Rwyf wedi bod yn ddistaw ers blwyddyn. Y rheswm am hynny oedd fy mod wedi gorfod rhoi'r gorau i geufadio oherwydd problem gyda f'ysgwydd. Ar ôl ymweld ag Uist, es at arbenigwr i ofyn ei farn: roedd gen i "ardrawiad" ysgwydd ac ar ben hynny roedd yr ysgwydd wedi rhewi, ac roedd gen i ddau benelin tennis. Erbyn hyn yn ffodus, rwyf llawer yn well ac wedi ail-gydio mewn ceufadio. Yn ystod y ddau neu dri mis diwedd rwyf wedi adeiladu i fyny'n araf:
cwpl o droeon bach ger Ynys Sili yng nghwmni Rob G.;
un tro mwy ar fy mhen fy hun, pan es o Swanbridge i bier Penarth ac yn ôl;
tro i Rest Bay gydag E. i syrffio;
tro arall ar fy mhen fy hun o Aberogwr allan i graig Tusker ac wedyn i gyfeiriad traeth Southerndown;
tro bach gydag E. ger Pont-rhydybont, i E. gael ymarfer rholio mewn dwr oedd yn symud, wedyn tro arall gydag e ar afon Menai o Bwll Fanogl i bont Britannia ac yn ôl;
ar nos Lun 20 Awst, es ar afon Taf yng nghwmni Padlwyr y Ddraig, o Fynwent y Crynwyr i Drefforest;
ac ar Ddydd Gwener 24 Awst, gwnes daith, ar fy mhen fy hun eto, o gwmpas 25km, o draeth Lligwy i Ynys Dulas, lle glaniais, cyn mynd o gwmpas Ynys Moelfre ac wedyn ymlaen i Benmon.
No comments:
Post a Comment