr afon i lawr i'r Bala yn fy Inazone. Nofiodd Alex wrh bont Fedw'r Gog ond heblaw am hynny doedd dim problem.
Yr wythnos wedyn es yng nghwmni Padlwyr y Ddraig. Mae cofnod manylach ar flog y clwb, ynghyd â lluniau a fideos. Y tro cyntaf i mi ddefnyddio fy Hefe newydd oedd hwnnw, yn baratoad ar gyfer y daith i Awstria.